Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Athrawon

Helpu’r plant i fod yn ddiolchgar am eu hathrawon.

gan The Revd Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i fod yn ddiolchgar am eu hathrawon.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen ‘cut-out’ neu siâp athro neu athrawes wedi’i dorri allan (maint llawn)).
  • Rhai dillad papur i’w gludio ar yr amlinelliad o’r athro neu’r athrawes (gallwch gynnwys rhai doniol os mynnwch chi!).
  • Blu-Tack, a hysbysfwrdd neu rywle i hongian y siâp arno.

Gwasanaeth

  1. Beth feddyliwch chi sy’n gwneud athro gwych neu athrawes wych? Pe byddech chi’n gorfod disgrifio un, sut fydden nhw’n edrych?   Derbyniwch rhai awgrymiadau, neu awgrymwch ambell beth eich hun, e.e. caredig, clyfar, teg, digrif, llym, croch, gwallt hir, esgidiau hardd.  Mae’n bosib i chi gael dipyn o hwyl gyda’r athrawon sydd yn yr ystafell!

  2. Heddiw, rydym yn mynd i geisio gwneud yr athro gorau yn y byd.  Ond, mae yna un broblem - mae angen dillad ar yr athro a byddaf angen eich help chi’r plant.

    Yn gyntaf oll, a yw’r person hwn yn athro neu’n athrawes?
    Beth mae ef neu hi angen ei wisgo?

    Derbyniwch awgrymiadau, e.e. sgert neu drowsus, ac yna ysgrifennwch ar bob dilledyn un o’r rhinweddau y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn yr adran flaenorol, e.e. ‘caredig’, ac ati.  Gofynnwch i’r plant ludio’r dillad papur ar yr athro neu’r athrawes bapur.

    Llongyfarchwch nhw ar wneud athro gwych neu athrawes wych.
  3. Eglurwch fod Iesu, mab Duw, yn athro.  Cafodd ei eni yn Iddew, ac yr oedd yn addoli fel Iddew.  Mae enw arbennig ar athrawon Iddewig, sef rabi.  Roedd disgyblion gan Iesu, pobl y byddai ef yn eu dysgu am Dduw. Yn aml iawn oedolion ac nid plant oedd y disgyblion.  Byddai pobl yn dilyn Iesu o le i le er mwyn ei glywed yn addysgu.

  4. Mae Cristnogion yn credu y gallwn ni ddysgu oddi wrth Iesu, hyd yn oed heddiw, wrth i ni ddarllen amdano yn y Beibl.  Maen nhw’n credu bod Iesu yn eu helpu i garu Duw a charu pobl eraill, wrth iddyn nhw fyw eu bywydau’n fwy tebyg i Iesu.

Amser i feddwl

Meddyliwch am eich athro neu eich athrawes.  Meddyliwch am y pethau y mae ef neu hi yn eu gwneud i chi bob dydd.  Meddyliwch am yr holl amser y maen nhw’n ei dreulio yn eich helpu chi i ddeall ac i ddysgu pethau newydd bob dydd.

Gweddi

Dduw Dad,
Diolch i ti a ein hathrawon.
Diolch am yr holl amser y maen nhw’n ei dreulio gyda ni,
am yr hollhelp y maen nhw’n ei roi i ni,
am yr holl hwyl a chwerthin,
ac am ein helpu ni i fod yn well pobl.
Bendithia nhw heddiw
yn enw Iesu.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon