Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Craceri Nadolig

Edrych ar stori’r Nadolig ac ar ei gwir ystyr.

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Edrych ar stori’r Nadolig ac ar ei gwir ystyr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Darllenwch drwy’r gwasanaeth hwn yn ofalus a dewiswch ddarlleniadau a cherddi addas.

  • Byddwch angen bocs o graceri rhad.  Tynnwch allan y tegan, yr het a’r jôc, a rhowch yn eu lle'r eitemau hynny sydd wedi eu cysylltu â stori’r Nadolig, fel sydd yn y rhestr islaw.  Gadewch y peth sy’n gwneud y ‘glec’ i mewn ac eithrio yng nghracer rhif 9.
  • Rhifwch y craceri yn glir fel eich bod yn gallu cael hyd iddyn nhw’n hwylus yn y bocs. Labelwch y bocs: CRACERI NADOLIG ARBENNIG  

    Cynnwys y craceri:
    1.  Addurn Nadolig o gardfwrdd plaen heb ei addurno
    2.  Pluen (ymweliad yr angel â Mair/Joseff)
    3.  Darn arian - arian tramor neu siocledi ar ffurf darnau arian (trethi i Gesar - angen teithio i Fethlehem)
    4.  Gwellt (y stabl oedd yr unig le ar ôl)
    5.  Darn o ddefnydd (cafodd y babi ei eni a’i rwymo mewn cadachau)
    6.  Gwlân dafad - neu wlân cotwm (bugeiliaid)
    7.  Potyn bach o eli neu rywbeth fel ‘Germolene’ (y Doethion ) 
    8.  Un gracer Nadolig gyffredin, gyda phopeth ynddi 
    9. Cracer wag.
  • Efallai yr hoffech chi gael gwirfoddolwyr i dynnu’r craceri.

  • Cafodd y fersiwn llawn (gweler islaw) ei baratoi fel gwasanaeth Nadolig mewn eglwys a rhwng pob cracer a oedd yn cael ei thynnu roedd darlleniadau, cerddi ac emynau. Darllenwch drwy’r gwasanaeth yn ofalus a dewiswch ddarlleniadau addas a darllenwyr cymwys.  Gallwch ddefnyddio cerddi Nadoligaidd yn ogystal â darlleniadau o’r Beibl.

Gwasanaeth

  1. Croesawch y plant a chyflwynwch eich thema heddiw, sef craceri Nadolig.  Siaradwch am y disgwyl, y cyffro, y siomedigaeth, y pleser, y jôcs gwael, y chwerthin a’r ocheneidio, ynghyd â’r ffaith fod pobl bron bob amser, yn syth ar ôl y pryd bwyd, yn rhoi’r craceri yn y bin.  

  2. Siaradwch am eich craceri Nadolig ARBENNIG chi. Tynnwch y gracer gyntaf – addurn hollol blaen. Siomedigaeth – wedi disgwyl rhywbeth disglair a llachar?

  3. Parhewch i dynnu’r craceri a siaradwch gyda’r plant am yr hyn sydd tu mewn i’ch craceri chi, a sut y mae hynny’n gysylltiedig â stori’r Nadolig. Rhwng tynnu’r craceri, cyflwynwch ddarlleniadau, emynau a cherddi fel sy’n addas ar gyfer yr amser sydd wedi ei neilltuo gennych. 

  4. Pan ddowch chi at y ddwy gracer olaf, tynnwch yr wythfed gracer ac eglurwch pa mor bwysig yw’r ‘cracer arferol’ gan ei bod hi’n rhan o hwyl a chyffro’r Nadolig .

Amser i feddwl

Mae’r Craceri Nadolig, Siôn Corn, y melysion a’r fferins, y partïon, yr hosanau, y goeden, y cinio a phob peth arall sy’n ymwneud â’r Nadolig yn bethau cyffrous, hwyliog ac yn bethau mae llawer ohonom yn edrych ymlaen atyn nhw ar hyd y flwyddyn.  Ond heb wir ystyr y Nadolig maen nhw’n debyg i’r gracer olaf sydd gennych chi.
Tynnwch y gracer olaf – dim clec, dim het, dim tegan, dim jôc. Mae’n edrych yn ddel oddi allan ond nid oes clec, dim syrpreis a buan iawn y bydd pawb wedi anghofio amdani.

Ond gyda gwir ystyr pen-blwydd Iesu yng nghanol y Nadolig, mae’n wirioneddol yn gyfnod arbennig iawn.

Byddwn yn gorffen gyda’r weddi hon i’n helpu ni chwilio am wir ystyr y Nadolig drwy’r flwyddyn ac yn ein bywydau:

Os byddwch yn chwilio am anrheg deg 
yr anrheg gorau erioed,
waeth heb â chwilio o dan y goeden  
gan na fu yno erioed.  
Yr anrheg Nadolig mwyaf un
a roddwyd i’r byd i gyd 
oedd Crist y baban bach mewn preseb 
ym meudy llwm yr ych.      
Amen. 

Cân/cerddoriaeth

Canwch rai o’r carolau y mae plant eich ysgol wedi bod yn eu hymarfer.  

FERSIWN LLAWN

Gwasanaeth Nadolig

Croeso a gweddi i ddechrau’r gwasanaeth. Cyflwynwch y thema o graceri.  Siaradwch am y disgwyl, y cyffro, y siomedigaeth, y pleser, y jôcs gwael a’r chwerthin.  

Cân ‘Dawel nos’ neu garol briodol arall.

Cracer 1
Bydd plentyn yn tynnu'r gracer gyntaf ac yn cael hyd i addurn heb ei liwio; efallai byddant yn dangos eu siomedigaeth.  Gofynnwch iddyn nhw wella golwg yr addurn - efallai bydd rhai plant yn gallu cael mynd i’r cefn i addurno’r gwrthrych plaen a rhai eraill tebyg gan ddod â nhw yn ôl i’w dangos ar ddiwedd y gwasanaeth. 

Darlleniad

Cân ‘Dos, dywed ar y mynydd’ neu garol briodol arall.

Cracer 2
Mae’r bluen yn ein hatgoffa o’r angel ddaeth at Mair i ddweud wrthi ei bod yn mynd i gael babi.
Ymwelodd yr angel Gabriel â Mair a dweud wrthi ei bod hi’n mynd i gael babi arbennig a’i enw fyddai Iesu a byddai’n Waredwr y Byd.

Darlleniad

Cân Dewiswch gân briodol

Cracer 3
Mae’r darn arian yn ein hatgoffa bod cynllun gan Cesar Augustus i wneud yn siwr bod pawb yn talu eu trethi’n llawn.  Bu raid i Mair a Joseff deithio i Fethlehem i gofrestru mewn cyfrifiad.  Roedd y daith yn hir a blinedig, yn enwedig i Mair, oherwydd ei bod hi ar fin cael babi. Fe wnaethon nhw deithio ar gefn asyn.  

Darlleniad

Cân ‘Ebol bychan’

Cracer 4
Dowch o hyd i’r gwellt a thrafodwch gyda’r plant beth allai’r gwellt fod yn eu hatgoffa nhw ohono, gyda’r nod o gyrraedd at y stabl gyda’r anifeiliaid.  

Darlleniad

O’r diwedd mae Mair a Joseff yn cyrraedd Bethlehem. Roedd yno lawer o bobl, oherwydd roedd pobl eraill hefyd angen talu eu trethi.  Roedd Mair wedi blino ac roedd hi angen cael lle i aros. Ym mhob gwesty, yr un oedd y stori.  Doedd yno ddim lle ar eu cyfer.  Yn y diwedd, dywedodd un perchennog gwesty caredig wrthyn nhw fod ganddo stabl lle'r oedd yn cadw ei anifeiliaid. Roedd croeso iddyn nhw aros yno.

Cerdd

Cân Dewiswch gân briodol am eni’r baban Iesu

Cracer 5
Y darn o ddefnydd: eto defnyddiwch drafodaeth i ddarganfod beth allai fod – baban yn y preseb wedi ei rwymo mewn cadachau.
Ac felly y bu, ymhen ychydig oriau wedyn, rhoddodd Mair enedigaeth i’w mab mewn stabl.  Rhwymodd Iesu mewn cadachau a’i roi i orwedd mewn preseb yn llawn o wellt.

Cerdd

Cân ‘I orwedd mewn preseb’

Cracer 6
Dewch o hyd i’r darn o wlân a siaradwch am y bugeiliaid.

Darlleniad

Yn yr un cyfnod, ar fryn gerllaw Bethlehem, roedd rhai bugeiliaid yn gwarchod eu defaid. Ymddangosodd goleuni llachar yn yr awyr. Daeth ofn mawr drostyn nhw.  Angel wedi ei anfon oddi wrth Dduw oedd y goleuni.  Fe ddywedodd wrthyn nhw am beidio â bod ofn, oherwydd yr oedd ganddo newydd da i’w ddweud wrthyn nhw. Dywedodd fod Mab Duw wedi cael ei eni, ac y bydden nhw’n cael hyd iddo ym Methlehem.

Roedd y bugeiliaid eisiau mynd i weld y baban.  Pan wnaethon nhw gyrraedd y stabl, roedden nhw'n gorfoleddu wrth weld Iesu yn gorwedd yn y preseb. Fe wnaethon nhw syrthio ar eu gliniau a’i addoli.  Fe ddywedodd y bugeiliaid wrth Mair a Joseff sut yr oedd yr angel wedi ymddangos yn yr awyr ac wedi dweud wrthyn nhw mai Iesu fyddai Gwaredwr y byd.

Cerdd

Cân Dewiswch gân briodol am y bugeiliaid, neu efallai y gallech chi addasu ‘It was on a starry night’.

Cracer 7
Potyn o eli neu rywbeth fel ‘Germolene’. 

Darlleniad

Draw ymhell yn y dwyrain, gwelodd sêr ddewiniaid seren newydd yn disgleirio’n  uchel yn yr awyr.  Roedd y bobl yma’n astudio’r sêr, ac roedden nhw’n gwybod bod hon yn seren arbennig.  Fe wnaethon nhw astudio’u siartiau lle'r oedd ymddangosiad seren newydd lachar yn golygu bod arweinydd mawr wedi cael ei eni.

Fe benderfynodd y sêr ddewiniaid gael hyd i’r arweinydd newydd hwn. Fe aethon nhw i Jerwsalem i weld y Brenin Herod, gan feddwl y byddai’r baban yn y palas.  Fe wnaethon nhw ofyn am gael gweld y baban a fyddai’n Frenin yr Iddewon. Fe gafodd y brenin ei gythruddo. Roedd Herod yn meddwl y byddai’r brenin newydd hwn y cymryd ei orsedd oddi arno. Fe ddywedodd wrthyn nhw am ddychwelyd pan fydden nhw wedi cael hyd i’r baban fel y byddai yntau yn gallu addoli’r plentyn hefyd wedyn.

Aeth y doethion ymlaen i chwilio am y baban.  Fe gawson nhw’u harwain gan y seren at y stabl ym Methlehem. Fan honno, dyma nhw’n plygu i lawr ac addoli Iesu.  Fe roeson nhw anrhegion iddo o aur, thus a myrr.  Y noson honno, cafodd y doethion i gyd yr un freuddwyd lle'r oedd angel yn eu rhybuddio bod y Brenin Herod eisiau lladd Iesu ac iddyn nhw beidio â mynd yn ôl i’w balas. 

Dychwelodd y doethion i’w gwlad eu hunain heb alw i weld Herod.  Bu Mair yn meddwl yn hir am yr holl bethau hyn yr oedd y doethion, yr angylion a’r bugeiliaid wedi’i ddweud wrthyn nhw am ei mab bychan, ac fe gadwodd hi’r pethau hynny fel trysor yn ei chalon.

Cân ‘Tri ym ni o’r dwyrain draw,’ neu gân briodol arall am y doethion neu’r sêr ddewiniaid.

Cracer 8
Mae’r Craceri Nadolig, y Siôn Corn, y melysion a’r fferins, y partïon, yr hosannau, y goeden, y cinio a phob peth arall sy’n ymwneud â’r Nadolig yn bethau cyffrous, hwyliog ac yn bethau mae llawer ohonom yn edrych ymlaen atyn nhw ar hyd y flwyddyn.  Ond heb wir ystyr y Nadolig, maen nhw’n debyg i’r gracer olaf yma -  

Cracer 9
Tynnwch y gracer olaf - dim clec, dim het, dim tegan, dim jôc. Mae’n edrych yn ddel oddi allan ond nid oes clec, dim syrpreis a buan iawn bydd pawb wedi anghofio amdani.

Ond gyda gwir ystyr penblwydd Iesu yng nghanol y Nadolig, mae’n wirioneddol yn gyfnod arbennig iawn.

Cân Dewiswch gân briodol, neu efallai y gallech chi addasu ‘Come and join the celebrations’  http://www.songquery.com/html/song/c/come_and_join_the_celebration.html

Yn ystod y gân, bydd y plant yn dychwelyd gyda’u haddurniadau ac yn eu gosod ar y goeden.
Byddwn yn gorffen gyda’r weddi hon i’n helpu ni chwilio am wir ystyr y Nadolig drwy’r flwyddyn ac yn ein bywydau:

Os byddwch yn chwilio am anrheg deg 
yr anrheg gorau erioed,
waeth heb â chwilio o dan y goeden  
gan na fu yno erioed.  
Yr anrheg Nadolig mwyaf un
a roddwyd i’r byd i gyd 
oedd Crist y baban bach mewn preseb 
ym meudy llwm yr ych.      

Amen.

Cân Dewiswch gân briodol, neu efallai y gallech chi addasu ‘Love shone down’ https://www.youtube.com/watch?v=83tRxjPj5bo

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon