Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diwrnod San Siôr

(Shakespeare, Henry V) - Gwasanaeth ar gyfer Diwrnod San Sior (St George's Day) - Meddwl am y rhai sy’n dioddef oherwydd eu ffydd, a meddwl am sefyll dros yr hyn rydych chi’n credu ynddo.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am y rhai sy’n dioddef oherwydd eu ffydd, a meddwl am sefyll dros yr hyn rydych chi’n credu ynddo.

Paratoad a Deunyddiau

  • Byddai baner San Siôr yn ddefnyddiol, hyd yn oed os mai un fach yn unig sydd gennych chi - y math sydd ar gael ar adegau gemau pêl-droed rhyngwladol.

  • Wrth i’r myfyrwyr gyrraedd y gwasanaeth chwaraewch gerddoriaeth rydyn ni’n ei chysylltu â Lloegr, fel ‘Nimrod’ o’r Enigma Variations gan Elgar, efallai, neu ‘Jerusalem’, neu ‘Land of Hope and Glory’.

Gwasanaeth

  1. Fe fyddwch chi’n gyfarwydd â’r faner yma (chwifiwch hi). Rydych chi’n eu gweld yn cael eu gosod ar geir rhai cefnogwyr pan fydd tîm Lloegr yn chwarae mewn gemau pwysig. Weithiau, fe welwch chi rai mewn ffenestri tai. Ond os bydd Lloegr wedi colli’r gêm, neu fethu mynd trwodd i’r rowndiau nesaf, fe fydd y rhain yn cael eu cadw tan y tro nesaf.

    Dyma faner San Siôr, nawddsant Lloegr. Ond wyddech chi nad un o Loegr oedd Siôr? Ac am ei fod wedi marw gymaint o flynyddoedd yn ôl - ers canrifoedd - mae ei stori wedi’i phlethu i’r fath raddau fel bod y gwir wedi mynd ar goll yn yr hanes, yn ôl pob tebyg. Ond mae un hanesyn y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno ei fod yn wir.

  2. Roedd Siôr yn filwr mewn swydd uchel yn y Fyddin Rufeinig, a bu farw yn ystod teyrnasiad yr Ymerawdwr Diocletian, tua’r flwyddyn 303 Oed Crist. Roedd Siôr yn Gristion, ac roedd yr Ymerawdwr yn erlid y Cristnogion ar y pryd. Cafodd Siôr ei boenydio. Er hynny, nid oedd am wrthod arddel ei ffydd. Yn y diwedd, dyfarnwyd ei fod i farw trwy gael torri ei ben. Digwyddodd hyn yn ymyl tref Lydda ym Mhalestina, Israel heddiw. Wedi hynny, cludwyd ei ben i Rufain a chafodd ei gladdu mewn eglwys yno, a gafodd ei chysegru’n ddiweddarach i Siôr.

  3. Lledaenodd storïau am ei ddewrder wedi hynny. Roedd marchogion Croesgadau’r Oesoedd Canol yn clywed am ddewrder Siôr ac yn dod â’r hanesion i Loegr. Ac fel roedd y storïau’n lledaenu, fe dyfodd cwlt poblogaidd o gwmpas y dyn arbennig yma.

    Mae’n bosib eich bod chi’n cysylltu ei enw â’r hanes amdano’n lladd draig ar ben bryn yn Uffington, ger Rhydychen. Yn ôl y chwedl, does dim glaswellt yn tyfu ar y mannau lle rhedodd gwaed y ddraig.

  4. Ond efallai mai dryswch sydd yma rhwng stori Siôr a stori Mihangel yr Archangel, sy’n cael ei ddarlunio mewn lluniau clasurol yn gwisgo arfwisg, a’r diafol yn cael ei ddarlunio fel draig. Mae’r hanes yma yn llyfr olaf y Beibl, sef y Datguddiad. Mae Mihangel yn ymladd yn erbyn y diafol ac yn ei drechu. Mae’n debyg bod gwahanol storïau wedi cymysgu wrth gael eu hadrodd trwy’r oesoedd gan roi i ni yn y diwedd stori am Siôr yn achub merch ifanc rhag cael ei bwyta gan ddraig.

  5. Y Brenin Edward III  wnaeth Siôr yn nawddsant Lloegr, yn y flwyddyn 1350, ac fe hyrwyddodd Henry V gwlt San Siôr ymhellach ym mrwydr Agincourt yng Ngogledd Ffrainc. Lledaenodd chwedl San Siôr fwyfwy yn sgîl drama William Shakespeare am Henry V, sy’n darlunio’r frwydr honno yn Agincourt. Mae William Shakeseare yn defnyddio’r geiriau ‘Cry God for Harry, England and St George!’ fel gwaedd Henry ar ei filwyr i fynd ymlaen i’r frwydr.

  6. Felly, pam mai Siôr yw nawddsant Lloegr? Yr ateb yw: am fod enw da Siôr fel marchog dewr ac anrhydeddus wedi dal dychymyg milwyr Croesgadau’r Oesoedd Canol. Roedden nhw wedyn yn awyddus i ddilyn ei esiampl, ac wrthi â’u holl egni yn brwydro ar ran yr Eglwys Gristnogol yn y Dwyrain Canol. Rydyn ni erbyn heddiw yn ei chael hi’n anodd deall y math o ryfela yr oedd y Croesgadwyr yn rhan ohono. Ond fe allwn ni i gyd ymateb i’r dyn arbennig a wrthododd wadu ei ffydd hyd yn oed yn wyneb yr artaith waethaf.

  7. Mae baner San Siôr yn cynrychioli Cristion a oedd yn ffyddlon hyd farwolaeth. Tybed faint ohonom ni fyddai’n barod i ddioddef y fath artaith yn hytrach na gwadu ein ffydd?

  8. Yn ein byd heddiw, mae llawer o bobl sydd ddim yn rhydd i ymarfer eu ffydd. Mae llywodraethau’n gormesu rhai sy’n dilyn crefyddau lleiafrifol mewn sawl gwlad. Un enghraifft ddiweddar o hyn oedd gwrthryfel y mynachod Bwdhaidd yn Burma, a fu’n protestio’n heddychol am gael eu gwlad eto’n wlad ddemocrataidd. Fyddai gennych chi, neu fi, y ffydd a’r cryfder sy’n perthyn i’r mynachod rheini i wrthwynebu’r gwasanaeth milwrol, oherwydd yr hyn rydyn ni’n credu ynddo?

  9. Efallai eich bod yn credu na allwch chi wneud llawer i helpu’r byd fod yn lle mwy goddefol o wahanol grefyddau, ac sy’n caniatáu i bobl ymarfer eu ffydd. Un o’r pethau hawsaf i’w wneud fyddai ysgrifennu llythyrau am Amnest Rhyngwladol. Mae’r llythyrau’n mynd at bobl sydd naill ai mewn carchardai - i ddangos nad yw’r byd wedi anghofio amdanyn nhw, neu at y llywodraethau sy’n eu dal yn garcharorion. Edrychwch ar wefan yr Amnest Rhyngwladol ac fe welwch sut gallwch chi ymuno, ac er na chewch chi eich arteithio fel San Siôr, fe allwch chi hefyd wneud gwahaniaeth go iawn.

Amser i feddwl

Rydyn ni’n mynd i wrando ar gerddoriaeth. Mae’r darn yn cael ei chwarae’n aml pan fyddwn ni’n cofio am y bobl rheini a fu farw yn y ddau Ryfel Byd. Wrth i chi wrando, efallai yr hoffech chi feddwl am sut y byddech chi’n gallu helpu i ddod â rhyddid i’r byd.
Efallai yr hoffech chi hefyd adrodd gweddi drosoch chi eich hun a thros yr holl bobl sy’n cael eu cadw’n gaeth ar hyn o bryd oherwydd eu daliadau crefyddol. (Chwaraewch y gerddoriaeth ‘Nimrod’.)
Dduw’r bobl rydd, bydd di gyda phob un sydd yn dioddef heddiw oherwydd ei ffydd.
Helpa lywodraethau a’u harweinwyr i fod yn agored
a derbyn pobl eraill allai fod yn wahanol.
Helpa fi i wrando ar beth mae pobl eraill yn ei ddweud,
a thrwy hynny, ddod i ddeall eu cred yn well.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon