Tsieina: Newid Araf Er Gwell?
Archwilio gwleidyddiaeth y Tsieina fodern.
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Archwilio gwleidyddiaeth y Tsieina fodern.
Paratoad a Deunyddiau
- Paratowch gyflwyniad PowerPoint o ddelweddau sy’n dangos gwahanol ffasedau o’r Tsieina fodern - o’r dinasoedd modern enfawr i’r bobl dlawd sy’n byw yng nghefn gwlad.
- Llwythwch i lawr ychydig o gerddoriaeth draddodiadol y Tsieiniaid ar gyfer y sesiwn myfyrdod.
Gwasanaeth
- Trwy gydol storïau newyddion unigol, mae yna arcau a phlotiau sydd i’w gweld yn graddol ddatblygu. Mae’r byd yn symud tuag at ddod i gasgliadau unigol fel pe bydden nhw wedi eu hadeiladu gan awdur neu ddramodydd. Wrth gwrs, fydd y casgliadau hyn ddim yn datgan unrhyw ddiwedd, oherwydd erbyn hynny bydd arcau stori newydd wedi dod i’r amlwg.
- Un o brif arcau’r ddegawd ddiwethaf yw honno am dwf Tsieina fel grym byd eang. Fel y bydd sawl newyddiadurwr a haneswyr yn ein hatgoffa, nid yw hyn yn rhywbeth newydd o gwbl. Tsieina oedd y prif rym byd-eang yn y byd yn nhermau grym milwrol a phwer economaidd am gannoedd o flynyddoedd hyd nes y daeth goruchafiaeth drefedigaethol y Gorllewin i’w disodli. Mae cwymp graddol Ewrop a’r ergyd economaidd a darodd yr Unol Daleithiau wedi bod yn gyfrwng i ddyrchafu Tsieina i fod yr ail economi gryfaf yn y byd. Tsieina a’r UDA bellach sy’n pennu polisi byd-eang, ac edrychir yn graff ar ystyriaethau gwleidyddol gan economegwyr a llywodraethau sy’n awyddus i weld ym mha ffordd y bydd yr arch bwer comiwnyddol yn gweithredu. Fe fydd y gweithredoedd a’r penderfyniadau gaiff eu gwneud gan y wlad yn cael effaith pellgyrhaeddol ar y byd.
- Er enghraifft, roedd Tsieina’n gallu arwain y gwledydd hynny oedd yn gwrthwynebu’r consensws amgylcheddol newydd yn y gynhadledd ar newid yn yr hinsawdd, yn ninas Copenhagen, yn 2009. Byddai meddu ar y fath rym diplomyddol ddegawd yn ôl yn rhywbeth na fyddai wedi digwydd. Derbyniodd Tsieina feirniadaeth am ymgymryd â’r rôl honno, a chafodd ei chyhuddo o atal y gweithredu angenrheidiol a oedd i ddigwydd. Tra bo gweithredu byd-eang ar newid hinsawdd yn angenrheidiol, mae llywodraeth Tsieina hefyd yn ceisio adennill ei grym economaidd, byd-eang. Nid ymgais i gael y ddeubeth hwn yn hafal yw hyn - gall newid hinsawdd fod yn niweidiol i lawer o’r cynnydd diweddar a wnaed yn Tsieina. Serch hynny, mae’n datgelu'r sialens i wleidyddiaeth fodern a chyfiawnder - sut y gall gwledydd sydd wedi datblygu orchymyn i wledydd sy’n datblygu arafu datblygiad a chynnydd eu hunain?
- Pan fydd Gorllewinwyr yn meddwl am y Tsieina fodern, yr hyn sy’n dod i flaen y meddwl yw’r dinasoedd neon fel Shanghai, Hong Kong and Beijing. Gall bywyd yn y dinasoedd hynny fod yn anodd, ond gall gynnig digon o gyfleoedd. Er bod gweithwyr ffatrïoedd Tsieineaidd yn gweithio sifftiau hir am gyflogau isel, mae bywyd yn y ddinas yn aml yn well na bywyd yng nghefn gwlad. Mae dros biliwn o bobl Tsieina yn byw mewn cartrefi lle mae cyfanswm yr incwm yn llai na $2,000 y flwyddyn. Mae hyn yn dangos fod y wlad yn parhau i fod yn llawn sialensiau enfawr. Ac, wrth gwrs, caiff llywodraeth Tsieina ei chyhuddo’n aml o gamdriniaethau yn erbyn hawliau dynol. Mae etholiadau democrataidd ymhell o gael eu gwireddu. Caiff y cyfryngau torfol eu rheoli’n llym.
- Mae llawer yn credu na fydd y twf yng ngrym Tsieina yn parhau’n hir; ei bod hi fel gwlad yn ansefydlog; a bod ei heconomi heb gael ei hadeiladu ar sylfaen gref. Er gwaethaf y trafferthion, mae’r cynnydd economaidd y mae hi yn ei brofi wedi codi miliynau o bobl allan o dlodi llwyr. Mae hynny’n beth da, yn sicr – ac yn gam cyntaf ar y ffordd i ddyfodol mwy llewyrchus a rhydd.
Amser i feddwl
Dangoswch y cyflwyniad PowerPoint a gwrandewch ar gerddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd.
Gadewch i ni feddwl am y pethau yr ydym ni’n rhydd i allu eu mwynhau yn y wlad hon.
Rhyddid i:
– ethol ein llywodraeth
– gallu protestio pan fyddwn yn teimlo bod annhegwch yn digwydd
– cael darllen a gwrando ac edrych ar gyfryngau torfol rhydd
– cael mynediad at wefannau trwy gyfrwng peiriannau chwilio cyfrifiadurol heb sensoriaeth gan y llywodraeth.
Gweddi
Rydym yn ddiolchgar am y symudiad araf tuag at ddemocratiaeth yn Tsieina a gwladwriaethau unbenaethol eraill.
Boed i ni drysori ein rhyddid, a gweithio tuag at weld y rhyddid hwnnw’n ymestyn dros ein byd.