Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Jona

Meddwl am bwysigrwydd bod yn onest a dibynadwy, hyd yn oed pan fydd raid i ni wneud rhywbeth sydd yn groes i’n hewyllys.

gan Jenny Tuxford

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am bwysigrwydd bod yn onest a dibynadwy, hyd yn oed pan fydd raid i ni wneud rhywbeth sydd yn groes i’n hewyllys.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae digon o ddeunydd yma i wneud tua thri o wasanaethau — gallwch ei ddefnyddio am wythnos lawn.  Er enghraifft:
    Gwasanaeth 1: Gweithiwch gyda’r plant ar stori Jona a throwch hi’n ddrama. Byddai gweithgareddau i gyd-fynd â’r stori o bosib yn gweithio’n well na dim arall, oherwydd mae’r stori yn un ddramatig dros ben.  Gallai nifer o blant gyda’i gilydd ffurfio’r morfil.
    Gwasanaeth 2:  Ewch dros y gerdd fel grwp adrodd.
    Gwasanaeth 3:  Ewch dros stori Jona fel cerdd.  Gallwch drefnu lleisiau gwahanol i chwarae rhannau Duw a Jona, a gall y plant eraill ddarparu effeithiau swn (ond byddwch yn gymedrol wrth daflu i fyny!).

  • Y cefndir i stori Jona. Roedd teithio ar y môr tua 800 mlynedd cyn geni Crist yn fusnes peryglus dros ben.  Byddai stormydd yn digwydd yn aml ar Fôr y Canoldir.  Fe fyddai’r llong yr oedd Jona’n teithio arni wedi bod yn llong fasnach fawr, gyda sawl rhes o rwyfau arni. 
    Clywodd Jona lais Duw yn galw arno i fynd i Ninefe, dinas a oedd rhyw 700 milltir i ffwrdd.  Doedd Jona ddim yn edrych ymlaen at y gwaith o droi pobl at Dduw. Roedd yn gwybod nad oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw erioed wedi clywed amdano, a´r lleill â dim diddordeb - felly fe deithiodd i’r cyfeiriad arall, tuag at Sbaen.  Ond nid felly roedd pethau i fod!  Aeth y llong yr oedd yn teithio arni i ganol storm fawr a dechrau suddo. Bwriodd y llongwyr goelbren i weld duw pwy oedd wedi ei dramgwyddo. Tynnodd Jona'r gwelltyn byrraf a chafodd ei daflu oddi ar y llong i’r môr fel offrwm o heddwch. Ac felly, ar ôl cael ei lyncu a’i chwydu allan gan bysgodyn mawr, fe deithiodd Jona o’r diwedd i Ninefe. Yno, er syndod mawr iddo, fe wrandawodd y bobl arno wedi´r cyfan a throi ymaith oddi wrth eu ffyrdd drygionus o fyw.  Yn y diwedd, daeth Jona i sylweddoli bod gan Dduw gonsyrn dros bawb sydd mewn perygl.

Gwasanaeth 1

Darllenwch stori Jona o’r Hen Destament.  Byddwch angen penodau 1 a 3 (mae pennod 4 yn ddiweddglo diddorol, ond nid ydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y rhan honno o’r stori yn y gwasanaethau hyn).

Trafodwch gyda’r plant beth y maen nhw’n ei feddwl yw ystyr y stori.  Yn gyffredinol credir bod y stori yn ymwneud â maddeuant ac edifarhau neu ddweud sori; ufudd-dod a chosb, a thosturi a maddeuant Duw. 

Efallai bod yna adegau wedi digwydd ym mywyd y plant pan oedd angen iddyn nhw fod yn ddewr wrth iddyn nhw ddod wyneb yn wyneb â rhyw anhawster neu gyfyng-gyngor.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am yr adegau hynny pryd y maen nhw wedi ei chael hi yn anodd gwneud rhywbeth yr oedden nhw’n gwybod a oedd yn iawn.  Sut y gwnaethon nhw ddelio â hynny?

Gofynnwch iddyn nhw feddwl am yr adegau hynny pan oedden nhw’n gwybod eu bod yn gwneud rhywbeth oedd ddim yn iawn.  A wnaethon nhw ddweud ‘sori’ wrth y person arall, ac efallai wrth Dduw hefyd?

Yna, gofynnwch i’r plant feddwl am yr adegau hynny pan wnaethon nhw’r ‘peth iawn’, a pha mor falch yr oedden nhw’n teimlo wedyn ar ôl iddyn nhw gyflawni hynny.

Gweddi
Annwyl Dduw Dad,
Gwna fi’n gryf
i wrthsefyll yr hyn sydd ddim yn iawn.
Rho nerth i mi i sefyll dros
yr hyn yr wyf yn ei wybod sy’n iawn.  

Gwasanaeth 2

Cydweithio

Fe fyddai´n bosib i chi rannu´r cerddi a gosod llinellau i´w darllen i blant unigol neu grwpiau o blant.

Treuliwch ychydig funudau yn adolygu stori Jona cyn i chi gychwyn yr adran hon.

Mae pawb yn hoffi meddwl eu bod nhw’n onest a dibynadwy.  Y dosbarthiadau gorau mewn ysgol yw´r rhai hynny sy’n cynnwys plant sy’n ddibynadwy a chyfrifol.  Weithiau, mae angen i ni gael y dewrder i ddefnyddio amser cylch neu Gyngor yr Ysgol i ddatrys y problemau hynny sy’n peri consyrn i ni.

Dyma enghraifft: Roedd gennym ddosbarth hapus a gweithgar ar un adeg.  Roedd pob athro neu athrawes yn dweud eu bod yn hoffi ein haddysgu, ac o ganlyniad, fe ddigwyddodd llawer o bethau dymunol i ni, ac fe gawsom ni lawer o wobrau a thystysgrifau.

Ond un diwrnod daeth y Prifathro gan gyflwyno bachgen newydd a oedd yn ymuno â ni yn y dosbarth.  Ei enw oedd Peter ac roedd y sefyllfa yn hunllef o’r cychwyn cyntaf.  Roedd Peter yn ymladd â phawb, yn twyllo mewn gemau, ac roedd yn rhegi o hyd.  Roedd ein hathrawes yn gorfod treulio llawer o’i hamser yn datrys y problemau yr oedd Peter wedi eu creu. 

Fe ddioddefodd y dosbarth cyfan, ac roedd ein hathrawon yn gorfod dwrdio o hyd ac o hyd.  O dipyn i beth doedd yr athrawon eraill ddim yn fodlon iawn i ddod i’n haddysgu ychwaith.  Fe ddywedodd ein hathrawes na fyddai yna fwy o wobrwyon - dim mwy o wneud darnau gwyddbwyll o glai, canhwyllau ar gyfer ffair yr ysgol na theisennau na melysion i fynd adref.  Roedd pawb yn teimlo’n ddiflas - pawb ond Peter.

Yna, un diwrnod yn y sesiwn amser cylch, fe gafodd Esther ddigon o ddewrder i ddweud yn uchel beth oedd pawb arall yn ei deimlo ac yn ei sibrwd wrth ei gilydd.  Dywedodd wrth Peter ei bod wedi cael llond bol arno - fe ddywedodd hynny yn foneddigaidd ond yn gadarn.  Roedd pawb yn cytuno ac yn  dweud wrtho na fydden nhw’n ymateb iddo nac yn cwffio ag o -  fe fydden nhw’n cerdded oddi wrtho.  Pe byddai’n twyllo mewn gemau, yna ni fydden nhw’n gadael iddo chwarae.  Os oedd Peter yn rhegi, fydden nhw ddim yn gwrando arno.

Roedd y penderfyniad yn un yr oedd y grwp wedi ei wneud trwy gydweithio.  Cyn gynted ag y sylweddolodd Peter na fyddai gweddill y plant yn goddef ei ymddygiad drwg, fe ddechreuodd ymddwyn yn well yn araf bach.  Gwelodd ei byddai hi’n well ar bawb, yn cynnwys ef ei hun, pe byddai’n gwella ei ymddygiad ac yn dod yn rhan o dîm parchus a hoffus.

Mae´n bosib i aelodau o ddosbarth gael cryn ddylanwad da a phositif ar rai eraill.

Cyfaddef

Weithiau fe fyddwch yn gwybod bod rhywbeth o’i le,
Ac na wyddoch chi ddim beth ddylech chi ei wneud.
Ond os byddwch chi´n sôn wrth athro neu rywun am y peth,
Fe fyddan nhw’n gwybod wedyn mai chi fydd wedi dweud.

Weithiau fe fydd pethau yn mynd ar goll,
Efallai eich bod yn gwybod pwy wnaeth, a pha bryd.
Ydych chi´n dweud yn dawel wrth yr athro, ryw dro?
Neu´n smalio na wyddoch chi ddim byd?

Pan fyddwch chi eich hunan wedi gwneud rhywbeth ffôl,
Ac mae gennych chi gywilydd – dim llai -
Peidiwch ag eistedd yn ôl ac aros yn fud,
Gan adael i eraill gael y bai.

A phan gewch eich holi, am y peth yma a´r peth arall
Er mor hawdd fyddai hynny, mae´n beth annoeth yn wir
Dechrau gwneud llu o esgusion
Pan fyddwch chi´n gwybod nad hynny yw´r gwir.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am yr adegau hynny pryd yr oedden nhw wedi wynebu rhyw ddilema neu benderfyniad anodd:  a ydyn nhw’n gadael i’r unigolyn sy’n gas wrthyn nhw barhau i wneud hynny, neu a ydyn nhw’n gofyn iddo fo neu hi beidio ag ymddwyn yn y ffordd honno o hynny ymlaen?

Meddyliwch am y ffordd fwyaf caredig i ddweud rhywbeth felly wrth rywun.
Meddyliwch pa mor ddewr y byddai’n rhaid i chi fod.
Meddyliwch sut y byddech yn cael digon o blwc i fod yn ddewr a gwneud hynny.

Gweddi
Annwyl Dduw Dad,
Gwna fi’n gryf
i wrthsefyll yr hyn sydd ddim yn iawn.
Rho nerth i mi i sefyll i fyny dros
yr hyn yr wyf yn ei wybod sy’n iawn.

Gwasanaeth 3

Ewch dros y ddau wasanaeth blaenorol cyn dychwelyd at stori Jona.

Dyma stori o´r Beibl am ddyn enwog o’r enw Jona.  Fe wnaeth Duw ofyn i Jona wneud rhywbeth nad oedd eisiau ei wneud o gwbl.  Dyma beth ddigwyddodd iddo fo.

Jona

Fe siaradodd Duw â Jona,
Gan roi gorchymyn iddo ef,
‘Rwyf eisiau i ti fynd i Ninefe –
Mae llawer o bobl ddrwg yn y dref.’

Ond doedd ar Jona ddim eisiau mynd yno,
Roedd yn bendant, ‘Na, dim fi! Na, no-wê!
Felly, fe aeth ar long oedd yn mynd ar fordaith
Gan obeithio dianc yn ddigon pell o´r lle.

Ond fe gododd y gwynt
A chododd y tonnau yn uwch
Teimlai pawb ar y llong yn sâl wedyn!
Gwaeddodd Jona, ‘Fy mai i yw hyn.
Taflwch fi dros ochr y llong yn reit sydyn!’

Gostegodd y storm,
Tawelodd y gwynt a´r tonnau,
Ond, druan o Jona,
Mewn braw a dychryn -
Cafodd ei lyncu
Gan glamp o bysgodyn!

Roedd y llong, erbyn hynny,
Yn morio´n ddiogel,
A Jona ym mol y pysgodyn.
Bu´n meddwl o ddifrif am yr hyn a wnaeth,
Am dair noson a thri diwrnod, mewn tywyllwch yn gaeth.

Ac yna, fe ddywedodd, ‘O, wir, mae yn ddrwg gen i.’
Dywedodd Duw, ‘Rwy´n deall yn iawn sut rwyt ti´n teimlo.’
Rhoddodd Duw orchymyn i´r anghenfil pysgodyn
Daflu Jona o´i fol ac allan ohono.

Wedi hynny, fe aeth Jona i Ninefe´n ufudd,
A dweud wrth y bobl sut i fyw.
Ar ôl gwrando ar Jona, fe ddywedodd pawb, ´Sori!`
A chafodd pawb wedyn faddeuant gan Dduw.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant feddwl am yr hyn a ddysgodd Jona yn y stori yma.  Beth all y plant ddysgu o stori Jona?

Gweddi
Annwyl Dduw Dad,
Gwna fi’n gryf
i wrthsefyll yr hyn sydd ddim yn iawn.
Rho nerth i mi i sefyll i fyny dros
yr hyn yr wyf yn ei wybod sy’n iawn.  

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon