Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Goresgyn Anawsterau

Deall mai dim ond trwy weithredoedd pobl ddewr a phenderfynol y mae’n bosib cael cyfiawnder a chydraddoldeb i bawb.

gan Laurence Chilcott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Deall mai dim ond trwy weithredoedd pobl ddewr a phenderfynol y mae’n bosib cael cyfiawnder a chydraddoldeb i bawb.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os yw’n bosib, dangoswch ffotograffau a phenawdau newyddion diweddar sy’n ymwneud â’r Arlywydd Obama.

Gwasanaeth

(Pan fydd amser yn brin, neu os oes gan y myfyrwyr wybodaeth ddigonol am y mudiad hawliau sifil, yna gallwch hepgor y rhan sy’n sôn am Rosa Parks and Dr Martin Luther King.)

  1. Ar 20 Ionawr 2009, tyngodd Barack Obama lw wrth iddo gamu i’r swydd o fod yr arlywydd cyntaf o dras Affricanaidd-Americanaidd ar yr Unol Daleithiau America. Gan mlynedd yn ôl ni fyddai byth wedi gallu dod yn arlywydd oherwydd bod pobl o dras Affricanaidd neu o gymysg-hil yn cael eu trin yn wahanol i bob dinesydd Americanaidd arall. Nid oedd modd iddyn nhw gael eu haddysgu yn yr un ysgolion â phlant gwyn eu croen; byddai’n rhaid iddyn nhw eistedd mewn lleoedd ar wahân mewn bwytai neu theatrau; roedd yn ofynnol iddyn nhw eistedd yn y seddau cefn ar fysiau ac roedd yn rhaid iddyn nhw ildio eu sedd i’r bobl wyn pe byddai’r bws yn llawn; nid oedd modd iddyn nhw ddefnyddio’r un toiledau nag yfed dwr o’r un ffynnon â’r bobl wyn.

  2. Ni fyddai Barack Obama erioed wedi cael y cyfle i sefyll fel ymgeisydd am yr arlywyddiaeth oni bai fod y mudiad hawliau sifil wedi ymladd am hawliau cyfartal ar gyfer holl ddinasyddion America, beth bynnag fo lliw eu croen.

    Gwraig o’r enw Rosa Parks oedd yr un a ddaeth â’r mudiad i sylw pobl dros y byd i gyd. Yn y flwyddyn 1955, pan oedd hi’n teithio adref o’i gwaith ar fws, fe wrthododd ildio ei sedd i ddyn gwyn. Am wneud hynny, cafodd ei harestio a’i chyhuddo o dorri’r gyfraith.

  3. Teimlodd y Dr Martin Luther King Jr, ac arweinwyr cymunedol eraill, bod angen trefnu protest a gofynnwyd i bob Americanwyr o dras Affricanaidd  foicotio’r bysiau yn ardal Montgomery yn nhalaith Alabama lle'r oedd Rosa Parks yn byw. Am dros flwyddyn fe gerddodd pob Americanwr o dras Affricanaidd o gwmpas y ddinas yn hytrach na theithio ar y bysiau. Fe wnaethon nhw lwyddo i wneud arwahaniad ar fysiau yn anghyfreithlon.

  4. Byddai Dr King yn dod yn arweinydd ar y mudiad hawliau sifil yn America. Gweithiodd yn ddiflino dros hawliau cyfartal a gwelliannau i Americanwyr o dras Affricanaidd. Arweiniodd brotestiadau a gorymdeithiau a chyfarfu ag arweinwyr gwleidyddol a chymunedol i geisio eu perswadio i newid y gyfraith. Ni ddaeth newid heb wrthwynebiad, a chafodd llawer o’r gwrthdystiadau eu chwalu gan bobl dreisgar a bygythiol. Heb gael ei ddylanwadu gan hyn, aeth Dr King ymlaen â’i ymgyrch a theithiodd  ar draws America i siarad am hawliau sifil. 

    Ysbrydolwyd llawer o bobl gan areithiau Dr King, dim un yn fwy na’r araith a wnaeth yn y flwyddyn 1963. O flaen torf o ryw 200,000 o bobl, a oedd wedi dod ynghyd o flaen y gofeb i’r Arlywydd Lincoln, siaradodd Dr King am y freuddwyd a oedd ganddo y byddai ei bedwar plentyn, ryw ddydd, ddim yn cael eu barnu am liw eu croen, ond yn hytrach am gynnwys eu cymeriad- ‘not be judged by the colour of their skin, but by the content of their character’.

  5. Cafodd Barack Obama ei farnu ar gynnwys ei gymeriad pan gafodd ei ethol yn Arlywydd ar un o wledydd mwyaf grymus a dylanwadol yn y byd. Ystyrir ethol yr Americanwr cyntaf o dras Affricanaidd i fod yn arlywydd Unol Daleithiau America fel pen llanw’r ymdrechion gan lawer i ddod â chydraddoldeb a chyfiawnder i’r genedl. 

    Fel Dr King gynt, mae Arlywydd Obama yn areithiwr grymus ac mae ei eiriau wedi ysbrydoli Americanwyr i obaith newydd ac optimistiaeth mewn cyfnod anodd yn hanes y wlad. Yn y flwyddyn 2009, roedd yn gallu gwerthfawrogi’r arwyddocâd ei fod ef yn gallu tyngu’r llw arlywyddol, pan na fyddai ei dad, 60 mlynedd yn gynharach, wedi gallu cael gwasanaeth mewn bwyty lleol.  

    Sylweddolodd Arlywydd Obama bod llawer mwy i’w wneud trwy’r byd er mwyn dod â heddwch a chyfiawnder, a heb amheuaeth bydd ei eiriau yn cael eu dwyn ar gof hefyd. Yn ei araith gyntaf  fel arlywydd fe ddywedodd:

    ‘To those leaders around the world who seek to sow conflict . . . know that your people will judge you on what you can build, not what you destroy. To those who cling to power through corruption and deceit and the silencing of dissent . . . we will extend a hand if you will unclench your fist.’

  6. Gall geiriau annog a chodi ysbryd cenedl, ond yn y diwedd, bydd arweinwyr y cenhedloedd yn cael eu barnu ar yr hyn y byddan nhw’n ei wneud a’r hyn y byddan nhw’n ei gyflawni.  Nid yw’r ddwy flynedd gyntaf mewn swydd wedi bod yn rhai hawdd i Barack Obama. Mae sawl un yn credu nad yw’r hyn a lefarodd wedi dwyn ffrwyth gweithredol, tra bod eraill yn gwerthfawrogi’r ffaith nad yw newid byth yn hawdd, a bod newidiadau o’r fath yn cymryd mwy o amser na’r hyn a ddymunwn. Amser a ddengys beth fydd Barack Obama yn gallu ei gyflawni.

  7. Ar gyfer myfyrdod a thrafodaeth bellach

    Trafodwch sut y mae’r farn sydd gennym am bobl yn gallu cael ei dylanwadu gan ffactorau fel beth maen nhw’n ei wisgo, sut maen nhw’n edrych, a lle maen nhw’n byw. 

    Ystyriwch y geiriau enwog a lefarwyd gan arweinwyr byd eraill, a’r modd y bu i’r geiriau hynny ysbrydoli neu ddylanwadu ar bobl. 

    Trafodwch y cysyniad o ‘sefyll ar ysgwyddau cewri.’ (Sylw Isaac Newton ar y cyfan o’r hyn yr oedd wedi ei gyflawni) fel rhywbeth y gellid ei gymhwyso i’r cynnydd mewn sawl agwedd ar fywyd.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y modd yr ydych yn barnu pobl.  Beth sydd yn cael dylanwad ar eich barn? A ydych yn cael eich dylanwadu gan eu dillad, eu hedrychiad, neu y math o dy y maen nhw’n byw ynddo?

Ym mha sefyllfaoedd y byddwn yn cau ein dyrnau neu’n ymestyn ein dwylo agored? 
Ystyriwch y symbolaeth sydd ynghlwm wrth weithredoedd o’r fath.

Gweddi
Dad Nefol, 
diolchwn i ti am bobl sydd wedi ein rhagflaenu 
ac wedi dangos y ffordd i ni, 
am rai a wrthododd ildio pan oedd yr amseroedd yn anodd, 
ac am y rhai hynny a aberthodd eu bywyd dros yr hyn yr oedden nhw’n credu ynddo.
Gweddïwn dros bawb sy’n parhau â’r gwaith dros heddwch a chyfiawnder,
gan geisio dilyn dysgeidiaeth ac esiampl dy Fab, Iesu Grist.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon