Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dydd Gwener Y 13eg

Anogir myfyrwyr i ystyried eu credoau am rôl siawns a ffawd yn eu bywydau, ar y diwrnod hwn a ystyrir gan rai fel diwrnod mwyaf anlwcus y flwyddyn.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Anogir myfyrwyr i ystyried eu credoau am rôl siawns a ffawd yn eu bywydau, ar y diwrnod hwn a ystyrir gan rai fel diwrnod mwyaf anlwcus y flwyddyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dau ddarllenydd.

  • Gellir dod o hyd i stori Marie Rawsthorne yn y Sunday Times, 1 Ionawr 1995 (tudalen 3).

  • Cerddoriaeth a awgrymir: ‘I’m Lucky’ gan Joan Armatrading

Gwasanaeth

  1. Ydych chi’n lwcus neu’n anlwcus?  Cymharwch eich hun â Marie.

    Darllenydd 1: Bu Marie mewn nifer o ddamweiniau ceir.  Ar un daith 50 milltir bu’n agos at gael damwain wyth gwaith.

    Darllenydd 2: Pan gafodd brofion am ganser y fron, disgynnodd a thorrodd ei braich, ac yna fe dorrodd ei choes ychydig yn ddiweddarach. 

    Darllenydd 1: O fewn cyfnod o 18 mis, collodd ei mam, ei dwy nain a’i dau daid, modryb, a dau gefnder.

    Darllenydd 2: Bu ei thy ar dân ddwywaith.  Ychydig cyn iddi briodi, llosgodd yr eglwys yn ulw.  Mae hi hefyd wedi bod yn ddigartref.

    Darllenydd 1: Bob dydd, mae hi’n cael damweiniau neu anafiadau rhyfedd: ni fydd y car yn cychwyn, ni fydd cyfarpar trydanol yn gweithio, bydd lluniau’n disgyn oddi ar y wal, bydd ffrindiau yn galw ac yn difrodi ei phethau’n ddamweiniol.

  2. Mae hi’n anlwcus ofnadwy, yn tydi?  Mae hi’n ddydd Gwener y 13eg heddiw, y diwrnod pan fydd anffawd a lwc ddrwg ar drywydd pawb, pan fydd pethau drwg yn digwydd i bobl dda.  Beth ydych chi’n ei gredu am lwc?  Dyma bedwar dewis posibl.

    Darllenydd 1: Mae ein bywydau yn cael eu llywodraethu gan safle’r sêr a’r planedau.  Fel magnetau, maen nhw’n ein tynnu ni’n gryf, gan greu cyfleoedd a rhwystrau y mae’n rhaid i ni ddygymod â nhw.  Mae horosgopau yn ein helpu ni i ddehongli beth sy’n debygol o ddigwydd, ac ystyried y ffactorau hyn, mewn perthynas â’r hyn a wnawn.

    Darllenydd 2: Mae Duw wedi rhagarfaethu popeth a fydd yn digwydd yn ein bywydau.  Y mae wedi ei ysgrifennu ar ein cyfer yn ei lyfr.  Er hynny, fe fydd yn ymyrryd ac yn newid pethau os gofynnwn ni’n ddigon taer.

    Darllenydd 1: Ni sy’n rheoli ein bywydau ein hunain yn gyfan gwbl.  Mae’r cyfan yn dibynnu ar y dewisiadau rydym yn eu gwneud.  Mae rhai dewisiadau yn iawn, a rhai yn anghywir.  Mae rhai wedi cael eu pwyso a’u mesur yn ofalus, ac ambell un arall yn fenter fwriadol.  Ni ellir rhoi’r bai ar unrhyw un.

    Darllenydd 2:  Hap llwyr ydi bywyd.  Rydym yn byw mewn anhrefn, ac mae’n rhaid i ni dderbyn yr hyn a ddaw, pa un ai a ydyn ni’n hoffi hynny ai peidio.

  3. Dydw i ddim yn fodlon â’r un o’r dewisiadau hyn, a dweud y gwir.  Nid yw'r un ohonyn nhw’n cyfateb yn union i’m profiad i.  Rydw i’n teimlo fy mod i’n gallu rheoli pethau i ryw raddau, ond eto i gyda mae penderfyniadau pobl eraill yn effeithio arna i.  Mae ’na adegau hefyd pan rydw i’n ymwybodol bod ffactorau eraill ar waith, ffactorau nad oes modd i mi eu hegluro.  Yn sicr, maen nhw’n gyd-ddigwyddiadau anhygoel.

    Felly, sut y gallwn ni farnu ai pobl lwcus ynteu pobl anlwcus ydyn ni?  Mae Seicolegwyr yn honni y gallai ein ffordd o feddwl am fywyd ddylanwadu ar hynny: os ydyn ni’n bobl optimistaidd, gobeithiol, yna dim ond ochr gadarnhaol sefyllfaoedd welwn ni.  Er enghraifft, petaen ni’n disgyn i lawr y grisiau ac yn torri ein coes, byddai’r pesimist yn dweud, ‘Pam fod hyn bob amser yn digwydd i mi?  Mae’n ofnadwy!’  Ond fe allai’r optimist ddweud, ‘Diolch byth na wnes i dorri fy asgwrn cefn.’  Yn ychwanegol, mae’r rhai sy’n cofio ac yn dathlu’r dyddiau da yn casglu cronfa o atgofion da sy’n cydbwyso â’r cyfnodau anodd.

    Mae pobl eraill yn honni, ein bod ni’n fwy tebygol o gael damweiniau a cholli cyfleoedd os ydyn ni’n betrys ac amhendant, yn enwedig ar ddydd Gwener y 13eg.  Fe fydd yr unigolyn cadarnhaol, pendant yn gwneud eu lwc eu hunain, ac yn cymryd y cyfle cyn iddo ddiflannu.  Os ydyn nhw’n gwneud camgymeriad, yna mae'n cael ei weld fel cyfle i ddysgu.  Fel mae rhai pobl yn dweud: gwneud rhywbeth o’i le yw cam cyntaf gwneud pethau’n iawn.

  4. I’r rhai sy'n credu, mater o bwyso ar eich ffydd yw bywyd.  Gweddïodd Iesu y byddai Duw yn ein ‘gwared ni rhag drwg’, ac i nifer o bobl, mae hon yn weddi ddyddiol.  Rwyf hefyd wedi clywed pobl yn dweud bod cyd-ddigwyddiadau yn codi’n amlach pan fyddwch chi’n gweddïo.

Amser i feddwl

Treuliwch funud neu ddau yn ystyried y syniadau canlynol.  Efallai yr hoffech chi eu troi nhw’n weddi:
Byddwch yn ddiolchgar am y llwyddiannau yn eich bywyd yn ystod y dyddiau diwethaf.
Byddwch yn edifar am yr adegau hynny pan gafodd rhywbeth a wnaethoch chi yn ddiweddar, neu y gwnaethoch chi eu dweud, effaith niweidiol ar rywun arall.
Penderfynwch gymryd camau sy’n deillio o’r hyn rydym wedi ei drafod yn y gwasanaeth heddiw.

Cerddoriaeth

Chwaraewch y gân ‘I’m Lucky’ gan Joan Armatrading.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon