Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Agweddau Ar Malawi 1

Edrych ar y faner, a`í dadansoddi

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Darparu cyflwyniad i wlad Malawi, gan edrych ar faner y wlad er mwyn ysgogi diddordeb mewn cyfres fwy manwl am y wlad.

Paratoad a Deunyddiau

  • Delwedd o faner gwlad Malawi ar y sgrin (neu arddangos copi mawr o’r faner).
  • Mae ffotograffau ar gael i´w llwytho i lawr i gyd-fynd â’r gwasanaeth yma.

Gwasanaeth

  1. Sgwn i faint ohonoch chi sy’n gwybod unrhyw beth am y wlad Malawi?  Ar ba gyfandir y mae Malawi?  (Affrica)  Pwy wnaeth fabwysiadu plentyn bach o Falawi yn y flwyddyn 2006? (Madonna).

    Dyna o bosib y cyfan yr ydych chi yn ei wybod am y wlad ar hyn o bryd.  Ond dyma’r cyntaf o chwech o wasanaethau addoli ar y cyd y byddwn yn darganfod trwyddyn nhw, sut beth yw hi i fod gartref, yn yr ysgol, mewn gwaith, ac yn mwynhau chwarae a bod allan yn y gwyllt ym Malawi.

  2. Yn y gwasanaeth hwn, byddwn yn defnyddio’r faner i’n haddysgu am fywyd yn Malawi. (Dangoswch ddelwedd o’r faner.)  Mae pob un o’r lliwiau a’r symbol ar y faner yn cynrychioli rhywbeth sydd o bwys i bobl Malawi.

  3. Du. Beth yw’r lliw cyntaf?  Beth ydych chi’n ei feddwl y mae’r lliw yma’n ei gynrychioli?

    Mae’r lliw du yn cynrychioli pobl Malawi.
    Malawi - Colours of the flag - black

    Mae’r lliw du yn cynrychioli pobl Malawi.

    Dangos llun maint llawn >>

     


    Mae dwysedd poblogaeth Malawi gyda’r uchaf yn Affrica.  Mae hynny’n golygu bod llawer o bobl yn byw yn y wlad fechan.

    Mae Malawi yn un o ychydig o wledydd yn Affrica sydd â’i thir heb fod yn cyrraedd y môr.  Mae hynny’n golygu bod pobl Malawi yn dibynnu ar wledydd sy’n ffinio â hi i ganiatáu i’r cynnyrch sydd wedi cyrraedd ar ei chyfer, ar longau, gael eu trawsgludo drwy’r gwledydd hynny.

    Mae Malawi yn cael ei hadnabod fel calon gynnes Affrica oherwydd bod y bobl yn bositif, yn gyfeillgar a gofalgar.

  4. Coch. Beth yw’r ail liw?  Beth ydych chi’n feddwl y mae’r lliw yma’n ei gynrychioli?

    Coch yw lliw dioddefaint.
    Malawi - Colours of the flag - red

    Coch yw lliw dioddefaint.

    Dangos llun maint llawn >>

     


    Mae dioddefaint wedi bod yn rhan o hanes Malawi.  Yn ystod y ddeunawfed ganrif, daeth masnachwyr cyfoethog o’r Dwyrain i ymosod ar bentrefi a chipio´r bobl ymaith i fod yn gaethweision.  Byddai’r caethweision hynny yn gorfod dioddef taith ddeuddydd ar draws Llyn Malawi mewn amgylchiadau clos a myglyd, mewn cychod oedd wedi eu gorlenwi. Yna, roedd yn rhaid iddyn nhw orymdeithio a chario beichiau trymion ar eu cefnau ar draws gwlad at yr arfordir, ac os oedden nhw’n rhy wan i barhau i gerdded felly, fe fydden nhw’n cael eu lladd.

    Erbyn hyn, mae’r fasnach gaethweision yn hen hanes, ond i’r rhan fwyaf o bobl Malawi, mae dioddefaint yn rhywbeth sy’n rhan o’u bywyd beunyddiol.  Mae llawer yn dioddef o dlodi enfawr a heintiau.  Nid yw’r rhan fwyaf o’r bobl yn goroesi y tu hwnt i 40 oed.

  5. Gwyrdd. Beth yw’r trydydd lliw?   Beth ydych chi’n feddwl y mae’r lliw yma’n ei gynrychioli?

    Malawi - Colours of the flag - green

    Mae gwyrdd yn cynrychioli’r tir a’r hyn oll sy’n tyfu arno.

    Dangos llun maint llawn >>

     



    Mae’r tir yn ffrwythlon a’r llystyfiant yn doreithiog.  Gyda thymhorau rheolaidd o law a sychder, mae’n bosib tyfu cansen siwgr, cotwm, ffrwythau a llysiau.  Mae 80% o bobl Malawi yn ymwneud â ffermio, tyfu bwyd ar gyfer eu defnydd eu hunain, ac ar gyfer ei werthu yn y farchnad.

  6. Yr Haul yn Codi. Beth yw’r symbol ar y faner?  Beth ydych chi’n ei feddwl y mae’n ei gynrychioli?

    Cafodd y symbol o’r haul yn codi ei ychwanegu at faner y wlad pan gafodd y wlad ei hannibyniaeth yn y flwyddyn 1964.  Mae’n cynrychioli gobaith y bobl, eu dymuniad i wneud Malawi yn lle gwell i bawb sy’n byw yno, a’r gred bod dydd newydd ar wawrio yng ngwlad hardd Malawi.

Amser i feddwl

Gadewch i ni fyfyrio ar Malawi wrth i ni ddwyn ein hamser gyda’n gilydd i ben.

Mae’n rhyfeddol bod pobl sydd â chyn lleied yn gallu ymddangos mor llawen.

Mae’n anghredadwy bod pobl sydd yn byw gyda chymaint o ddioddefaint yn gallu cael cymaint o obaith yn eu calonnau.

Rydym ni´n lwcus iawn.

Mae gennym ni ddigonedd ac, er hynny, rydym yn aml eisiau mwy.

Wrth i ni ystyried gwlad Malawi, gadewch i ni agor ein meddyliau er mwyn i ni allu dysgu oddi wrth y ffordd y mae’r bobl yn byw ac yn gweithio ac yn chwarae.

Gadewch i ni agor ein calonnau i werthfawrogi'r hyn oll sydd gennym.

Gadewch i ni ddefnyddio ein dychymyg i helpu pobl Malawi i wireddu eu gobeithion.

Cân/cerddoriaeth

Gadewch i ni fyfyrio ar Malawi wrth i ni ddwyn ein hamser gyda’n gilydd i ben.

Mae’n rhyfeddol bod pobl sydd â chyn lleied yn gallu ymddangos mor llawen.

Mae’n anghredadwy bod pobl sydd yn byw gyda chymaint o ddioddefaint yn gallu cael cymaint o obaith yn eu calonnau.

Rydym ni´n lwcus iawn.

Mae gennym ni ddigonedd ac, er hynny, rydym yn aml eisiau mwy.

Wrth i ni ystyried gwlad Malawi, gadewch i ni agor ein meddyliau er mwyn i ni allu dysgu oddi wrth y ffordd y mae’r bobl yn byw ac yn gweithio ac yn chwarae.

Gadewch i ni agor ein calonnau i werthfawrogi'r hyn oll sydd gennym.

Gadewch i ni ddefnyddio ein dychymyg i helpu pobl Malawi i wireddu eu gobeithion.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon