Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Addunedau Blwyddyn Newydd

Trafod moeseg addunedau Blwyddyn Newydd.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Trafod moeseg addunedau Blwyddyn Newydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr gerddoriaeth addas ar gyfer y myfyrdod.

  • Fe fyddwch chi angen dau ddarllenydd.

Gwasanaeth

Darllenydd 1

Wrth i flwyddyn arall dynnu tua’i therfyn, rydym yn dechrau ar gyfnod o fyfyrio ac ystyried; dyfalu beth ddaw yn sgil y flwyddyn newydd, a sut gallwn ni wella ar y flwyddyn a fu.  Bydd addunedau blwyddyn newydd yn cael eu gwneud - a’u hanghofio.  Ond pam mai felly y mae pethau?  Pam ei bod hi mor anodd cadw at ein gair, a fydd yn anorfod yn arwain at ein gwneud yn hapusach ac yn well yn gyffredinol yn y tymor hir?

Darllenydd 2

Efallai mai ein syniad ni o foesoldeb sydd ar fai.  Mae’r rhan fwyaf o syniadau ynghylch moesoldeb yn golygu rhoi anghenion pobl eraill o flaen eich rhai eich hunan.  Gan hynny, mae bod yn dda yn beth anodd, sy’n gofyn am rym ewyllys cryf uwchlaw ein dyheadau ein hunain.  Mae hyn yn sicr yn amlwg mewn syniadau Cristnogol am foeseg, gan mai eu rheol aur yw ‘Gwna i eraill fel y byddet ti’n dymuno i eraill wneud i ti.’  Y nod yw i ni ddod yn gyfryngau i hapusrwydd pobl eraill, a’r ddelfryd yw y byddwn ni wedyn yn dod yn hapus mewn ffordd unigryw ein hunain. 

Darllenydd 1

Ond pam y dylai pobl eraill fod mor bwysig?  Wedi’r cwbl, rydych chi’n unigolyn sy’n haeddu cael cymaint o fuddiannau bywyd ag unrhyw un arall.  Mae’r hen ddihareb o Tsieina sy’n dweud y byddwn ni’n treulio 80 y cant o’n bywydau yn anfodlon, mewn gwirionedd, yn annerbyniol yn y byd modern.  Mae gennym fesur da o ryddid: i ddewis pa gynnyrch i’w brynu, pwy fydd yn ein rheoli ni, beth wnewch chi â’ch bywyd, ac ati.  Mae’r rhyddid hwn, law yn llaw â chyfoeth pellach diogelwch Ewrop fodern, yn cyferbynnu’n fawr â bywyd caled Tsieina ’slawer dydd.

Darllenydd 2

Felly, mae’n fater o ddewis a fyddwch chi’n penderfynu ar ddechrau newydd ar gyfer blwyddyn newydd.  Os nad ydych chi’n gwneud adduned, dydych chi ddim yn unigolyn drwg.  Mae hyn yn cyferbynnu â moesoldeb, pan fydd rhywun sy’n gwrthod ei rheolau yn cael ei weld fel rhywun anfoesol.  Mae hyn yn awgrymu bod addunedau blwyddyn newydd yn llai difrifol na dewisiadau moesegol arferol, gan nad ydyn nhw’n cael sgil effeithiau gwirioneddol.  Mae hyn yn broblem: mae’r hyn a ddylai fod yn benderfyniad diffuant i wella ein hunain a sefyllfa pobl eraill yn dod yn rhywbeth sy’n cael ei wneud er ein budd ein hunain.  A byddai athronydd yn ymateb fod penderfyniad moesol sy’n cael ei wneud am ei resymau ei hunan yn fympwyol, ac yn methu cyrraedd nod sylfaenol bywyd moesol.

Darllenydd 1

Dadleuai’r athronydd mawr Aristotle y dylem dreulio ein bywydau yn anelu at gyrraedd synnwyr o eudemonia, sydd yn synnwyr o oleuedigaeth resymol sy’n cael ei achosi gan fyw ein bywyd yn unol â rhinweddau.  Mae cymaint y gellir ei ddysgu gan Aristotle: mae moesoldeb yn gofyn am weithred reolaidd o ewyllys, a ddylai gael ei ledaenu dros gyfnod hir o amser.  Ymhellach, mae’r cysyniad hwn o foesoldeb yn cynnig gwobr ar ei ddiwedd: mae eudemonia yn cael ei ddisgrifio fel y ffurf uchaf o hapusrwydd.

Darllenydd 2

Efallai bod adduned blwyddyn newydd yn gamarweiniol: wedi’r cyfan, y cyfan yw blwyddyn yw ffordd fympwyol o ddynodi cyfnodau o amser.  Yr hyn a fyddai’n werthfawr mewn gwirionedd fyddai adduned i fyw ein bywydau yn rhinweddol a rhesymol, yn weithred o wella eich hunan lawn gymaint ag un o gyfiawnder moesol.

Amser i feddwl

Chwaraewch gerddoriaeth: rhywbeth gan Enya, efallai, neu ‘Fragile’ gan Sting.

Yn y distawrwydd, gadewch i ni feddwl am ein haddunedau personol.

Allwch chi gofio’r rhai a wnaethoch chi’r llynedd?

Wnaethoch chi lwyddo i’w cadw nhw?

(Saib)
Nawr, gadewch i ni ystyried beth fydd yn rhaid i ni o bosibl eu datrys y flwyddyn nesaf.
Beth fyddem yn hoffi ei gyflawni?
Efallai mai mynd i goleg neu brifysgol, neu adael cartref, fydd hynny.
Efallai mai perfformio’n well nag erioed, fel cyflawni rhywbeth yn y byd chwaraeon, fydd hynny.
Sut allech chi wneud adduned a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill?
Beth allech chi ei wneud a fyddai’n cael effaith hir dymor nid yn unig ar eich bywydau chi, ond ar ddyfodol pobl eraill hefyd?
(Saib)

Gweddi
Dyma weddi Sant Ffransis o Asisi:
Arglwydd, gwna fi’n offeryn dy hedd.
Lle mae casineb, boed i mi hau cariad,
Lle mae camwedd, maddeuant,
Lle mae amheuaeth, ffydd,
Lle mae anobaith, gobaith,
Lle mae tywyllwch, goleuni,
Lle mae tristwch, llawenydd.

O Feistr Dwyfol, caniatâ fy mod 
nid yn gymaint yn ceisio cysur, ond yn ei roi,
nid yn gymaint yn dymuno cael fy neall, ond yn ceisio deall,
nid yn gymaint yn dymuno cael fy ngharu, ond yn rhoi cariad;
oherwydd, wrth roi y derbyniwn,
wrth roi maddeuant y derbyniwn faddeuant,
wrth farw y deffrown i fywyd tragwyddol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon