Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Agweddau Ar Malawi 4

Rhoi cipolwg ar sut mae plant yn chwarae yng ngwlad Malawi.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Rhoi cipolwg ar sut mae plant yn chwarae yng ngwlad Malawi.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen pentwr o ffyn, cortyn, gwifren, cerrig a bagiau plastig.
  • Dau blentyn i rannu’r gwaith o ddarllen: bachgen mewn trowsus byr, crys T, yn droednoeth ac yn cario pêl wedi ei gwneud o fagiau plastig wedi eu clymu’n dynn gyda chortyn; y bachgen arall mewn cit pêl-droed ac yn cario pêl.  
  • Mae delweddau ar gael i’w llwytho i lawr, oddi ar y we, sy’n cyd-fynd â´r gwasanaeth yma.

Gwasanaeth

  • Does gan y mwyafrif o blant Malawi ddim teganau sydd wedi cael eu prynu mewn siop. Does ganddyn nhw ddim llyfrau na hyd yn oed bapur a phensiliau lliw. Yn y mwyafrif o’r cartrefi does yno ddim trydan, felly does gan y plant ddim ‘PlayStations’, DVDs na chwaraewyr CD i’w diddanu.

    Mae plant Malawi yn aml yn gwneud eu teganau eu hunain i chwarae â nhw ac yn dyfeisio eu gemau.

Galwch ddau wirfoddolwr atoch?  Dyma’r math o bethau y bydd plant Malawi yn debygol o’u defnyddio i wneud teganau – ffyn, cortyn, gwifren, cerrig, bagiau plastig. Tybed beth allwch chi ei wneud i chwarae gyda nhw trwy ddefnyddio’r pethau hyn? Rhowch gynnig arni ac mi ddof yn ôl atoch yn nes ymlaen. .

  • Darllenydd 1 :  Fy enw i yw Victor ac rydw i’n hoff iawn o bêl-droed.

Darllenydd 2:  Fy enw i yw ............... ac rydw i’n hoff iawn o bêl-droed..

Darllenydd 1:  Rydw i’n chwarae i dîm fy mhentref

Malawi football - I play for my village team

Rydw i’n chwarae i dîm fy mhentref

Dangos llun maint llawn >>

 


Darllenydd 2:
 Rydw i’n chwarae i ...................

Darllenydd 1:   Rydw i’n chwarae pêl-droed yn droednoeth.

Darllenydd 2:  Rydw i’n chwarae pêl-droed mewn esgidiau pêl-droed a phadiau crimog.

Darllenydd 1:  Rydw i’n chwarae gyda phêl wedi ei gwneud o fagiau plastig a chortyn.

Darllenydd 2:  Rydw i’n chwarae gyda phêl-droed go iawn.

Darllenydd 1:  Mae ein gôl ni wedi cael ei gwneud o ffyn hir wedi eu clymu gyda’i gilydd â chortyn.

Malawi - football - goalposts

Mae ein gôl ni wedi cael ei gwneud o ffyn hir wedi eu clymu gyda’i gilydd â chortyn.

Dangos llun maint llawn >>

 



Darllenydd 2:
 Mae ein gôl ni wedi eu gwneud o fetel a rhwyd. 

Darllenydd 1:  Rydw i eisiau chwarae i dîm cenedlaethol Malawi pan fyddaf yn hyn.

Darllenydd 2:  Rydw i eisiau chwarae i ............... pan fyddaf yn hyn.  

  • Ym Malawi Ar adegau arbennig mewn pentrefi ym Malawi, fe fydd pobl y pentref  yn dod at ei gilydd i wylio dawns draddodiadol y llwyth. Yr enw ar y dawnswyr hyn yw’r Gule Wamkulu
    Malawi - dancers

    Malawi - dawnswyr

    Dangos llun maint llawn >>

     

    Nid oes neb yn siwr iawn pwy ydyn nhw. Maen nhw'n gwisgo masgiau wedi’u paentio’n llachar a chuddwisg o frethyn neu groen anifail.  Pan fyddan nhw’n dawnsio, maen nhw’n cicio’r llwch er mwyn cuddio’u hunain fwyfwy.  Mae rhai’n credu eu bod yn gyrru ymaith ysbrydion drwg o’r pentref.  Mae’r dawnsfeydd yn ffynhonnell enfawr o ddathlu, er bod plant y pentref yn gallu cael eu dychryn gyda’u hymddangosiad.

    A ydych chi’n credu y byddech chi’n cael ofn? Dychmygwch pe byddech chi’n gweld am y tro cyntaf, ddyn wedi ei wisgo fel hyn …

  • Yn ôl at y rhai sy’n gwneud teganau. Beth sydd gennych i’w ddangos i ni? (Dangoswch beth maen nhw wedi ei wneud.)

    Mae’n rhaid ei bod hi’n anodd iawn i blant Malawi wneud teganau er mwyn iddyn nhw gael rhywbeth i chwarae â nhw, yn dydi?

Amser i feddwl

Cymerwch amser i ddychmygu sut beth fyddai chwarae gyda’ch ffrindiau ym Malawi.

Dychmygwch fyw heb eich hoff deganau a’ch llyfrau a’ch taclau electronig.

Mae gennym ni gymaint o bethau y dylem ni fod yn ddiolchgar amdanyn nhw.

Wrth i ni ystyried gwlad Malawi, gadewch i ni agor ein meddyliau i ddysgu am y modd y mae’r bobl yno’n gweithio ac yn chwarae. 

Gadewch i ni agor ein calonnau i werthfawrogi’r hyn oll sydd gennym.

Gadewch i ni agor ffenestr ein dychymyg i helpu troi gobeithion pobl Malawi yn bethau real.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon