Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dydych Chi Ddim Yn Canu Mwyach

Helpu myfyrwyr i ddeall bod llawenydd a gobaith Cristnogol, sy’n rhan annatod o’r Adfent, yn rhagori ar y drygioni a’r dioddefaint sydd yn y byd o’n cwmpas.

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Helpu myfyrwyr i ddeall bod llawenydd a gobaith Cristnogol, sy’n rhan annatod o’r Adfent, yn rhagori ar y drygioni a’r dioddefaint sydd yn y byd o’n cwmpas.

Paratoad a Deunyddiau

  • (Dewisol) Fe allech chi ddewis arddangos delweddau o rai o’r prif ddigwyddiadau a fu yn y bwletinau newyddion (newyddion drwg) yn ystod 2011, ac y byddwch chi’n cyfeirio atyn nhw yn adran 2.

  • (Dewisol) Wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth, ac wrth iddyn nhw ymadael, fe allech chi chwarae’r gerddoriaeth ‘What’s Going on?’ gan Marvin Gaye, cerddoriaeth ingol sy’n fyfyrdod ar y dioddefaint a’r anghyfiawnder sy’n digwydd yn y byd.

  • Stori Paul a Silas yn y carchar fel mae i’w chael yn Actau 16.19–34.

Gwasanaeth

  1. Os buoch chi erioed mewn gêm fyw o bêl-droed, fe wyddoch chi fod siantio yn rhan anhepgorol o’r profiad. Mae’r rhan fwyaf o’r siantiau pêl-droed y dyddiau hyn yn amrwd, yn hytrach na bod yn ddoniol, ond y mae un sy’n fy nharo i fel un sy’n ffraeth: pan fydd gôl yn cael ei sgorio ac yn tawelu rhan o’r dorf, sydd wedi bod cyn hynny’n llafar iawn, bydd cefnogwyr y tîm arall yn tynnu arnyn nhw trwy dynnu sylw at y ffaith nad ydyn nhw’n canu mwyach, ac yn siantio, ‘You’re not singing any more.’ (Pe byddech chi’n dymuno canu’r siant yna rhywbeth fel hyn fyddai’r geiriau,‘You’re not singing, you’re not singing, you’re not singing any more, you’re not singing any more’ ar y dôn ‘Bread of Heaven’!)

    Nid yn unig y bydd y cefnogwyr hynny’n dathlu llwyddiant eu tîm nhw, ond hefyd yn herio tawelwch cefnogwyr y gwrthwynebwyr yn wyneb eu trallod.  

  2. Mae’n beth hawdd iawn - wrth i ni edrych ar y byd o’n cwmpas - weld pam nad ydym yn canu mwyach. Wrth i ni edrych yn ôl ar rai o’r storïau fu yn y newyddion yn 2011 - toriadau mewn gwariant, sgandal yr hacio ffonau, y creisis ynghlwm wrth ddyledion yr UDA ac Ewrop, y tswnami yn Japan, y newyn yn Affrica, cynhesu byd-eang, trais ar strydoedd y wlad hon, y bygythiad parhaol o derfysgaeth - mae’n hawdd i ni fynd yn isel ein hysbryd am y sefyllfa sy’n bodoli yn ein byd. 

  3. Un o’r delweddau mawreddog o’r Testament Newydd yw honno o Sant Paul - a Silas ei gydymaith - yn eistedd gyda’u traed mewn cyffion yn y carchar yn ninas Philipi. Roedden nhw newydd gael eu chwipio’n llym. Ond yn hytrach na bod yn dal eu pennau’n anobeithiol, neu’n crynu’n eu hesgidiau mewn ofn, beth maen nhw’n ei wneud? Er mawr syndod i’w gwarchodwyr a’r carcharorion eraill, maen nhw’n canu! I Paul a Silas, nid oes unrhyw drallod yn gallu llesteirio’r gorfoledd a’r gobaith sy’n deillio o’r ffydd sydd ganddyn nhw yng Nghrist. 

    Yng nghanol y ffydd sydd ganddyn nhw mae gobaith a gweledigaeth sydd yn anorchfygol. Dywedodd Desmond Tutu, cyn Archesgob Cape Town, unwaith - yn ystod dyddiau tywyllaf apartheid yn Ne Affrica - mai fel Cristnogion rydym yn garcharorion gobaith, hynny yw, ni all yr un ohonom wneud dim arall ond gobeithio.

  4. Cyfnod yw’r Adfent pan fydd Cristnogion yn edrych ymlaen at ddyfodiad Crist eu Brenin. Mae’n gyfnod pan fyddan nhw’n dathlu’r gobaith a’r gorfoledd sydd yn ganolog i’w ffydd. 

    Mewn darn adnabyddus yn y Beibl, a fydd yn cael ei ddarllen yn aml yn ystod yr Adfent, mae’r proffwyd Mica yn llefaru geiriau o obaith. Mae’n edrych ymlaen at y cyfnod pryd y bydd pobloedd y byd yn byw gyda’i gilydd mewn heddwch a chyfiawnder, cyfnod pryd y bydd y cenhedloedd ... ‘yn curo’u cleddyfau’n geibiau, a’u gwaywffyn yn grymanau’, cyfnod pryd ... ‘Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.’ (Mica 4.3). 

    Bydd pob gwir gefnogwr pêl-droed yn gwybod mai’r ymateb cywir i unrhyw adfyd yw canu hyd yn oed yn uwch. Yng nghanol tywyllwch ein byd, gadewch i ni beidio byth â rhoi’r gorau i ganu cân gobaith a gorfoledd. 

Amser i feddwl

Mae’r hanes am Paul a Silas yn y carchar yn stori sy’n dangos sut mae llawenydd a gobaith y Cristion yn gadarn, hyd yn oed yn yr amgylchiadau gwaethaf.

(Darllenwch Actau 16.19–34 (neu 19–26 os hoffech chi ddarn byrrach).)

Gweddi
Arglwydd Dduw, yn ystod y cyfnod hwn, sef yr Adfent,
helpa ni i gael profiad o’r gobaith hwnnw sy’n dal yn gadarn,
a’r llawenydd hwnnw sy’n para am byth.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2011    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon