Sut i ddefnyddio'r safle hwn   Amdanom ni   Cyflwyniadau   Adborth   Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sul Y Beibl

Helpu’r myfyrwyr i werthfawrogi beth yw’r Beibl, a beth yw ei gynnwys.

gan Ann Husband

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i werthfawrogi beth yw’r Beibl, a beth yw ei gynnwys.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Beibl, argraffiad diweddar sy’n cynnwys yr Apocryffa fyddai’n ddelfrydol.

  • Casglwch ynghyd 66 o lyfrau amrywiol ar wahanol bynciau (a rhai ychwanegol ar gyfer yr Apocryffa, os ydych chi’n dymuno cyfeirio at lyfrau’r Apocryffa yn eich sgwrs).

  • Mae swm sylweddol o ddeunydd yma, ac os yw’r amser yn brin, mae’n bosib i chi adael allan bwyntiau 9 - 20 os byddwch chi’n teimlo fod y gwasanaeth yn mynd yn rhy faith mewn un sesiwn. Neu, fe allech chi ddefnyddio’r deunydd dros sawl diwrnod os hoffech chi.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y Beibl i’ch cynulleidfa a dechreuwch trwy ddweud bod yr Ail Sul yn yr Adfent wedi bod yn cael ei alw’n Sul y Beibl ers rhai canrifoedd. Felly, heddiw, rydyn ni’n mynd i feddwl am y Beibl a’r hyn sydd yn y Beibl.

  2. I ddechrau, beth yw ystyr yr enw, ‘Y Beibl’?  Cyfieithiad yw’r enw o ddau air o’r iaith Roeg, ta biblia, sy’n llythrennol yn golygu  ‘Y Llyfrau’ neu ‘Y Llyfrgell’. Ac mae hynny’n dangos i ni    nad un llyfr yw’r Beibl, mewn gwirionedd, ond casgliad o lyfrau, llyfrau tebyg i’r rhai fyddech chi’n debyg o’u cael mewn llyfrgell. 66 o lyfrau i fod yn fanwl (dangoswch eich pentwr o 66 llyfr. A dyna pam mae’r Beibl wedi’i argraffu ar bapur tenau iawn!

  3. Ydych chi’n cofio mynd i lyfrgell am y tro cyntaf?  Ai plentyn bach oeddech chi  bryd hynny?  Sut deimlad oedd bod yn y lle hwnnw?  Mae’n debyg mai’r olygfa welsoch chi oedd cannoedd ar gannoedd o lyfrau wedi’u gosod yn daclus ar resi a rhesi o silffoedd  o’ch cwmpas ym mhob man. Rhywle yn yr ystafell, mae’n debyg fod desg neu gownter ac un neu ddau o bobl yn eistedd yno yn cadw golwg arnoch chi ac ar y llyfrau. Rydych chi’n dysgu mai’r llyfrgellwyr yw’r rhain, rhai sydd wedi’u hyfforddi i helpu pobl ddod o hyd i’r llyfrau y maen nhw’n chwilio amdanyn nhw yn y llyfrgell.

  4. Ond efallai, yn eich diniweidrwydd, eich bod yn meddwl mai pobl i’w hofni yw’r llyfrgellwyr, a chithau ddim eisiau gwneud ffwl ohonoch eich hun o’u blaenau. Felly, rydych chi’n penderfynu mynd i gael golwg ar rai o’r llyfrau eich hunan i ddechrau. Wel, os mai dyna wnewch chi, fe fyddwch chi’n gwastraffu llawer o amser yn edrych ar lyfrau sydd o ddim diddordeb o gwbl i chi. Os dydych chi ddim yn gwybod beth rydych chi’n ei wneud, fyddwch chi ddim yn sylweddoli bod y llyfrau wedi’u trefnu mewn grwpiau, a bod yr holl lyfrau mewn un adran benodol yn ymwneud â’r un pwnc. Fe fydd yno lyfrau cyfeirio, llyfrau ar hanes, llyfrau barddoniaeth,  llyfrau gwyddoniaeth, llyfrau teithio, llyfrau ar y gyfraith, llyfrau meddygol, yn ogystal â nofelau a storïau ditectif, a llyfrau am bobl hefyd.

  5. Llyfrgell debyg yw’r Beibl. Ac os byddwch chi’n ceisio dod o hyd i’ch ffordd o’i gwmpas ar ben eich hunan, heb help, mae’n debyg y byddwch yn cael eich boddi ynghanol yr holl lyfrau sy’n ymddangos i chi fel pe na bai unrhyw gysylltiad rhwng y naill a’r llall.

  6. Felly gadewch i mi fynd â chi ar daith a’ch tywys trwy’r Beibl. Yn wahanol i’r llyfrgellwyr roeddech chi’n rhy swil i’w holi, foment yn ôl, gobeithio na fyddwch yn amharod i fy nilyn i.

  7. Y peth cyntaf sydd angen ei egluro yw bod y Beibl neu’r Llyfrgell yn ddwy ran. Enw un rhan yw’r Hen Destament a’r llall yw’r Testament Newydd. Efallai y gallai’r ddau deitl yna eich camarwain a rhoi’r syniad i chi fod y Testament Newydd wedi disodli’r Hen Destament. Fe allen ni alw’r ddwy ran yn Rhan 1 a Rhan 2, ac egluro bod y rhaniad yn fras rhwng y llyfrau hynny sydd wedi’u hysgrifennu cyn y flwyddyn 150 Cyn Crist (CC), a’r llyfrau a ysgrifennwyd ar ôl y flwyddyn Oed Crist (OC) 35. Wrth gwrs, mae hynny’n golygu bod Rhan 1 a Rhan 2 wedi’u gwahanu ar yr adeg hollbwysig honno mewn hanes, sef yr adeg y daeth Duw yn ddyn i’r byd, ym mherson Iesu Grist. Hynny yw, yr amser rhwng y flwyddyn y cafodd Iesu ei eni (tua 3CC) a’r flwyddyn y cafodd ei groeshoelio, ac atgyfodi, ac esgyn i’r nefoedd wedyn. Y flwyddyn honno oedd OC 30.

  8. Felly, roedd llyfrau Rhan 1 wedi’u hysgrifennu o safbwynt hollol wahanol i lyfrau Rhan 2. Yn union yr un fath, yr oedd llyfrau a ysgrifennwyd am fywyd ym Mhrydain cyn y Rhyfel Byd Cyntaf yn wahanol iawn i’r llyfrau a ysgrifennwyd ar ôl hynny, er eu bod i gyd yn ymwneud â bywyd ym Mhrydain. Mae llyfrau’r Hen Destament a’r Testament Newydd yn wahanol i’w gilydd, ond llyfrau’r ddau Destament yn sôn am Dduw.

  9. Mae’n bosib rhannu Rhan 1, sef yr Hen Destament, yn bum prif ran - Chwedlau, Hanes, Barddoniaeth, Doethineb a Phroffwydoliaeth. Mae Rhan 2, sef y Testament Newydd, yn rhannu’n bedair adran: yr Efengylau, yr Actau, y Llythyrau, a diwedd y byd, sef llyfr arbennig o’r enw Datguddiad Ioan.

  10. Gadewch i ni ddechrau â Rhan 2, y Testament Newydd. Y tair adran rydym ni am ymwneud â nhw yma yw:

    (a) Yr Efengylau, neu bedwar llyfr o Newyddion Da, sef Marc, Mathew, Luc ac Ioan. Mae’r llyfrau yma’n disgrifio bywyd ac athrawiaethau Iesu Grist. Ysgrifennwyd y rhain rhwng  OC 65 (Marc) ac OC 90 (Ioan). 

    (b) Mae Actau’r Apostolion, a ysgrifennwyd tua OC 75, yn ddilyniant o Efengyl Luc. Mae’n disgrifio sut mae’r Eglwys yn lledaenu trwy’r ymherodraeth Rufeinig rhwng y blynyddoedd OC 30 ac OC 60.

    (c) Mae rhan helaeth o’r Llythyrau neu’r Epistolau wedi’u hysgrifennu gan Paul rhwng OC 35 ac OC 60, a rhai o’r rhain yw’r llyfrau cynharaf o blith llyfrau’r tair adran yma.

  11. Efallai mai’r man cychwyn gorau i ddarllen y Beibl yw llyfr yr Actau, yn rhannol am ei fod yn ddeunydd darllen da ac oherwydd ei fod wedi’i ysgrifennu mewn arddull sy’n weddol rwydd i’w ddilyn. Luc yw awdur Llyfr yr Actau. Roedd Luc wedi cael ei hyfforddi i ysgrifennu rhyddiaith a barddoniaeth, felly roedd yn gallu mynegi ei hun yn eithaf clir. Y rhan orau i’w darllen wedyn fyddai Efengyl Luc. Mae’r llyfr yma eto’n eithaf rhwydd i’w ddarllen. Yna, un neu ddau o’r llythyrau a ysgrifennodd Paul ac ysgrifenwyr eraill at yr eglwysi oedd newydd eu sefydlu ar y pryd. O’r rhain, mae 1 Corinthiaid a 1 Pedr yn rhai da i ddechrau â nhw. Mae Paul yn 1 Corinthiaid yn rhoi syniad da i ni am y math o anawsterau oedd yn wynebu’r Eglwys Fore, o ran cadw’r aelodau oedd wedi cael eu bedyddio i barhau’n aelodau ffyddlon o’r eglwys. Ysgrifennwyd 1 Pedr ar gyfer grwp o bobl oedd yn paratoi ar gyfer cael eu bedyddio a newid eu ffordd o fyw.

  12. Yna, er mwyn cael amrywiaeth, fe allech chi ddarllen rhai o’r Salmau. Dyma lyfr emynau’r Beibl, ac mae’n ymwneud â bywyd dynol yn ei gyfanrwydd, o’r crud i’r bedd, mewn iechyd ac afiechyd, mewn tristwch a llawenydd.

  13. Wedyn, edrychwch ar rai o’r llyfrau hanes - rhowch gynnig ar 1 Samuel, er enghraifft. Dyma ddechrau’r stori sut y gwnaeth Duw baratoi ei bobl, yr Iddewon, ar gyfer ei ddyfodiad i’r byd ym mherson Iesu.

  14. Fe allech chi fynd ymlaen wedyn at un o lyfrau’r Proffwydi, Micha neu Amos efallai, ac fe welwch chi sut y cododd Duw y bobl nodedig yma i fod yn llefarwyr iddo pan fyddai ei bobl ei hun yn troi cefn arno, fel y bydden nhw’n ei wneud yn aml.

  15. Yn nesaf, fe fyddai’n dda i chi gael golwg ar Lyfr y Diarhebion. Fe welwch chi yno stôr o syniadau ar sut i ymdopi â heriau bywyd.

  16. (Dim ond os yw’r Beiblau sydd gennych chi yn yr ysgol yn cynnwys yr Apocryffa y bydd angen i chi sôn am y pwynt yma.) Ac yn olaf, er mwyn cael rhywfaint o ddarllen ysgafnach, trowch at y ddwy stori dditectif: Swsanna a’r Henuriaid, a Bel a’r Ddraig – dwy stori dda arall.

  17. Gyda phob un o’r llyfrau yma, peidiwch â phryderu os byddwch chi awydd pasio dros ambell ran os yw’r darllen yn golygu ymdrech fawr i chi. Mae gwahanol lyfrau yn debygol o apelio at wahanol bobl. Mae’n ddigon posib hefyd y gall rhannau sydd ddim yn golygu llawer i chi ar hyn o bryd ddod yn fwy byw i chi yn nes ymlaen yn ystod eich bywyd.

  18. Nawr, efallai eich bod wedi sylwi fy mod wedi gadael y cwestiwn pwysicaf hyd y diwedd. Pam darllen y Beibl o gwbl?

  19. Trwy glywed, darllen, a dysgu’r ysgrythur, fe allwn ni ddarganfod y gobaith sy’n cael ei gynnig i ni trwy Iesu Grist. Rhaid i ni gofleidio’r ffydd honno os yw’r ffydd am fod o les i ni. Allwn ni ddim cofleidio unrhyw beth na fedrwn ni ei weld neu ei deimlo, ac mae darllen y Beibl yn un ffordd y gall pobl ddod i weld y gwir, fel y mae Duw wedi ei ddatguddio i ni.

  20. Ond rhaid dal gafael yn y gobaith hwnnw. Mae’n hawdd iawn anghofio neges y Beibl os na fyddwch chi’n parhau i’w ddarllen. Dyna bwrpas dysgu beth sydd yn y Beibl, a myfyrio arno. Mae’r Beibl fel bwyd. Allwch chi ddim bwyta digon o fwyd am bythefnos i gyd ar unwaith. Fe fyddech chi’n sâl ac yn dioddef o ddiffyg traul, ac yn fwy na hynny, erbyn diwedd y pythefnos fe fyddech chi’n newynu. Mae arnom ni i gyd angen diet cytbwys a rheolaidd os yw ein bwyd am fod yn llesol i ni.

  21. Wel, dyna ni – gwibdaith darllen y Beibl. Eich dyletswydd chi yw’r cam nesaf. Does neb yn mynd i’ch gorfodi chi i ddarllen y Beibl, dim hyd yn oed Duw ei hun. Mae darllen y Beibl yn un o’r pethau hynny y mae’n rhaid i ni fod yn ddisgybledig wrth ei wneud. Fel rydyn ni’n disgyblu ein hunain wrth weithio, cysgu, neu wneud ymarferiadau, fe allen ni ddisgyblu ein hunain i ddarllen rhannau o’r Beibl. Yn y pen draw, pethau na all neb ond y ni ein hunain eu gwneud yw’r pethau yma.

Amser i feddwl

Myfyrdod:
‘Fe wyddost gan bwy y dysgaist hwy, a’th fod er yn blentyn yn gyfarwydd â’r Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abl i’th wneud yn ddoeth a’th ddwyn i iachawdwriaeth trwy ffydd yng Nghrist Iesu.’
2 Timotheus 3.15

Os credwch ei bod yn addas, fe allech chi gyflwyno cerdd Saesneg, sy’n ymwneud â llyfrau’r Beibl. Enw’r gerdd yw, ‘The Bible Poem’ gan George Rigby, ac ysgrifennwyd hi yn 1941. Mae i’w gweld ar y wefan yma: http://www.andyscouse.com/pages/biblepoem.htm

Gwaith dilynol

Fe gewch chi ragor o wybodaeth am Sul y Beibl ar y wefan yma: http://www.biblesunday.org/

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2006    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon