Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Biochar: Gobaith I'r Byd?

Archwilio’r cysyniad o gariad anhunanol yng nghyd-destun Auschwitz (thema: ‘Dysgu bod gyda’n gilydd’).

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio’r cysyniad o gariad anhunanol yng nghyd-destun Auschwitz (thema: ‘Dysgu bod gyda’n gilydd’).

Paratoad a Deunyddiau

  • Cofiwn am Ionawr 27 fel Diwrnod yr Holocaust.

  • Fe allech chi drefnu i rai o’r myfyrwyr ddarllen yr adnodau o’r Beibl (Ioan 15.12–17), ac i adrodd stori Maximilian Kolbe.

  • Awgrymir chwarae’r gerddoriaeth  Adagio for Strings, gan Barber, wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y darlleniad canlynol o Efengyl Ioan 15.12-17:

    ‘Dyma fy ngorchymyn i: carwch eich gilydd fel y cerais i chwi. Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion. Yr ydych chwi’n gyfeillion i mi os gwnewch yr hyn yr wyf fi’n ei orchymyn i chwi. Nid wyf mwyach yn eich galw’n weision, oherwydd nid yw’r gwas yn gwybod beth y mae ei feistr yn ei wneud. Yr wyf wedi eich galw yn gyfeillion, oherwydd yr wyf wedi gwneud yn hysbys i chwi bob peth a glywais gan fy Nhad. Nid chwi a’m dewisodd i, ond myfi a’ch dewisodd chwi, a’ch penodi i fynd allan, a dwyn ffrwyth, ffrwyth sy’n aros. Ac yna, fe rydd y tad i chwi beth bynnag a ofynnwch ganddo yn fy enw i. Dyma’r gorchymyn yr wyf yn ei roi i chwi: carwch eich gilydd.’

  2. Mae’r adnodau yma’n sôn am gariad. Ond beth yw cariad? Y ffordd y mae tad neu fam yn caru eu plentyn? Neu’r ffordd y mae brawd yn caru ei chwaer, a chwaer yn caru ei brawd? Neu’r ffordd y mae gwr yn caru ei wraig, a gwraig yn caru ei gwr?

    Dywedodd Iesu: ‘Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.’ Ond, a fyddai unrhyw un yn barod i farw er mwyn achub ei ffrind?

  3. Heddiw, rydw i’n mynd i sôn wrthych chi am ddyn a wnaeth fwy na marw i achub ei ffrind. Fe wnaeth y dyn yma wirfoddoli i farw er mwyn achub rhywun nad oedd hyd yn oed yn ei adnabod. Enw’r dyn arbennig yma oedd Maximilian Kolbe.

    Roedd Maximilian Kolbe yn offeiriad yng ngwlad Pwyl, ac roedd yn byw yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe fyddai’n darparu lloches ar gyfer ffoaduriaid yr oedd y Nazis yn eu herlid, yn cynnwys 2,000 o Iddewon a fu’n cuddio yn ei fynachlog. Cafodd ei arestio am wneud hyn gan y Gestapo yn 1941, a chafodd ei anfon i Auschwitz, un o’r gwersylloedd crynhoi yn yr Almaen.

    Roedd y carcharorion yn cael eu cadw yno mewn bynceri pren mawr, oer a digysur. Un o reolau Auschwitz oedd y byddai deg dyn yn cael eu lladd os byddai un yn dianc o’r gwersyll. Ym mis Gorffennaf 1941, fe ddihangodd un o’r dynion o’r byncer lle'r oedd Maximilian Kolbe.  

    Dewiswyd deg o ddynion o’r byncer a’u dedfrydu i newynu i farwolaeth er mwyn dial am hyn. Doedd Maximilian Kolbe ddim yn un o’r deg a ddewiswyd. 

    Ond fe glywodd un o’r lleill a ddewiswyd, sef dyn o’r enw Franciszek Gajowniczek yn gweiddi mewn braw: ‘O! Beth am fy ngwraig? Beth am fy mhlant? Beth wnân nhw?’ Wrth ei glywed yn llefain yn y fath ofid anobeithiol, fe gamodd Maximilian Kolbe yn ei flaen yn dawel, a chan dynnu ei gap fe safodd o flaen penswyddog y gwersyll a dweud, ‘Rydw i’n offeiriad. Gad i mi gymryd ei le. Rydw i’n hen. Ond mae ganddo ef wraig a phlant.’  

    Edrychodd penswyddog y gwersyll mewn syndod ar Maximilian Kolbe, ond fe gytunodd iddo gymryd lle’r dyn arall. Roedd Maximilian Kolbe wedi gwirfoddoli i aberthu ei fywyd fel y gallai dyn arall, a oedd yn hollol ddieithr iddo, gael byw.

    Rhoddwyd Maximilian Kolbe mewn cell gyda’r naw dyn arall ac fe’u gadawyd yno i newynu i farwolaeth. Yn ystod y cyfnod y buon nhw yn y gell fe geisiodd Kolbe gadw ysbryd y lleill trwy ganu a gweddïo. Maximilian Kolbe oedd yr olaf o’r deg i farw, a bu hynny ar 14 Awst 1941.

    Mae’r gell honno yn Auschwitz yn awr yn gysegr i Maximilian Kolbe, a gafodd ei wneud yn sant yn y flwyddyn 1981. Bu Franciszek Gajowniczek, y dyn y gwnaeth Maximilian Kolbe wirfoddoli i farw yn ei le, fyw am 53 o flynyddoedd wedyn, ac fe fu farw yn 95 oed yn 1995. Wnaeth Franciszek Gajowniczek byth anghofio Maximilian Kolbe, ac fe aeth yn ei ôl i Auschwitz, ar 14 Awst bob blwyddyn wedi iddo gael ei ryddhau, er mwyn anrhydeddu’r dyn a fu farw yn ei le.

Amser i feddwl

Heddiw fe wnes i ofyn i chi, beth yw cariad?

Fe ddywedais wrthych chi bod Iesu wedi dweud: ‘Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.’ 
Ac yna fe ofynnais, a fyddai unrhyw un yn barod i farw er mwyn achub ei ffrind?
Fe wnaeth Maximilian Kolbe farw, nid er mwyn achub ei ffrind ond er mwyn achub rhywun nad oedd hyd yn oed yn ei adnabod.
Dyna beth yw cariad.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Dysga ni i garu ein gilydd.
Helpa ni i fod yn amyneddgar gyda’n gilydd.
Helpa ni i wrando ar ein gilydd,
ac i geisio gweld pethau o safbwynt pobl eraill.
Arwain ni i geisio ysbrydoliaeth gan y rhai hynny sydd wedi byw eu bywydau mewn ffordd dda,
fel y gallwn ninnau fyw ein bywydau yn y ffordd y byddet ti’n dymuno i ni wneud.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon