Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Agweddau Ar Malawi 2

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Rhoi i’r plant gipolwg ar fywyd o ddydd i ddydd mewn pentref ym Malawi.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewis geneth tua 6 oed i fod yn ddarllenydd, ac yn gwisgo darn o ddefnydd lliwgar o amgylch ei chanol fel sgert os yn bosib. Yr enw am y dilledyn yma ym Malawi yw ‘tchenje’.
  • Bowlen olchi llestri gyda nifer o gwpanau plastig a phlatiau ynddi.
  • Darnau o bren.
  • Basged i gasglu ffrwythau.
  • Mae delweddau ar gael i’w llwytho i lawr, oddi ar y we, sy’n cyd-fynd â´r gwasanaeth yma.

Gwasanaeth

  1. Cynhaliwch sesiwn o danio syniadau gyda’r plant am y math o bethau neu ddeunyddiau sydd gennym ni yn ein cartrefi yn y wlad hon.  Mae gennym ni bob math o bethau yn ein tai. Ond, dychmygwch dy heb:

    ddim cadeiriau …
    dim byrddau …
    dim teledu …
    dim dwr tap …
    dim trydan …
    dim carpedi …
    dim cypyrddau …

    Yn y rhan fwyaf o’r tai ym Malawi, does dim un o’r pethau yma.  

  2. Gofynnwch i rywun ddarllen y rhan ganlynol (neu gall yr arweinydd ei ddarllen a’r eneth ei actio):

    Fy enw yw Grace. Rydw i’n byw mewn pentref ger Llyn Malawi.

    Rydw i’n byw gyda fy mam, fy nain a’m brawd.  Mae fy nain yn gwehyddu matiau i ni eistedd arnyn nhw.
    Malawi - Grace
     


    Mae fy mrawd yn mynd i’r ysgol yn y pentref agosaf atom.  Mae’n mwynhau chwarae pêl-droed.
    Malawi - brother - loves football
     


    Dydw i ddim yn mynd i’r ysgol.  Rydw i’n helpu fy mam. Rydw i’n mynd â’r platiau i lawr at y llyn i’w golchi. (Mae’n cario’r bowlen ar ei phen.)

  3. Rydw i’n casglu coed tân. (Mae’n codi darnau o goed i fyny.)

    Rydw i’n codi’r afalau sydd wedi disgyn oddi ar y goeden. (Mae’n smalio codi afalau a’u rhoi yn y fasged.)

    Rydw i’n hel y cwn a’r ieir allan o’r ty.
    Malawi - chickens
     


  4. Mae Grace yn byw mewn ty sydd wedi ei wneud o frics mwd.
    Malawi - mud brick house

    Mae Grace yn byw mewn ty sydd wedi ei wneud o frics mwd

    Dangos llun maint llawn >>

     


    Mae’r briciau wedi cael eu torri allan o wely sych yr afon.
    Malawi - mud bricks

    Mae’r briciau wedi cael eu torri allan o wely sych yr afon.

    Dangos llun maint llawn >>

     


    Does dim dodrefn yn y ty.  Mae Grace a’i theulu yn eistedd ar y llawr ac yn cysgu ar y llawr.
    Malawi - no furniture

    Does dim dodrefn yn y ty.

    Dangos llun maint llawn >>

     


    Mae’r gegin, y toiled, a’r lle ymolchi, i gyd y tu allan i’r ty.
    Malawi - outside

    Mae’r gegin, y toiled, a’r lle ymolchi, i gyd y tu allan i’r ty.

    Dangos llun maint llawn >>

     

Amser i feddwl

Cymerwch amser i ddychmygu sut beth fyddai byw fel mae Grace yn byw.

Dychmygwch fyw mewn ty heb ddodrefn.

Mae ein tai ni yn llawn o bethau y gallwn fod yn ddiolchgar amdanyn nhw.

Wrth i ni ystyried gwlad Malawi, gadewch i ni agor ein meddyliau er mwyn dysgu am y ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio, ac yn chwarae.

Gadewch i ni agor ein calonnau i werthfawrogi'r cyfan sydd gennym ni.

Gadewch i ni agor ein dychymyg i helpu pobl Malawi i gael eu gobeithion wedi’u gwireddu.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon