Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yn Yr Ddaear Ac Uwch Ben Y Ddaear

Dathlu ein bod yn gallu mwynhau llysiau, a meddwl am sut y bydd llysiau’n tyfu ac yn cael eu cynaeafu.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dathlu ein bod yn gallu mwynhau llysiau, a meddwl am sut y bydd llysiau’n tyfu ac yn cael eu cynaeafu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth o lysiau, llysiau ffres sydd heb gael eu pecynnu a fyddai orau. O bosib, fe fyddai eich rhestr yn cynnwys llysiau fel: moron a betys (gyda’r dail?) radisys, tatws, swêds, cennin, nionod, bresych, blodfresych, letys, ciwcymbr, tomato, corn cob, pupur, sbigoglys, pwmpen, ffa dringo.
  • Trwy gydol y gwasanaeth, cofiwch ddefnyddio’r arwydd ‘bawd i lawr’ neu 'fawd i fyny’ er mwyn nodi ai yn y ddaear neu uwch ben y ddaear y mae’r llysieuyn yn tyfu.
  • Chwiliwch ar y rhyngrwyd am ddelweddau addas o bobl yn cynaeafu cnydau. Fe allech chi drefnu i arddangos y rhain, os bydd hynny’n briodol, yn ôl amodau hawlfraint.

Gwasanaeth

  1. Cyfeiriwch at eich casgliad o lysiau, a meddyliwch am y ffaith mai un o bleserau mawr adeg y cynhaeaf yw gweld yr holl amrywiaeth lliwgar o bethau sydd gennym y gallwn ni eu bwyta. Mae amrywiaeth hefyd, nid yn unig yn y ffordd y mae llysiau yn edrych ac yn blasu, maen nhw hefyd yn tyfu mewn ffyrdd gwahanol ac yn cael eu casglu mewn ffyrdd gwahanol.

  2. Eglurwch fod hadau’r holl lysiau yn cael eu hau yn y pridd. Ond, fel mae’r planhigyn yn tyfu, mae rhai o’r llysiau’n datblygu gwreiddiau a chloron (tubers) sydd o’r golwg o dan y ddaear. Mae rhai mathau eraill, wedyn, yn tyfu’n ddail, ac yn godennau (pods) ac yn ffrwythau sy’n tyfu ar wyneb y tir, neu uwch ben y ddaear.

  3. Dewiswch rai o’r llysiau. Gyda’r plant, nodwch y mathau gwahanol. Gofynnwch i’r plant ymateb i’r cwestiwn: ‘Yn y ddaear neu uwchben y ddaear?’ (bodiau i lawr neu fodiau i fyny). 

    Disgrifiwch wahanol batrymau tyfiant. Er enghraifft, yn achos tatws rhaid codi’r pridd yn y rhesi at y tatws wrth i’r gwlydd dyfu er mwyn i’r cnwd ddatblygu heb i olau’r haul fynd at y cloron neu’r tatws. Rhaid gosod polion neu ffyn i gynnal planhigion ffa dringo wrth iddyn nhw dyfu. Mae planhigyn y ffa dringo’n ymestyn i fyny’r ffyn ac yn cydio ynddyn nhw (mae’r planhigion yma’n tyfu’n gyflym!). Bydd rhaid ‘teneuo’ rhai cnydau fel moron, er mwyn i’r llysiau gael lle i dyfu.

  4. Soniwch am y gwahanol ffyrdd y bydd llysiau’n cael eu cynaeafu. 

    Yn y ddaear: Caiff y tatws eu codi o’r pridd, a’u gwahanu oddi wrth y gwlyddyn. Caiff y moron eu tynnu o’r pridd - ar ôl cael eu rhyddhau yn gyntaf â fforch.

    Uwch ben y ddaear: Bydd llysiau fel bresych, blodfresych, letys a phwmpenni, yn cael eu torri oddi ar y coesyn. Bydd y pupur a’r tomatos, y pys a’r ffa, ac ati, yn cael eu casglu oddi ar y planhigyn.

  5. Pa lysiau y mae’r plant yn eu hoffi orau? Ydyn nhw’n tyfu yn y pridd o’r golwg yn y ddaear neu uwch ben y ddaear? Soniwch fod y prydau bwyd, y bydd pobl yn eu mwynhau fwyaf, yn aml yn cynnwys rhai llysiau sy’n tyfu o dan y ddaear a rhai sy’n tyfu uwch ben wyneb y ddaear, y ddau fath gwahanol gyda’i gilydd ar y plât. Ar adeg diolchgarwch am y cynhaeaf, rydyn ni’n diolch am y ddau fath. (Un bawd i lawr a’r llall i fyny!)

  6. Canwch y gân fach syml hon i alaw ‘Polly put the kettle on’, gyda’r symudiadau priodol ar gyfer y dull o gynaeafu.

    Canwn gân cynhaeaf
    Canwn gân cynhaeaf
    Canwn gân am foron (bodiau i lawr)
    dynnwn ni fel hyn. (tynnu)

    Canwn gân cynhaeaf
    Canwn gân cynhaeaf
    Canwn gân am fresych (bodiau i fyny)
    dorrwn ni fel hyn. (torri)

    Canwn gân cynhaeaf
    Canwn gân cynhaeaf
    Canwn gân am datws (bodiau i lawr)
    godwn ni fel hyn. (codi tatws gyda fforch)

    Canwn gân cynhaeaf
    Canwn gân cynhaeaf
    Canwn gân am ffa dringo (bodiau i fyny)
    gasglwn ni fel hyn. (casglu)

    (Fe allwch chi addasu’r penillion wrth i rai o’r plant awgrymu gwahanol lysiau i´w henwi neu ddal llysieuyn neilltuol i fyny i’w ddangos. Fe allech chi ddiweddu’r gân gyda’r pennill canlynol.)

    Diolch am gynhaeaf, 
    Diolch am gynhaeaf,  
    o’r ddaear fawr ac uwch ei phen
    Diolchwn nawr i Dduw.

Amser i feddwl

Gallwch addasu’r weddi hefyd yn ôl y llysiau sydd gennych chi.

O Dduw'r Creawdwr,

Rydyn ni eisiau dweud ‘Diolch’ am y llysiau rydyn ni´n eu mwynhau:

Am hadau bach sy´n tyfu’n bwmpenni mawr, rydyn ni’n dweud
Diolch.

Am y ffa dringo sy’n hongian fel clychau iâ,
Diolch.

Am y radis coch a’r betys porffor,
Diolch.

Am y bresych deiliog gwyrdd sy’n tyfu mewn rhesi,
Diolch.

Am y moron oren sy’n cuddio yn y pridd,
Diolch.

Am y tomatos coch sy’n aeddfedu’n araf yn yr haul,
Diolch.

Am y cyneuaf sy’n tyfu o’r golwg yn y ddaear, ac sy’n tyfu uwch ben y ddaear,
Diolch.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon