Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Kofi Annan, Heddychwr

Meddwl am fywyd Kofi Annan, ac yna edrych am sefyllfaoedd lle gallem ni fod yn heddychwyr.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am fywyd Kofi Annan, ac yna edrych am sefyllfaoedd lle gallem ni fod yn heddychwyr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch ddau i ddarllen ar gyfer prif ran y gwasanaeth. Efallai y bydd angen i chi ddiweddaru’r ffeithiau yn y rhan sy’n sôn am hanes diweddar.

Gwasanaeth

  1. Darllenydd 1: Mae’n 22 Ionawr 2008. Mae cythrwfl wedi bod yng ngwlad Kenya am dros dair wythnos, ers i’r Arlywydd, Mwai Kibaki, ar 30 Rhagfyr, ennill yr etholiad i fod yn arlywydd. Mae aelodau’r brif wrthblaid wedi  cyhuddo’r arlywydd o dwyllo yn yr etholiad. 

    Canlyniad hyn yw ffrwydrad o drais sectyddol, wrth i grwpiau o ddilynwyr ffyddlon i’r naill ochr a’r llall ymosod ar ei gilydd ac ar y llwythau y maen nhw’n meddwl sy’n ffyddlon i’r ochr arall. Ar 1 Ionawr, cafodd 30 o bobl eu llosgi i farwolaeth wrth iddyn nhw geisio lloches mewn eglwys. Mae beth bynnag 1,000 o bobl wedi’u lladd, a 250,000 wedi’u gorfodi i adael eu cartrefi yn y trais sy’n digwydd yno. 

    Mae’r awyren yn glanio nawr. Ar yr awyren hon mae rhywun o bwysigrwydd byd-eang, y mae llawer yn edrych arno fel y gobaith gorau er mwyn dod â’r bobl i gytundeb heddychol. Rydych chi’n ei gyfarch gyda’r parch sy’n ddyledus i ddyn sydd wedi gwasanaethu am ddau dymor fel Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, llefarydd yr awdurdod mwyaf blaenllaw yn y byd ar hawliau dynol, perthnasoedd rhyngwladol a chyfiawnder byd-eang. Mae Kofi Annan yn ddyn enwog, sydd wedi rhoi ei fywyd i chwilio am heddwch a ffyniant.

  2. Darllenydd 2: Mae’n dweud wrthych chi am ei blentyndod. Cafodd ei eni i deulu breintiedig yn Ghana ar 8 Awst 1938. Yn 1957, y flwyddyn y graddiodd yn y coleg, daeth Ghana y wladfa Brydeinig gyntaf i gael annibyniaeth yn yr Affrica is-Sahara. Ymunodd â’r Cenhedloedd Unedig yn 1962 fel swyddog cyllido ar gyfer Sefydliad Iechyd y Byd (World Health Organization). 

    Gan weithio’i ffordd i fyny’r ysgol, fe weithiodd am flwyddyn fel Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol y Gweithrediadau Cadw Heddwch rhwng 1993 a 1994. Yn ystod yr amser yma, beirniadwyd y Cenhedloedd Unedig am fethu gweithredu pan ffrwydrodd yr hil-laddiad yn Rwanda. Yn codi o’r rhyfel cartref, dechreuodd gwrthdaro ethnig yn Rwanda, ac o ganlyniad i saethu awyren yr Arlywydd fe barodd hyn wedyn i o leiaf hanner miliwn o bobl gael eu lladd. Methodd y Cenhedloedd Unedig weithredu yn yr achos yma nes ei bod yn rhy hwyr, ac fe wynebodd Kofi Annan feirniadaeth lem.

    Er gwaethaf hyn, etholwyd Annan yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 1 Ionawr 1997. Mae’n disgrifio’i ymrwymiad i helpu pobl dlawd y byd, yn enwedig trwy geisio atal HIV/AIDS rhag lledaenu. Mae’n dweud wrthych chi ei bod yn ‘flaenoriaeth bersonol’ ganddo ac mae’n dweud pa mor falch yr oedd am fod Cronfa Fyd-eang wedi’i sylfaenu i ymladd yn erbyn AIDS, tiwberciwlosis a malaria. Sefydlwyd y gronfa hon yn ystod yr uwchgynhadledd y G8 Summit, lle daeth arweinyddion cenhedloedd cyfoethocaf y byd at ei gilydd yn 2001. Ac ers mis Mehefin 2007, mae’r gronfa’n nodi ei bod wedi bod yn gyfrwng i achub bywydau 1.9 miliwn o bobl ar draws 136 o genhedloedd ledled y byd.

  3. Darllenydd 1: Enillodd Kofi Annan Wobr Heddwch Nobel yn 2001. Dywedodd y dyfarnwyr: ‘The only negotiable road to global peace and co-operation goes by way of the United Nations. Mr Annan has been pre-eminent in bringing new life to the organisation.’ Dyma farn llawer un: Mae’n amlwg bod Annan wedi chwarae rhan hanfodol wrth adnewyddu a moderneiddio’r gyfundrefn sy’n dyddio’n ôl i 1947. 

    Elfen bwysig o hyn yw’r polisi o ymyriad y bu Annan yn allweddol yn y broses o’i lunio, polisi oedd yn gofyn i’r Cenhedloedd Unedig ymyrryd er mwyn rhoi stop ar gyflafan o’r fath a hil-laddiad. Tra mae’r polisi yma’n dal i fod angen ei weithredu’n llwyddiannus, fe allai’r egwyddor ei hun ddod yn waddol pwysig y byddwn yn ei chysylltu â’r seithfed Ysgrifennydd Cyffredinol, Kofi Annan.

  4. Darllenydd 2: Rhoddodd Annan y gorau i fod yn Ysgrifennydd Cyffredinol ar 31 Rhagfyr 2006. Yn ei araith olaf, fe amlinellodd y tair prif broblem: economi anghyfiawn y byd, anrhefn yn y byd, a dirmyg mawr  tuag at hawliau dynol a rheoli'r gyfraith, sef ‘an unjust world economy, world disorder, and widespread contempt for human rights and the rule of law’. Dywedodd Annan ei fod yn credu nad oedd y pethau hyn wedi’u datrys yn ystod yr amser yr oedd yn Ysgrifennydd Cyffredinol, ond yn hytrach roedden nhw wedi gwaethygu - ‘not resolved, but sharpened’. Mae’r tair problem yn nodweddu ei swydd fel prif weinidog: rhoddodd bwyslais ar helpu’r anghenus, yn enwedig y rhai oedd yn cael eu gormesu, ac atal lledaeniad afiechydon marwol gyda’r cyfryngau sydd ar gael i’w gwella.

    Wrth i chi siarad, rydych chi’n adnabod pwysigrwydd y materion hyn. Nid yw pobl Kenya wedi cael eu hanghofio gan y gymuned ryngwladol. Mewn adeg o galedi mawr, mae bob amser bosibilrwydd y bydd eraill yn gallu cynnig gobaith a nerth.

Amser i feddwl

Mae Kofi Annan wedi treulio’i fywyd yn ceisio dod â heddwch a chyfiawnder i’r byd.
I ble gallwn i ddod â heddwch heddiw?
Ble gallwn i sefyll dros gyfiawnder?

Dywedodd Iesu, ‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, oherwydd cânt hwy eu galw’n blant i Dduw.’ (Mathew 5.9)

Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r geiriau canlynol, sy’n addasiad o eiriau enwog  Sant Ffransis o Assisi, fel gweddi:
Arglwydd, gwna fi’n offeryn dy hedd.
Lle mae casineb, boed i mi hau cariad,
Lle mae camwedd, maddeuant,
Lle mae amheuaeth, ffydd,
Lle mae anobaith, gobaith,
Lle mae tywyllwch, goleuni,
Lle mae tristwch, llawenydd.
O Feistr Dwyfol, caniatâ i mi gysuro yn hytrach na chael fy nghysuro,
I ddeall yn hytrach nag i gael fy neall,
I garu yn hytrach na cheisio cael fy ngharu,
Oherwydd wrth roi yr ydym yn derbyn,
Wrth faddau yr ydym yn derbyn maddeuant,
Wrth farw yr ydym yn deffro i fywyd tragwyddol.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon