Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Agweddau Ar Malawi 3

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Rhoi i’r plant gipolwg ar fywyd ysgol ym Malawi.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dau i ddarllen: merch yn gwisgo top gwyrdd a bachgen yn gwisgo gwisg ysgol gyffredin.
  • Cerddoriaeth ar gyfer yr Amser i Feddwl.
  • Mae delweddau ar gael i’w llwytho i lawr, oddi ar y we, sy’n cyd-fynd â´r gwasanaeth yma.

Gwasanaeth

  • Cynhaliwch sesiwn o danio syniadau gyda’r plant am y math o bethau neu ddeunyddiau sydd gennym ni yn ein hysgolion yn y wlad hon.

    Dychmygwch ysgol heb …
    … gadeiriau, dim byrddau, dim byrddau gwyn, dim lluniau wedi’u harddangos ar y waliau, dim offer chwaraeon, dim cyfrifiaduron, dim llyfrgell, dim trydan


Yn y rhan fwyaf o ysgolion y llywodraeth ym Malawi, does dim un o’r pethau yma. 

Malawi - empty classroom

dim llyfrgell, dim trydan...

Dangos llun maint llawn >>

 

 

  • Darllenydd 1:  Fy enw i yw Agnes, ac rydw i’n mynd i Ysgol Blantyre ar gyfer genethod.

    Malawi - Agnes... Blantyre Girls

    Malawi - Agnes... Blantyre Girls' School

    Dangos llun maint llawn >>

     


    Darllenydd 2:  Fy enw i yw …… ac rydw i’n mynd i (enw’r ysgol).

    Darllenydd 1:  Rydw i’n gwisgo gwisg ysgol werdd.

    Darllenydd 2:  Rydw i’n gwisgo gwisg ysgol …… .

    Darllenydd 1:  Mae 2,000 o blant yn fy ysgol i.

Darllenydd 2:  Mae  …… o blant yn fy ysgol i.

Darllenydd 1:  Mae 60 o blant yn fy nosbarth i.

Malawi - ...60 children in my class

Mae 60 o blant yn fy nosbarth i

Dangos llun maint llawn >>

 


Darllenydd 2:  Mae  … o blant yn fy nosbarth i.

Darllenydd 1:  Mae’r ysgol yn dechrau am hanner awr wedi saith, ac yn gorffen am hanner awr wedi un ar ddeg.

Darllenydd 2:  Mae´r ysgol yn dechrau am …… ac yn gorffen am …….

Darllenydd 1:  Fy hoff bwnc i yn yr ysgol yw Chichewa, sef iaith Malawi.

Darllenydd 2:  Fy hoff bwnc i yn yr ysgol yw  …….

  • Waw! Mae’r Ysgol ym Malawi yn wahanol iawn i’r ysgol sydd gennym ni yma, yn dydi? Dyma rai o’r pethau sy’n wahanol:

    Os nad ydych yn pasio’r arholiad ar ddiwedd y flwyddyn ysgol, rhaid i chi aros yn yr un dosbarth am flwyddyn gyfan arall.

    Mae’r ysgol yn gorffen cyn amser cinio oherwydd fe fyddai’n rhy boeth i astudio yn y pnawn.

    Mae’r plant yn astudio amaethyddiaeth yn yr ysgol, ac fe fydd y mwyafrif o’r ysgolion yn tyfu eu bwyd eu hunain.

Amser i feddwl

Cymerwch rywfaint o amser i ddychmygu sut beth fyddai mynd i’r ysgol ym Malawi.

Mae plant ym Malawi’n gweithio’n galed yn yr ysgol oherwydd maen nhw’n gwybod fod addysg dda yn bwysig iawn er mwyn iddyn nhw gael swydd pan fyddan nhw wedi tyfu’n oedolion.

Dychmygwch fynd i ysgol heb fyrddau na chadeiriau.

Mae ein hysgol ni yn llawn o bethau y dylem fod yn ddiolchgar amdanyn nhw.

(Dangoswch y lluniau unwaith eto, a chwaraewch ychydig o gerddoriaeth fel bo’r plant yn gallu cael amser i fyfyrio ar ben eu hunain am ychydig funudau.)

Wrth i ni feddwl am wlad Malawi, gadewch i ni agor ein meddyliau er mwyn dysgu sut mae pobl yn byw, sut maen nhw’n gweithio ac yn chwarae.

Gadewch i ni agor ein calonnau i werthfawrogi’r hyn oll sydd gennym ni.

Gadewch i ni agor ein meddyliau a meddwl am foment sut y gallwn ni gynorthwyo pobl Malawi i wireddu eu breuddwydion.   

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon