Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Adfent: Tymor O Ddisgwyl A Gobaith

Helpu’r myfyrwyr i ddeall tymor Cristnogol yr Adfent.

gan Tim and Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i ddeall tymor Cristnogol yr Adfent.

Paratoad a Deunyddiau

  • Calendr Adfent - fe allech chi roi siocled oddi ar y calendr fel gwobrau i’r rhai hynny sy’n gallu ateb cwestiynau am ystyr yr Adfent, yn enwedig y ffaith mai cyfnod yw, nid yn unig i edrych yn ôl ar ddyfodiad cyntaf Iesu i’r byd, ond ei fod hefyd yn rhywbeth i’n hatgoffa i edrych ymlaen at ei ail ddyfodiad.  Ceisiwch hefyd gael gafael ar galendr traddodiadol hefyd - heb y siocledi - gyda golygfeydd o Wyl y Geni yn unig i ddangos y gwrthgyferbyniad.

  • Fel y bydd y myfyrwyr yn ymgynnull ac yn ymadael, chwaraewch gerddoriaeth yr emyn ‘O tyred di, Emanwel’, neu recordiad o’r emyn.  (Caneuon Ffydd rhif 432)

Gwasanaeth

Mae Sul cyntaf yr Adfent eleni ar 18 Tachwedd.

  1. Bydd Sul cyntaf yr Adfent yn cael ei gynnal ar y pedwerydd Sul cyn dydd y Nadolig, ac yn nhraddodiad Cristnogol y Gorllewin, mae’n rhoi cychwyn i’r flwyddyn eglwysig.

    Daw’r gair ‘Adfent’ o’r Lladin ‘adventus’, sy’n golygu ‘dyfodiad’ neu ‘cyrraedd’.

    Beth yw pwrpas tymor Cristnogol yr Adfent? Yng nghalendr yr eglwys, mae’n dynodi’n syml bod y Nadolig bron â chyrraedd: dyfodiad Iesu Grist i’r byd 2000 o flynyddoedd yn ôl, fel baban, ym Methlehem (yr Adfent Cyntaf). Ond mae’r Adfent hefyd yn gyfnod o edrych ymlaen yn ddisgwylgar at ddychweliad Crist yn ei Ail Adfent, yn y dyfodol. Felly nid yw’n gymaint yn gyfnod sy’n cofnodi digwyddiad hanesyddol; mae’n gyfnod hefyd o ddathlu bod Duw’n datguddio’i hun trwy Iesu, y Brenin sydd ar ddyfod. Bydd cyfnod yr Adfent yn parhau hyd at hanner nos ar Noswyl y Nadolig.

  2. Mae Cristnogion yn credu eu bod nhw’n awr yn byw yn y cyfnod rhwng yr Adfent Cyntaf a’r Ail Adfent. Yn ystod tymor yr Adfent, wrth i Gristnogion ganolbwyntio ar y gorffennol yn ogystal ag ar y dyfodol, maen nhw’n cadarnhau bod Iesu wedi camu i mewn i’n hanes ni fel pobl 2000 o flynyddoedd yn ôl, ac maen nhw’n credu y bydd Iesu’n dod eto, i ddod â chyfiawnder, heddwch a thegwch byd-eang.  

  3. Yn draddodiadol mae’r Adfent yn gyfnod o ympryd - yn amser i gwtogi ein mewnbwn o fwyd a diod, i wneud mwy o weddïo a rhoi’n meddyliau ar ddyfodiad Iesu fel baban.  Golyga hyn, wrth i chi nesáu at ddydd y Nadolig ei hun, y byddwch chi, o bosib, yn gallu mwynhau’r dathliadau yn well.  Y tristwch yw, fodd bynnag, y mae’r mwyafrif ohonom y dyddiau hyn yn cael ein partïon Nadoligaidd yn ystod yr Adfent, yn hytrach nag yn ystod y ‘deuddeg diwrnod’ ar ôl y Nadolig, ac ychydig iawn o bobl sy’n ymprydio’r dyddiau hyn yn ystod yr Adfent. 

  4. Dechrau cyfnod yr Adfent fel rheol yw’r adeg pryd y bydd ein paratoadau ar gyfer y Nadolig yn cychwyn o ddifrif – anrhegion yn cael eu dewis a’u lapio, caiff y cardiau Nadolig eu hysgrifennu a’u postio i’n teuluoedd a’n ffrindiau; fe fydd ein tai yn cael eu haddurno, yn aml â goleuadau a set o ffigyrau cymeriadau Gwyl y Geni, a charolau yn cael eu canu.

  5. Bydd calendrau Adfent fel rheol yn dechrau ar 1 Rhagfyr (dangoswch eich calendr Adfent i’r myfyrwyr). Gyda 24 ‘ffenestr’, bydd y calendrau yn gyfrwng i rifo’r dyddiau tuag at y Nadolig (a hefyd rhoi siocled i chi!).

Amser i feddwl

Mae’r Adfent yn gyfnod o aros disgwylgar a pharatoi ar gyfer dathlu genedigaeth Iesu fel bod dynol. Er  gwaethaf gostyngeiddrwydd genedigaeth Iesu, mae Cristnogion yn credu bod ei ddyfodiad cyntaf wedi newid y byd am byth, a bydd ei ail ddyfodiad yn dod â hanes, fel sy’n adnabyddus i ni, i ben.

Meddyliwch am y newidiadau yr hoffech chi eu gweld yn digwydd er mwyn dod â chyfiawnder a heddwch i’r byd.  Sut mae modd i chi helpu i ddod â’r newidiadau hynny ymlaen?  

Beth ydych chi’n ei hoffi am y Nadolig? Sut y gallwch chi helpu i wneud y Nadolig hwn yn adeg o lawenydd a heddwch?

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon