Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cyfrif I Lawr

Dechrau’r Adfent gyda chyfnod o dawelwch a myfyrdod.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dechrau’r Adfent gyda chyfnod o dawelwch a myfyrdod.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Cylch Adfent a chanhwyllau, NEU un gannwyll fawr, a matsis.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch am wirfoddolwr o’r Dosbarth Derbyn i wneud ychydig o waith cyfrif i chi. Eglurwch a gallai hyn fod yn chwithig oherwydd y bydd rhaid cyfrif am yn ôl.  Byddwch yn awyddus i’r gwirfoddolwr gyfrif am yn ôl o 30 i 1.

    Yn awr gofynnwch am ail wirfoddolwr i wneud yr un peth eto, y tro hwn yn gyflym iawn. Y tro hwn, fe fyddwch yn ceisio cael y blaen ar gloc Countdown.

  2. Eglurwch fod y cloc neu’r mesurydd amser hwn yn perthyn i gêm o’r enw Countdown. Yn y gêm deledu honno, mae dau gystadleuydd yn cael naw llythyren i’w defnyddio i geisio gwneud gair ohonyn nhw mewn 30 eiliad. Nid yw’n dasg hawdd, ond mae rhai o’r cystadleuwyr yn rhyfeddol am ddatrys y  posau geiriau hyn.  Ar ddiwedd y 30 eiliad y cystadleuydd sydd wedi gwneud y gair hwyaf yw’r enillydd.

  3. Weithiau, mae cystadleuwyr clyfar yn gallu defnyddio’r llythrennau i gyd i wneud un gair mawr naw llythyren. 

    Rydych chi, yn awr, yn mynd i roi gair naw llythyren ar y bwrdd gwyn, ond mae’r llythrennau wedi eu cymysgu. Mae gan y plant 30 eiliad, tra bo’r cloc yn tician, i geisio dyfalu beth yw’r gair.  Os ydyn nhw’n gallu dyfalu beth yw’r gair, yna rhaid iddyn nhw roi eu llaw i fyny, ond heb weiddi’r ateb.  

    Y llythrennau yw: LL A N H U W C A Y 

    Ar ddiwedd y 30 eiliad, llongyfarchwch unrhyw blant sydd wedi darganfod beth yw’r gair. Gofynnwch iddyn nhw a oedden nhw’n ei chael hi’n anodd canolbwyntio wrth glywed y cloc yn tician yn y cefndir?

  4. Nodwch mai dechrau tymor y Nadolig yw hi’n awr, ac fel arfer mae yna lawer o gyfrif i lawr yn digwydd cyn y diwrnod mawr ei hun.  Efallai y byddwch yn clywed rhai pobl yn dweud, ‘Dim ond 24 diwrnod tan y Nadolig,’ neu ‘Dim ond 10 diwrnod tan y Nadolig!’

    Mae cylchgronau’n llawn o gyfrif i lawr at ginio Nadolig - pa bryd i baratoi eich teisen Nadolig, eich pwdin Nadolig, a pha bryd i archebu eich twrci.

    Bydd yr hysbysebion ar y teledu yn sôn yn barhaus am hynny sydd o amser sydd ar ôl i brynu’r anrhegion - anrheg i Mam, i Dad, i Modryb Jemima a hyd yn oed i'r gath!

    Ym mhob man, fe fydd rhestrau siopa a rhestrau cyfeiriadau a rhestrau eraill wedi eu ticio. Yn aml iawn bydd pobl yn brysio a rhuthro, ac yn aml fe fyddan nhw’n ymddangos yn gynhyrfus neu dan bwysau.  Maen ras bob amser i gael gorffen popeth cyn y Nadolig.

    Dangoswch y cylch Adfent neu’r gannwyll Adfent a goleuwch y gannwyll.  Eglurwch mai dechrau’r Adfent yw’r cyfnod hwn. Mae’n amser i ni baratoi ein calonnau unwaith eto i wrando ar neges y Nadolig.

    Mae’n anodd i chi ruthro, na theimlo dan bwysau a bod ar bigau’r drain pan fyddwch yn eistedd o flaen cannwyll wedi ei goleuo.  Mae golau’r gannwyll yn rhywbeth sydd yn lleddfu ac yn ein llonyddu. Mae’n rhywbeth sy’n dod â llonyddwch i’n byd prysur.

    Fe fydd ein cannwyll Adfent yn ein hatgoffa bod y Goleuni wedi dod i’n byd tywyll ni ar adeg y Nadolig. Fe fydd ein cannwyll Adfent yn ein hatgoffa ni i baratoi ein calonnau unwaith eto am ddyfodiad gobaith i’n byd.  

Amser i feddwl

Gadewch i ni eistedd yn dawel am ychydig funudau o flaen y gannwyll, a gadael i’n calonnau a’n meddyliau ymdawelu.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Ar ddechrau cyfnod yr Adfent
Gofynnwn i ti ein helpu ni i fedru llonyddu a dod i dy adnabod di.
Diolch i ti am y gannwyll hon, sy’n rhoi tawelwch a goleuni i ni,
Ac sy’n rhoi tynerwch a llonyddwch i’n bywydau ni heddiw. 
Helpa ni wrth i’r dyddiau sydd o’n blaenau ni ddechrau prysuro a dod yn gynhyrfus,
Fel y medrwn ni gofio am y rheswm pam yr anfonaist dy fab, Iesu, i’r byd hwn.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon