Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cynhaeaf (Rhannu)

Dangos i’r myfyrwyr sut y gallan nhw gydweithio fel bod pawb ar eu mantais.

gan John Marley

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Dangos i’r myfyrwyr sut y gallan nhw gydweithio fel bod pawb ar eu mantais.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth yma’n gweddu orau i grwpiau gweddol fach.   Fe fyddai’n ddelfrydol ar gyfer gwasanaeth Dosbarth neu Flwyddyn.

  • Fe fydd arnoch chi angen digon o fisgedi Rich Tea i roi un bob un i hanner eich cynulleidfa .  .  .  neu fe allech chi greu bisgedi papur wedi’u llungopïo a’u torri allan, os ydych chi eisiau osgoi gorfod glanhau ar eich ôl pe byddai briwsion yn disgyn ar lawr.

  • Efallai y dylech chi ddarparu platiau papur os ydych chi’n defnyddio bisgedi go iawn. 

  • Holwch y gofalwr neu’r un sy’n glanhau’r neuadd/ dosbarth a fyddai colli briwsion hyd lawr yn peri trafferth. Efallai y gallech chi ofalu bod gennych chi focs o siocledi neu fisgedi i’w rhoi yn anrheg iddo/ iddi, rhag ofn!

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch y gwasanaeth trwy ddweud eich bod, heddiw, yn mynd i feddwl am rannu.

  2. Cyhoeddwch fod pob aelod o’r gynulleidfa’n mynd i rannu’r dathliad heddiw. Fe fydd pawb yn cael rhan o’r cyfoeth sydd ar gael.

  3. Gofynnwch i rai eich helpu i rannu’r bisgedi i’r gynulleidfa, gan ddechrau yn y tu blaen a gweithio’u ffordd tua’r cefn. 

  4. Trefnwch mai dim ond digon o fisgedi i hanner y gynulleidfa sydd gennych chi. Does dim digon i bawb. 
     
  5. Mae gennych chi broblem. Gofynnwch i’r gynulleidfa sut y gallwch chi oresgyn yr anhawster. Rydych chi’n gobeithio y bydd rhywun yn awgrymu y gallen nhw rannu.

  6. Eglurwch i’r gynulleidfa, er mwyn bod yn deg â phawb, fe ddylai pob un sydd wedi cael bisged ei thorri yn ei hanner a rhoi darn i rywun arall sydd heb gael un. 

  7. Rhybuddiwch y gynulleidfa cyn iddyn nhw dorri’r bisgedi y bydd unrhyw friwsion sy’n disgyn ar lawr yn cynrychioli methiant. Rhannwch y platiau papur i’w helpu i ddal y briwsion. 

  8. Atgoffwch nhw fod plant mewn rhai gwledydd yn y byd yn chwilota yn y llwch ar lawr am ronynnau o yd neu reis. Fe fyddai’r plant hynny’n gwaredu pe byddai unrhyw friwsionyn yn cael ei wastraffu.

  9. Rhowch gyfle i’r gynulleidfa dorri a rhannu eu bisgedi, yna holwch a yw pawb wedi cael cyfran deg. 

  10. Gofynnwch i’r gynulleidfa feddwl am yr hyn maen nhw wedi ei wneud. Onid rhannu yw’r ateb i broblem newyn y byd?

  11. Dywedwch wrthyn nhw y gallan nhw fwyta’r bisgedi os hoffen nhw. Neu os ydyn nhw’n dymuno, fe allen nhw osod yr hanner bisged am gyfnod yn rhywle yn eu cartref i’w hatgoffa mai rhannu yw’r ateb i broblem newyn y byd. 

Amser i feddwl

Myfyrdod:
Mae’r ddaear yn darparu digon o fwyd i fwydo angen pob un, ond dim digon i fwydo barusrwydd pob un.   (addasiad o ddyfyniad gan Mohandas K. Gandhi)
Earth provides enough to satisfy every man’s need, but not every man’s greed. 
(Mohandas K. Gandhi)

Gweddi
Greawdwr pob peth,
rydyn ni’n diolch i ti
am gyflawnder rhyfeddol dy fyd.
Gwna i ni gofio am y rhai sydd heb y cyfoeth sydd gennym ni,
A bendithia’r rhai sydd mewn angen.
Ond uwchlaw popeth, Arglwydd da,
Dysga ni i rannu.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2006    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon