Yr Ymchwil Am Wybodaeth
Helpu myfyrwyr i ystyried y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth, gwirionedd a doethineb, wrth i Wikipedia ddathlu ei 10fed pen-blwydd.
gan Tim and Vicky Scott
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Helpu myfyrwyr i ystyried y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth, gwirionedd a doethineb, wrth i Wikipedia ddathlu ei 10fed pen-blwydd.
Paratoad a Deunyddiau
- Gliniadur a thaflunydd yn dangos tudalen gartref Wikipedia: www.wikipedia.org.
Gwasanaeth
- Gofynnwch i’r myfyrwyr ddisgrifio ystyr y gair ‘gwybodaeth’ a chofnodi eu hatebion ar siart fflip. Ar dudalen arall, gallech wneud yr un ymarfer gyda’r gair ‘doethineb’.
- Dychmygwch fyd lle gallai pob unigolyn gyfrannu’n rhwydd at gronfa gwybodaeth yr holl ddynoliaeth. Dyna’r nod y tu ôl i ddatblygiad un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd ar y rhyngrwyd heddiw. Allwch chi ddyfalu pa wefan yw honno?
- Ddeg mlynedd yn ôl ar 15 Ionawr 2001, cafodd Wikipedia, y gwyddoniadur cydweithredol ar-lein, ei lansio’n swyddogol. Gwyddoniadur am ddim yw Wikipedia, ac mae’n cynnwys tua 30,000 o erthyglau Cymraeg, dros 3.5 miliwn o rai Saesneg ac mae Wikipedias eraill yn cael eu datblygu mewn mwy na 125 iaith. Dyma un o’r pum gwefan sy’n cael y mwyaf o ymweliadau drwy’r byd i gyd. Ers sefydlu Wikipedia yn Ionawr 2001, mae twf y wefan wedi bod yn syfrdanol. O gyfuno holl ieithoedd Wikipedia, mae mwy na 16,100,000 erthygl ar y wefan. Gellir golygu bron y cyfan o’i erthyglau gan unrhyw un sydd â mynediad i’r safle.
Mae’r enw ‘Wikipedia’ yn dod o ddau air: ‘wiki’ (technoleg ar gyfer creu gwefannau cydweithredol, yn deillio o air Hawaiaidd sy’n golygu ‘sydyn’) ac ‘encyclopedia’. Oherwydd bod gan y wefan faint disg diderfyn, bron â bod, gall gynnwys llawer mwy o bynciau na’r hyn y gellir ei gynnwys mewn unrhyw wyddoniadur confensiynol wedi’i argraffu.
- Sefydlwyd Wikipedia gan Jimmy Wales, entrepreneur y rhyngrwyd o Unol Daleithiau America. Yn 1999, cafodd Jimmy Wales syniad am wyddoniadur y gellid ei ddosbarthu’n rhwydd, a sefydlodd Nupedia. Huriodd yr athronydd Larry Sanger fel prif olygydd a phenododd ddau raglennydd i ysgrifennu meddalwedd ar ei gyfer. Methodd Nupedia, ond ar ôl dwy flynedd o weithio gyda chysyniad Nupedia, agorodd yr un tîm Wikipedia i helpu’r gwaith o sianelu cynnwys i mewn i Nupedia. Daeth Wikipedia yn llwyddiant ar unwaith, ond nid yn y ffordd roedden nhw wedi ei ddisgwyl, a chaewyd Nupedia. Yn 2003, sefydlodd Jimmy Wales sefydliad o’r enw Wikimedia Foundation, sefydliad nid er elw, i gefnogi Wikipedia a’i chwaer brosiectau. Ei fwriad yw rhoi’r grym i bobl o gwmpas y byd, a’u hymgysylltu, i gasglu a datblygu cynnwys addysgol dan drwydded ddi-dâl neu’n eiddo cyhoeddus, a’i ledaenu’n effeithiol a thrwy’r byd i gyd - ‘to empower and engage people around the world to collect and develop educational content under a free license or in the public domain, and to disseminate it effectively and globally.’
- Gallu unrhyw un gyfrannu gwybodaeth at Wikipedia, ac mae cannoedd ar filoedd o wirfoddolwyr yn cyfrannu cynnwys ato o bob rhan o’r byd. Mae hyn yn cael ei weld gan nifer fel ei brif gryfder, ond mae eraill yn ei weld fel ei brif wendid. Mae gwybodaeth yn ddemocrataidd. A yw hynny’n golygu fod unrhyw un, waeth bynnag beth yw lefel eu cymhwysedd mewn maes penodol, yn cael ymuno yn y gwaith? Ar Wikipedia, mae cyfraniad pawb yn gydradd. Pan wneir newidiadau i erthygl, maen nhw ar gael ar unwaith i unrhyw un ar y we, cyn cael eu golygu mewn unrhyw fodd, pa un ai a ydyn nhw’n cynnwys gwall, yn gamarweiniol, neu hyd yn oed yn nonsens llwyr. Mae’r wefan wedi ei sefydlu ar gonsensws; er hynny, mae’r rhai sy’n feirniadol ohoni yn dweud nad yw hynny’n arwain at frasamcan gwell o’r gwirionedd.
- Mae angen i wybodaeth gael ei wirio cyn iddo fod o unrhyw werth gwirioneddol i ni. Mae gwirio’n dangos a yw gwybodaeth yn wir neu’n anwir, yn ddiduedd neu’n dangos tuedd. Os yw’r wybodaeth yn wir, mae’n ddibynadwy ac mae modd ymddiried ynddi; os yw’n anwir, mae’n annibynadwy ac yn ddiwerth. Tra bod nifer o erthyglau rhagorol, cytbwys neu ‘ddiduedd’, wedi cael eu hymchwilio’n dda, o bryd i’w gilydd bydd erthyglau gwael, camarweiniol, sy’n dangos tuedd, a hyd yn oed yn fwriadol anwir, yn cael eu llwytho i fyny, gan wneud Wikipedia yn ffynhonnell gyfeirio annibynadwy a gwallus mewn rhai achosion. Mae Wikipedia yn tueddu i adael i olygyddion blismona a chywiro camgymeriadau sy’n digwydd drostyn nhw eu hunain. Er hynny, mae gwaith gan ysgolheigion wedi dangos nad yw’r erthyglau sy’n cael eu ‘fandaleiddio’ yn para’n hir, ac o’i gymharu â chronfa gyfeirio enwog yr Encyclopaedia Britannica, daeth deunydd Wikipedia yn agos ato o ran lefel ei gywirdeb.
- A yw hi’n iawn i gyfranwyr hawlio gwybodaeth nad ydyn nhw’n ei meddu, ac nad ydyn nhw erioed wedi gweithio tuag ati? A yw Wikipedia yn arwain at ormod o amaturiaid yn cael gormod o rym i berswadio pobl fod ganddyn nhw wybodaeth o ddifrif am bwnc penodol?
Mae myfyrwyr ysgolion a phrifysgolion yn aml yn cyfeirio at erthyglau Wikipedia fel dewis arall ar gyfer eu hesboniadau eu hunain ar gysyniadau neu ddisgrifiadau o ddigwyddiadau. A yw Wikipedia yn arwain at lên-ladrad (twyllo) a gwrth-ddeallusrwydd? Beth yw eich barn chi?
Amser i feddwl
… oherwydd bydd doethineb yn dod i’th feddwl, a deall yn rhoi pleser i ti. (Diarhebion 2.10)
Ac os oes gennyf ddawn proffwydo, ac os wyf yn gwybod y dirgelion i gyd, a phob gwybodaeth, ac os oes gennyf gymaint o ffydd nes gallu symud mynyddoedd, a heb fod gennyf gariad, nid wyf ddim.
(1 Corinthiaid 13.2)
Beth yw gwybodaeth, a sut mae hynny’n wahanol i ‘ddoethineb’?
Gweddi
Arglwydd, diolch am adnoddau fel Wikipedia.
Helpa ni i ddefnyddio adnoddau o’r fath yn ddoeth a chyfrifol.
Dduw’r gwirionedd, helpa ni nid yn unig i ddod yn fwy gwybodus
ond yn fwy doeth, fel y gallwn fyw’n ddoethach,
gan wybod am dy gariad at eraill, a dangos y cariad hwnnw.