Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Paid A Gadael I Ni Gael Ein Temtio

Ystyried y neges sydd yn gefndir i’r cyfnod Cristnogol, y Garawys, trwy edrych ar demtasiwn a sut i’w oresgyn.

gan Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y neges sydd yn gefndir i’r cyfnod Cristnogol, y Garawys, trwy edrych ar demtasiwn a sut i’w oresgyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae gan ‘Google Images’ ddarluniau gwych am demtasiwn i’w llwytho i lawr ar gyfer yr Amser i Feddwl, teipiwch y gair temptation.

  • Rhywfaint o gerddoriaeth fyfyriol ar gyfer y cyfnod o fyfyrdod.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr a oes unrhyw un ohonyn nhw’n gwybod beth yw ystyr y Garawys, neu ba bryd y mae’n cychwyn.  A oes unrhyw un wedi penderfynu ‘ymprydio’ neu roi’r gorau i wneud rhywbeth dros gyfnod y Garawys? Os ydyn nhw, beth? A oedd hynny’n anodd? Beth wnaethoch chi ddysgu o’r profiad?

  2. Hen air Saesneg yw ‘Lent’ sy’n golygu ‘ymestyn’, ond mae’r gair Cymraeg ‘Garawys’ yn dod o’r gair Lladin ‘Quadragesima’ sy’n golygu deugain neu bedwar deg.  Fe fydd y Garawys yn cael ei gadw yn y Gwanwyn pan fydd y dyddiau yn ymestyn. Mae gwyl y Garawys ar y calendr Cristnogol yn cofio’r deugain dydd a dreuliodd Iesu yn cael ei demtio yn yr anialwch (Mathew 4.1-11), cyn iddo ddechrau ei weinidogaeth bregethu, ac mae’n annog Cristnogion i feddwl am eu perthynas gyda Duw, rhyw fath o ‘lanhad gwanwyn ysbrydol’.  Bydd y Garawys yn cychwyn ar Ddydd Mercher y Lludw (17 Chwefror 2010), trannoeth Dydd Mawrth Ynyd (hefyd yn adnabyddus fel Dydd Mawrth Crempog). Eleni, fe fydd llawer o bobl ym Mhrydain yn bwyta crempogau ar 16 Chwefror. Y rheswm am y traddodiad hwn yw bod gwneud y cymysgedd ar gyfer y crempogau yn gyfle i ddefnyddio cynhwysion moethus fel wyau ac ymenyn, y bydden nhw’n gwneud hebddyn nhw yn ystod ympryd 40 niwrnod y Garawys.

  3. Bydd llawer o Gristnogion yn defnyddio’r 40 diwrnod, sy’n arwain at ddydd y Pasg, fel cyfle i atal eu hunain rhag cymryd rhywbeth y maen nhw fel arfer yn ei fwynhau, er mwyn cael dealltwriaeth well o Iesu a’i fywyd o wasanaeth. Mae peidio â bwyta neu osgoi bwyta bwydydd, neu bethau eraill, am resymau ysbrydol yn cael ei alw’n ‘ympryd’; dim ond ychydig iawn o bobl sydd yn ymprydio trwy gydol y Garawys, er bod rhai yn cadw at y traddodiad o ymprydio ar ddydd Mercher y Lludw a dydd Gwener y Groglith.   

    Mae ympryd yn brawf o hunanddisgyblaeth a hunanreolaeth.  (Bydd pobl o’r Ffydd Islamaidd yn ymprydio yn ystod oriau’r dydd trwy’r cyfnod sy’n cael ei alw’n Ramadan.) Y tri ymarfer traddodiadol y dylid eu hannog yn ystod y Garawys yw gweddi (cyfiawnder tuag at Dduw), ympryd (cyfiawnder tuag at yr hunan), a chyfrannu tuag at elusen (cyfiawnder tuag at gymydog). Heddiw, bydd pobl efallai yn debygol o beidio â gwneud rhyw arferiad drwg sydd ganddyn nhw, a gwneud rhywbeth sydd yn mynd i’w harwain yn nes at Dduw. Efallai y bydden nhw’n rhoi’r amser a’r arian y byddan nhw’n ei wario ar wneud hynny tuag at waith elusennol neu at waith mudiadau eraill.  http://en.wikipedia.org/wiki/Lent

  4. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi cael ei demtio mewn tair ffordd wahanol gan y diafol: (1) i ddefnyddio’i nerthoedd i gael gwared â’i newyn, a throi cerrig yn fara, pan oedd yn ymprydio; (2) i roi prawf ar Dduw, trwy daflu ei hun oddi ar adeilad uchel er mwyn cael ei achub gan angylion; a (3) i gael cynnig yr holl fyd pe byddai’n barod i addoli’r diafol yn hytrach na Duw.  Mae’r Beibl yn ein haddysgu trwy ddatgan nad yw temtasiwn ei hun yn gamwedd, ond yn hytrach rhoi mewn i demtasiwn sy’n beryglus oherwydd gall arwain at bechod, neu dorri rheolau Duw ar gyfer y modd y dylem fyw bywydau da. Byddwn yn darllen yn y stori fod boddhad corfforol, pa faint yw’r gost i ni, y dyhead i fod yn boblogaidd a’r awydd i fod yn bwerus, i gyd yn demtasiynau mawr sy’n ein hwynebu'r dyddiau hyn. Mae Cristnogion yn credu bod Iesu wedi cael profiad o’r un math o dreialon a themtasiynau ag sy’n gyffredin i ni i gyd.

  5. Bydd cwmnïau yn defnyddio’r thema o ‘demtasiwn’ yn aml yn eu hysbysebion, fel yr hysbysebion cyfredol i hyrwyddo’r cynnyrch Lynx.  Maen nhw’n addo i ddynion ifanc a bechgyn os gwnân nhw wisgo diaroglydd eu cwmni nhw y byddan nhw’n darganfod ymhen dim eu bod yn fagnet i bob merch brydferth yn y cyffiniau! Mae temtasiwn yn cael ei ddefnyddio fel hyn i wneud eu cynnyrch yn fwy deniadol a chwannog. Yn yr un modd, mae creision Walker’s yn cael eu portreadu yn gymaint o demtasiwn i’r cyn chwaraewr pêl-droed o Loegr a chyflwynydd chwaraeon, Gary Lineker, fel ei fod yn barod i wneud unrhyw beth i gael gafael arnyn nhw ac atal unrhyw un arall rhag cael eu mwynhau. Y syniad yw bod apêl y creision yma i Gary i fod cystal i ni hefyd.  Rydym yn cael ein temtio i brynu math o gynnyrch y mae un dyn yn barod i wneud unrhyw beth i gael ei ddwylo arno. 

  6. Ym mha ffordd y mae hysbysebion yn ceisio eich temtio chi?  A ydych chi erioed wedi gweld hysbyseb am rywbeth - bar o siocled, neu CD - ac yna mynd allan i’w brynu? 

    Gan beth yr ydych yn cael eich temtio fwyaf? Bwyd? Bechgyn? Genethod? Dweud anwiredd er mwyn gwneud eich hunan i ymddangos yn well na’r hyn ydych chi?  Twyllo mewn arholiadau? Lledaenu clecs pan fydd rhywun wedi rhannu rhywbeth gyda chi sy’n bersonol iawn iddyn nhw a’u bod yn ymddiried ynoch i beidio â sôn wrth neb arall? 

  7. Sut ydych chi’n teimlo, pan fyddwch chi’n ildio i demtasiwn? Ar y dechrau efallai y byddwn yn teimlo boddhad. Ond mae’r ffydd Gristnogol yn datgan y byddwn yn y pen draw yn teimlo’n edifar, yn euog ac yn ddolurus. Yn aml, ildio i demtasiwn yw’r opsiwn hawdd. Gall pob un ohonom gael ein temtio gan wahanol bethau ac efallai y bydd yn beth anodd gwrthod. Mae temtasiwn yn fwy effeithiol pan fydd person yn awchu am y peth neilltuol hwnnw. Bydd rhywun sy’n ceisio rhoi gorau i ysmygu yn cael ei demtio i smocio sigarét os oes pobl eraill yn smocio gerllaw. Neu, os yw perthynas yn mynd trwy brofiad anodd, bydd y syniad o gael perthynas â phartner newydd deniadol yn gynnig sy’n anodd ei wrthwynebu.

  8. Fodd bynnag, pan fyddwn yn dod wyneb yn wyneb â themtasiwn, sy’n digwydd i bob un ohonom, neges y Garawys yw bod ffordd osgoi ar ein cyfer – nid ydym yn ddiymadferth nac yn cael ein gorfodi i ildio i’n chwantau; fe allwn ni wrthwynebu. Daw cyfnod y Garawys i ben ar ddydd y Pasg. Ar ddydd Gwener y Groglith bydd Cristnogion yn cofio fel y bu Iesu farw ar groes yn Jerwsalem, oedd ym meddiant y Rhufeiniaid.  Maen nhw’n credu bod Iesu, trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad, yn gallu dod â ni’n ôl i arddel perthynas dda gyda Duw, a bod hynny’n cael ei ddathlu adeg y Pasg.

Amser i feddwl

Dangoswch y delweddau ‘temtasiwn’, a chwaraewch ychydig o gerddoriaeth.

Cymerwch funud i feddwl am y temtasiynau yr ydych chi wedi bod yn ymlafnio â nhw neu yn ymlafnio â nhw ar hyn o bryd.
Sut mae modd i chi ddysgu peidio ag ildio i’r temtasiynau hynny?
Pa gamau sydd yn ofynnol i chi eu cymryd i gyrraedd y nod hwnnw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i ddelio â sefyllfaoedd yn ein bywydau lle’r ydym wedi dod yn gaeth i rai temtasiynau,
boed hynny wrth i ni orfwyta neu wneud ein hunain i edrych yn dda ar draul eraill.
Helpa ni i ddarganfod ffyrdd i sefyll yn gadarn pan gawn ein temtio,
fel bod modd i ni fyw bywydau sy’n adlewyrchu mwy o dangnefedd a llawenydd.
Amen

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon