Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Spare a thought

Meddwl am y rhannau o’r byd sydd wedi’u rhwygo oherwydd rhyfel, a diolch am yr hyn sydd gennym ni.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am y rhannau o’r byd sydd wedi’u rhwygo oherwydd rhyfel, a diolch am yr hyn sydd gennym ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gall y plant arwain y gwasanaeth hwn. Gall unigolion lefaru’r llinellau, a gall y llinell olaf ym mhob rhan gael ei defnyddio ar gyfer llefaru ar y cyd gan y gynulleidfa. 

  • Byddai OHP yn ddefnyddiol er mwyn i’r gynulleidfa allu gweld y brawddegau, sydd yma mewn print trwm, a’u hadrodd gyda’i gilydd ar yr adeg briodol.

Gwasanaeth

Llefarydd 1:  Bore da, bawb. Sgwn i a fyddwn ni’n gwerthfawrogi o ddifrif pa mor lwcus ydyn ni. Rydyn ni’n byw mewn gwlad lle nad yw rhyfel yn rhywbeth sy’n digwydd o ddydd i ddydd. Rydyn ni bob amser yn cymryd cymaint yn ganiataol.  Gallwn deimlo’n saff yn ein cartrefi – ond wedi dweud hynny, y foment hon, mae yna bobl yn ymladd, yn dioddef, ac yn marw mewn mannau lle mae rhai pobl yno yn methu cytuno â phobl eraill.  

Llefarydd 2:  Yr ydym yn gweld, ar ein setiau teledu, adroddiadau o’r pethau hyn yn digwydd, ond a ydyn ni’n aros digon i feddwl ac yn ystyried a yw hyn yn rhywbeth real ac nid yn rhywbeth fel ffilm ryfel lle nad oes neb yn cael anaf? Gadewch i ni feddwl heddiw am yr holl bobl sy’n dioddef mewn lleoedd fel Afghanistan, Irac a rhannau o Affrica.

Llefarydd 3:  Yma, yn yr ardd, mae cân aderyn i’w glywed yn swynol. Mae’r coed a’r planhigion yn blodeuo.  Mae heddwch o’n hamgylch.  Rydym yn ddiogel i gyd oddi wrth effeithiau rhyfel.

Ond gadewch i ni gofio, mae rhyfel yn digwydd yn rhywle.

Llefarydd 4:  Rydym yn byw ein bywyd o ddydd i ddydd, gan ruthro yma ac acw er mwyn cyflawni ein gwaith.  Weithiau rydym yn anhapus, yn flin, ac yn anghofio ag eraill. Gallwn gau’r llenni a chau’r drws ar y byd a’i bethau.

Ond ddylen ni ddim anghofio bod rhyfel yn digwydd yn rhywle.

Llefarydd 5:  Yn glyd a chynnes yn ein cartrefi cyfforddus, mae gennym ni ddigon i’w fwyta ac i’w yfed. Gallwn wisgo dillad o’n dewis ni’n hunain.  Rydym wedi’n hamgylchynu â phethau cyfforddus.

Eto, mae rhyfel yn digwydd yn rhywle.

Llefarydd 6:  Tad neu fam rhywun, merch neu fab rhywun, brawd neu chwaer rhywun, gwr neu wraig, partner, cymydog neu ffrind, mewn brwydr farwol, efallai wedi eu claddu o dan y rwbel.  Maen nhw’n dioddef ac mae ymladd yn digwydd.  I be?  Pam?

Yn drist, mae rhyfel yn digwydd yn rhywle.

Llefarydd 7:  Rydyn ni’n bell i ffwrdd o’r cyfan.  Rydyn ni’n bell i ffwrdd o’r anhrefn a’r anarchiaeth. Dydyn ni ddim yn gweld yr anobaith, yr anhrefn a’r amheuaeth.  Dydyn ni ddim yn deall yr ysbeilio sy’n digwydd.  Allwn ni ddim clywed y griddfannau poen.

Pam, o pam mae rhyfel yn digwydd?

Llefarydd 8:  Mae’n beth mor hawdd anwybyddu’r dioddefaint, a’r cweryla. Gallwn droi clust fyddar at hynny a smalio nad yw’n digwydd.  Gallwn godi ein hysgwyddau, gan wybod na allwn ni wneud dim i helpu.  Rydym yn hollol ddi-rym.

Meddyliwch am y pethau hyn heddiw a gadewch i ni weddïo.

Y bydd heddwch cyn bo hir ac na fydd rhyfeloedd mwyach.

(Gall trafodaeth fer ddilyn yn dibynnu ar oed y gynulleidfa.  Gellir ei gysylltu â gwaith y Cwricwlwm Cenedlaethol ar y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.)

Amser i feddwl

Am ganrifoedd lawer, mae dynion a merched wedi bod yn rhyfela dros grefydd, grym a thiriogaeth.  
Mae cymaint o bobl wedi marw’n ddianghenraid wrth ddilyn eu delfrydau.
Heddiw rydym yn meddwl am yr holl bobl sy’n ceisio dod â heddwch i leoedd fel Afghanistan ac Irac.

Gofynnwn i Dduw eu cadw’n ddiogel.
Gofynnwn y bydd llywodraethau’r gwledydd hyn yn deall y bobl yn well, fel y bydd hi’n bosib cyflawni trefniant heddychol ar eu cyfer.
Duw fo yn ein calonnau ac yn ein meddyliau, heddiw a phob amser. 

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon