Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Maddeuant

Dangos pa mor bwysig yw maddau.

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dangos pa mor bwysig yw maddau.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch a oes rhywun wedi clywed am Doctor Who? A yw’r Meistr yn ffrind i’r Doctor ynteu’n elyn iddo?  Pam?

    Dangoswch y pwt o’r ffilm sy’n dangos y Doctor yn maddau i’r Meistr. Holwch y plant pam y gwnaeth o faddau iddo?

  2. Gosodwch eich cerrig ar y llawr, dewiswch wirfoddolwr a gofynnwch i’r plentyn hwnnw godi a dal cymaint o’r cerrig ag sy’n bosib.  Pan fydd wedi gorffen, daliwch y tedi bêr o’i flaen, a gofynnwch iddo roi ‘cwtsh’ i’r tedi - ei gofleidio, heb golli dim un o’r cerrig.

  3. Nodwch fod y cerrig fel pethau rydyn ni’n methu eu maddau.  Os byddwn ni’n parhau i ddal gafael yn y pethau hynny, fe fyddwn ni’n ei chael hi’n anodd iawn i garu pobl eraill.  Diolchwch i’r plentyn a gofynnwch iddo eistedd i lawr.

  4. Adroddwch y stori am faddeuant.

    Cafodd dynes o’r enw Victoria Ruvolo ei tharo gan dwrci wedi ei rewi pan oedd hi’n gyrru ar hyd y ffordd yn ei char. Cafodd y twrci ei daflu, fel pranc gan fyfyriwr, drwy ffenestr flaen y car wrth iddi deithio ynddo. Anafwyd hi mor ddifrifol fel y bu’n rhaid i’r llawfeddygon ail-adeiladu ei hwyneb. Ond yn rhyfeddol, fe wellodd, ac ym mhen amser roedd hi’n gallu dychwelyd i’w gwaith. 

    Cafodd y bachgen a daflodd y twrci, bachgen o’r enw Ryan Cushing, a oedd yn 19 oed, ei gyhuddo o ymosodiad difrifol, ac roedd yn wynebu hyd at 25 mlynedd yn y carchar.  Gwelodd Victoria Ryan am y tro cyntaf pan oedd yn cerdded allan o’r llys.  Arhosodd o’i blaen a foment ac fe ddechreuodd Ryan Cushing grio wrth weld Victoria Ruvolo. Ceisiodd ymddiheuro iddi.  Roedd yn amlwg ei bod hi’n ddrwg iawn ganddo am yr hyn a wnaeth.  

    Am ychydig funudau yn llawn emosiwn, fe gofleidiodd Victoria ef yn dynn a cheisio’i gysuro tra roedd ef yn crio’n arw.  Ac wrth i Ryan yn ddweud, drosodd a throsodd, ‘Mae’n ddrwg gen i, doeddwn i ddim yn bwriadu gwneud niwed i chi,’ roedd y ddynes y bu bron iddo ei lladd yn ail-adrodd y geiriau, ‘Mae’n iawn.  Mae’n iawn. Y cyfan yr ydw i am i chi ei wneud yw cael y bywyd gorau posib.’

Amser i feddwl

Nid yw maddeuant fel yma bob amser yn hawdd.  Ond mae yn rhywbeth sy’n gallu newid y byd.  Mae Duw yn maddau i ni - bob amser.

Rhowch foment i’r plant ystyried a oes angen iddyn nhw faddau i rywun. 

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti mor barod i faddau. 
Helpa finnau i faddau,
Fel y gallaf garu pobl eraill yn well. 

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon