Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Anglyion Yn Gwlio Drosof Fi

Myfyrio ar y modd y mae Duw yn gofalu amdanom.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar y modd y mae Duw yn gofalu amdanom.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewisol: tegan meddal dafad neu oen.
  • Unrhyw Feibl ar gyfer plant sy’n cynnwys stori’r bugeiliaid o Luc 2. 8-16 

Gwasanaeth

  1. Siaradwch â’r plant am fynd i’r gwely ar noson oer yn y gaeaf. Pwy sy’n gwisgo gwisg nos gynnes, yn defnyddio potel ddwr poeth neu flanced drydan?  Pwy sy’n hoffi gwrando ar swn y gwynt yn chwyrlio o amgylch y ty a’r glaw yn pitran patran ar y ffenestr?

  2. Eglurwch fod swyddi gan rai pobl sy’n golygu eu bod yn gorfod gweithio yn ystod oriau’r nos.  Pan fydd hi’n amser i ni fynd i’r gwely, mae’n amser iddyn nhw roi eu cotiau amdanyn nhw er mwyn mynd allan i weithio. Trafodwch y math o waith y bydd gweithwyr sy’n gweithio dros nos yn debygol o’i wneud.

  3. Paratowch yr olygfa ar gyfer stori’r bugeiliaid.

    Amser maith yn ôl, ar y bryniau uwchben tref o’r enw Bethlehem roedd yno nifer o weithwyr nos yn eistedd o gwmpas y tân er mwyn cadw’n gynnes. Bugeiliaid oedden nhw. Eu gwaith oedd cadw’r defaid a’r wyn yn ddiogel yn ystod oriau’r nos.  Roedd yn rhaid iddyn nhw eu casglu at ei gilydd ar ôl i’r anifeiliaid dreulio’r diwrnod yn pori’r glaswellt ar y bryniau. Roedd yn rhaid iddyn nhw eu cyfrif er mwyn gwneud yn siwr nad oedd yr un o’r defaid ar goll, yna eu corlannu mewn corlan gron o gerrig er mwyn eu cadw’n ddiogel rhag yr anifeiliaid gwyllt a fyddai’n hoffi gwneud pryd ohonyn nhw yn y nos.

    Byddai’r bugeiliaid yn cynnau tân ac eistedd wrth geg y gorlan fach honno drwy’r nos, yn gwylio. Efallai y byddai rhai ohonyn nhw’n gallu cael ychydig o gwsg tra byddai’r gweddill o’u cyd-weithwyr yn cael diod gynnes a sgwrs. Fe fyddai’n gallu bod yn oer iawn ar y bryniau yn ystod y nos a byddai’r bugeiliaid yn swatio gyda’u cotiau a’u blancedi’n dynn o gwmpas eu hysgwyddau ac yn closio at y tân i gadw’n gynnes.

    Ar y noson neilltuol hon, roedd popeth yn ddistaw fel arfer. Roedd y sêr yn disgleirio. Roedd y defaid yn llonydd ac yn cysgu.  Ond roedd rhywbeth anghyffredin iawn ar fin digwydd.  Roedd rhywbeth yn mynd i newid y byd am byth. 

  4. Gofynnwch i’r plant a ydyn nhw’n gwybod beth oedd ar fin digwydd? Darllenwch y stori o’r Beibl (Luc 2.8–16).

    Mae’n debyg y gallwch chi ddychmygu’r cynnwrf ymysg y bugeiliaid. Fe wnaethon nhw neidio i fyny, ac wedyn lapio’u cotiau’n dyn amdanyn nhw, diffodd y tân a dechrau rhedeg i lawr y bryn.

Ond arhoswch funud! Wnaethon nhw ddim anghofio rhywbeth? Beth am y defaid?  Pwy oedd yn mynd i aros gyda’r defaid?

Gadewch i’r plant ddefnyddio’u dychymyg a chynnig awgrymiadau.  Nid oes yr un ateb yn gywir, ond rydym yn meddwl efallai na fyddai’r un o’r bugeiliaid eisiau colli’r enedigaeth hon, a go brin y bydden nhw’n mynd â’r defaid gyda nhw!

O bosib, gobeithio, y bydd un o’r plant yn gallu awgrymu y byddai un o’r angylion yn aros i warchod y defaid.

Bydd hyn yn eich arwain yn daclus i ddatgan bod Cristnogion yn credu mai defaid Duw ydyn ni, a bod Duw yn ein gwarchod ni ac yn gofalu amdanom ni ac yn ein hamddiffyn.

Amser i feddwl

Meddyliwch am y noson dywyll ar y bryniau.  Meddyliwch am y defaid hyn ar ben eu hunain bach a neb i’w gwarchod. Meddyliwch am yr hyn a allai fod wedi mynd o chwith.  Yn awr meddyliwch am y cwmni llawen o angylion.  Fe allen nhw wneud y gwaith, yn hollol ddidrafferth!

Gweddi
Annwyl Dduw Dad,
Diolch dy fod ti’n fy ngharu i fel pe byddwn i yn un o’th ddefaid.
Rwyt ti’n fy ngwarchod nos a dydd.
Diolch i ti fod y neges am enedigaeth Iesu yn neges i mi hefyd,  

a phe byddwn innau wedi bod yr y bryniau y noson honno

y byddet ti wedi fy ngwahodd innau i ddod i lawr i Fethlehem.
Diolch i ti am wneud yn siwr fy mod innau hefyd yn cael clywed y newydd bendigedig hwn.

Amen.

Cân/cerddoriaeth

Mae’r garol ‘Pan oedd bugeiliaid gyda’u praidd’ i’w chael yn y rhan fwyaf o lyfrau emynau, (neu, os am fersiwn Saesneg, fe allech chi ymweld â’r wefan www.mfiles.co.uk/scores/while-shepherds-watched.htm)

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon