Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nawr Rydyn Ni'n Ddeg

Annog synnwyr o ddiolchgarwch yn y plant.

gan Susan McLean

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog synnwyr o ddiolchgarwch yn y plant.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen anrheg anarferol.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant ddweud wrthych chi beth oedd yr anrheg gorau gawson nhw erioed.

    Yna dangoswch eich anrheg anghyffredin chi iddyn nhw (Mi wnes i ddangos pâr o fenig rwber ‘How Clean is Your House’ iddyn nhw). Yn dilyn ychydig o chwerthin, dywedwch eu bod wedi ymddwyn yn dda iawn i gael anrheg mor gyffrous. 

  2. Gofynnwch i’r plant sawl ffordd sydd ganddyn nhw o ddweud ‘diolch´ am bethau. Anogwch nhw i feddwl am, er enghraifft, ddweud ‘diolch’ mewn gwahanol ffyrdd - ar lafar, ar neges destun, ar e-bost, trwy lythyr.  Dywedwch ei bod hi’n bwysig ein bod yn ddiolchgar am yr holl bethau sydd gennym.  Mae Iesu’n ein dysgu am hynny mewn stori y gwnaeth o ei hadrodd.

  3. Gofynnwch i’r plant a ydyn nhw wedi clywed son erioed am afiechyd o’r enw 'y gwahanglwyf', a holwch beth maen nhw’n ei wybod am yr afiechyd hwnnw.  Eglurwch nad oedd modd gwella rhywun oedd â’r afiechyd arno yng nghyfnod Iesu. Fe fyddai’r rhai oedd wedi eu heintio yn cael eu trin fel alltudion oherwydd bod pobl eraill ofn cael yr afiechyd eu hunain oddi wrthyn nhw. Felly roedden nhw’n eu hanfon yn ddigon pell i ffwrdd a dim yn cymysgu a nhw. Mae´r afiechyd yn achosi´r cleifion golli’r teimlad ym mlaenau eu bysedd a’u bodiau, ac o ganlyniad roedd hi’n hawdd iddyn nhw gael eu hanafu heb sylweddoli hynny. Fe fyddai’r anafiadau’n troi’n friwiau drwg, ac yn aml doedd y briwiau hynny ddim yn gwella.

  4. Adroddwch y stori sydd i’w gweld yn Luc 17. 11-19. 

    Mae Iesu’n dweud stori wrthym am ddeg o ddynion oedd â’r gwahanglwyf arnyn nhw.  Nid oedd eu ffrindiau yn siarad â nhw, na’u teuluoedd chwaith.  Sut mae’r plant yn meddwl yr oedd y dynion yma’n teimlo?  

    Pan ddaeth Iesu heibio, fe wnaethon nhw alw arno.  Fe wnaeth Iesu rywbeth rhyfeddol - aeth atyn nhw a chyffwrdd ynddyn nhw, er bod y gwahanglwyf arnyn nhw!  Nid oedd neb yn gwneud peth felly, rhag ofn iddyn nhw gael yr afiechyd eu hunain. Ond fe gyffyrddodd Iesu â’r dynion. 

    Allwch chi ddyfalu beth ddigwyddodd i’r dynion? Fe gawson nhw’u hiachau i gyd - a doedd y gwahanglwyf ddim arnyn nhw mwyach.  Roedd y peth yn wyrth! Fe ddywedodd Iesu wrthyn nhw am fynd at yr offeiriaid, fel eu bod yn cael gwybod yn swyddogol fod y gwahanglwyf wedi eu gadael.  Mae’n rhaid eu bod yn neidio’n llawen o gwmpas y lle - gan eu bod mor gynhyrfus ac mor hapus. 

    Ymhellach ymlaen fe ddaeth un o’r dynion yn ôl at Iesu a dweud wrtho, ‘Diolch i ti, Iesu.’  Fe edrychodd Iesu arno a gofyn iddo ai dim ond y fo, yn unig, allan o’r deg a oedd wedi cael ei iachau. Na, dywedodd y dyn wrtho fod pob un ohonyn nhw wedi cael eu hiachau.  Ond mai dim ond fo a ddaeth yn ôl i ddweud diolch.

    Roedd Iesu wrth ei fodd gyda’r dyn a ddaeth yn ôl i ddweud diolch.

  5. Fe ddylen ni hefyd fod yn ddiolchgar am y cyfan sydd gennym.  Faint o bethau gwahanol yr ydyn ni’n falch ohonyn nhw? Anogwch y plant i feddwl am eu bwyd, eu teulu, eu ffrindiau, eu dillad, eu cartrefi, meddygon, athrawon, etc. Rydyn ni’n cymryd y pethau hyn yn ganiataol, ond fe ddylen ni fod yn ddiolchgar am bob un ohonyn nhw.  

  6. Dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd i osod tasg iddyn nhw am weddill y diwrnod – i feddwl am faint o weithiau y bydden nhw’n dweud ‘diolch’.  Yna, y diwrnod canlynol gofynnwch iddyn nhw ddod yn ôl i ddweud wrth weddill y dosbarth.  Cofiwch ddweud ‘diolch’ wrth bawb sy’n gwneud unrhyw beth i chi neu sy’n rhoi unrhyw beth i chi. Peidiwch â gadael i rywun arall ddweud ‘diolch’, fel y gwnaeth y naw dyn arall allan o’r deg yn y stori.

Amser i feddwl

Ewch dros y stori eto’n fras, a phwysleisiwch mai un yn unig o’r deg a ddaeth yn ôl i ddweud ‘diolch’.

Gweddi
Diolch i ti, O Dduw am bopeth sydd gennym. 
Diolch i ti am ein bwyd, ein teulu, ein ffrindiau a phopeth a gawn gennyt ti. 
Mae’n ddrwg gennym ein bod weithiau yn anghofio dweud diolch.
Helpa ni bob amser i ddiolch i bobl eraill am y pethau y maen nhw’n eu gwneud i ni,
ac i ddiolch i ti am y cyfan sydd gennym.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon