Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Thomas Edison

Dangos sut y gall doniau a gwaith caled rhai pobl helpu i roi bywyd gwell i weddill pobl y byd.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Dangos sut y gall doniau a gwaith caled rhai pobl helpu i roi bywyd gwell i weddill pobl y byd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Lluniau o ddyfeisiau sydd wedi llunio ein bywyd (gwelwch rif 2).

  • Lluniau o ddyfeisiau Thomas Edison.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr a ydyn nhw wedi clywed ryw dro am ddyn o’r enw Thomas Edison. Nodwch awgrymiadau’r myfyrwyr ar bwy y gall fod. Yna, hysbyswch y myfyrwyr bod Edison yn ddyfeisiwr enwog iawn oedd yn byw yn y ganrif ddiwethaf.  

  2. Dangoswch ddarluniau o ddyfeisiadau pwysig iawn (yr olwyn, torth o fara wedi ei thafellu, tuniau bwyd, awyren, peiriant motor, briciau a mortar, bylb golau, gramoffon neu chwaraeydd CD, ac ati.). Trafodwch sut y bu i’r dyfeisiadau yma helpu’r gymdeithas gyfan.  Gofynnwch i’r myfyrwyr sut y byddai ein bywyd ni heddiw hebddyn nhw.
  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr am y broses feddyliol y mae’n ofynnol i ddyfeisiwr fynd trwyddo. Cymhellwch y myfyrwyr i ddod i gytundeb bod yn rhaid i ddyfeisiwr feddu ar ryw ysbrydoliaeth yn gyntaf er mwyn mynd ati i feddwl am rywbeth fydd yn fodd i wella bywydau pobl; yna’r broses o astudio er mwyn canfod beth sydd wedi cael ei ddysgu o’r blaen gan eraill; yna archwiliad i weld a yw’n bosib datblygu ei syniad ef neu hi ymhellach.

  2. Dywedwch wrth y gynulleidfa bod Thomas Edison wedi dyfeisio miloedd o bethau, ac fe ddangoswyd dau ohonyn nhw yn y lluniau blaenorol. Dywedwch wrth y myfyrwyr na fyddan nhw, y noson honno pan fyddai’r haul yn machlud, yn chwilio am ganhwyllau a lampau nwy, a hynny oherwydd Edison. Pan fyddwn yn gwrando ar ein hoff CD - mae’r diolch am hynny i Edison. Eleni byddwn yn cofio bod 75 mlynedd wedi mynd heibio ers ei farwolaeth.

  3. Pan oedd yn llencyn, bu Thomas Edison yn meddwl beth fyddai’n digwydd pe byddai’n rhoi ty gwair ei dad ar dân. Cafodd ei chwilfrydedd y gorau arno ac  fe gyneuodd y tân.  Hwnnw oedd un o’i arbrofion cynharaf, ac roedd dau ganlyniad i’r digwyddiad: y cyntaf oedd ty gwair wedi ei losgi; yr ail oedd cael cweir iawn gan ei dad. Er gwaethaf y ffaith bod gan Edison feddwl chwilfrydig ac ewyllys i wthio hyd at eithafion gwybodaeth, cafodd ei anfon adref o’r ysgol ar ôl tri mis. Roedd ei athro ar y pryd yn rhy rwystredig gyda’i holl gwestiynau! Cafodd ei addysgu gartref, ac fe ofalodd ei fam fod ei awydd naturiol i ddysgu am bethau newydd yn cael ei feithrin.

  4. Ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, y cyn-heuwr tân ifanc oedd y gwyddonydd mwyaf adnabyddus yn y byd. Roedd yn cael ei ganmol ym mhob man, ac yn cael ei alw’n ddewin ac yn athrylith am ei ddyfeisiadau.  Ond ni adawodd i’w ben chwyddo, a wfftiodd y syniad o fod yn athrylith trwy ddweud:

    ‘Ysbrydoliaeth sydd i gyfrif am 1% o fod yn athrylith ac mae 99% yn chwys.’ (‘Genius is 1 per cent inspiration and 99 per cent perspiration.’)  Gofynnwch i’r myfyrwyr beth oedd Edison yn ei olygu wrth ddweud hyn. Siaradwch am y gwaith caled sydd ynghlwm wrth ddyfeisio pethau newydd.

  5. Dechreuodd Edison ar ei ddyfais orau pan ddywedodd ei fod yn mynd i gynhyrchu golau trydan. Ei wawdio a wnaeth dyfeiswyr a gwyddonwyr eraill trwy ddweud nad oedd hynny’n bosibl, am ei fod yn golygu mynd yn groes i bob rheol a oedd yn wybyddus ym myd Ffiseg.  Ni chymerodd Edison sylw o hynny a bwriodd ymlaen â’r broblem â chryn ymdrech ac ymrwymiad.  Roedd yn gwybod y gallai gynhyrchu golau wrth basio cerrynt trydan trwy ddarn bach iawn o fetel. Ymhen dim byddai’r metel yn poethi ac yn tywynnu.

    Ac yntau’n awyddus i lwyddo, arbrofodd Edison gyda llawer o ddeunyddiau, yn cynnwys gwallt dynol, ond roedd y mwyafrif yn llosgi’n rhy fuan. Ond yr oedd yn dal i gredu bod rhyw ddeunydd a fyddai’n gwneud y gwaith iddo.  Fe ddarganfyddodd bod haenau tenau o bren bambw wedi eu twymo gan drydan mewn bwlb gwydr yn cynhyrchu digon o oleuni i wneud golau trydan yn bosib. Nid dyna oedd y diwedd. Er mwyn gwireddu ei freuddwyd o ddefnyddio trydan i greu golau mewn ty, bu’n rhaid iddo adeiladu’r rhwydwaith mewnol (y ceblau, y mesuryddion trydan ac ati) a ddefnyddiwn ni yn awr.
  1. Yn ystod ei fywyd, datblygodd Edison lawer o ddyfeisiadau a chodi patent arnyn nhw.  Fe wnaeth ei ddyfeisiadau a’i waith caled fywyd pawb yn rhwyddach a hapusach.  Felly, pan fyddwch chi’n pwyso ar switsh y golau heno ac yn gwrando ar eich chwaraeydd recordiau, cofiwch am waith caled Thomas Edison a’i ymroddiad. Yn bwysicach, gadewch i’w gred, sef “bod athrylith yn 99% o chwys” fod yn ysbrydoliaeth i ni ymdrechu’n galetach i gyrraedd at y nodau a osodwn i ni ein hunain: i beidio â digalonni gan watwar pobl eraill, nac ychwaith i beidio â digalonni pan na fyddwn ni wedi llwyddo’r tro cyntaf.

Amser i feddwl

Nid person hawdd i fyw gydag ef oedd Edison, yn yr ysgol nac ychwaith yn ei fywyd personol. Ond o dan y bersonoliaeth bigog honno roedd yno wir athrylith yn cuddio.  Cafodd ei wawdio a thynnwyd ei goes trwy gydol ei fywyd.

Meddyliwch pa mor anodd oedd bywyd Edison: a fydden ni’n gallu bod yn dosturiol wrth athrylith anodd pe byddai’r person hwnnw neu honno’n ffrind i ni?

Mae bod â ffydd a chred yn yr egwyddorion sydd gennym yn bwysig iawn, ond mae hi hefyd yn bwysig ein bod yn talu sylw i safbwyntiau pobl eraill sydd yn wahanol i’n rhai ni, a pheidio ag ymateb iddyn nhw’n negyddol ond ceisio’u hwynebu’n bositif. 

Gweddi
Arglwydd, helpa ni i gael y nerth a’r dyfalbarhad i gyrraedd at y nodau a osodwn i ni ein hunain. 
Gad i ni gofio am y bobl hynny sydd yn gwneud ein bywyd yr hyn ydyw heddiw. 

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon