Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Newyddion Da!

Cyflwyno newyddion da’r Nadolig trwy ddefnyddio fformat materion cyfoes.

gan Jennifer Mayhew

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cyflwyno newyddion da’r Nadolig trwy ddefnyddio fformat materion cyfoes.

Paratoad a Deunyddiau

  • Darllenwch y sgript drwyddi’n fanwl, a pharatowch y gwahanol elfennau y byddwch eu hangen.
  • Efallai y byddwch am wisgo’r llefarydd fel gohebydd newyddion, a gwneud set stiwdio.  

  • Bydd yn ofynnol i chi baratoi rhai o’r plant i fod yn gymeriadau a darllenwyr.

  • Bydd angen cannwyll arnoch ar gyfer yr ‘Amser i Feddwl’.  

Gwasanaeth

  1. Llefarydd:  Mae’r cyfnod sy’n arwain at y Nadolig yn amser prysur iawn, ac weithiau mae’n hawdd i ni anghofio’r neges o newyddion da sydd ynghlwm wrth y Nadolig.  Fe hoffem i chi ddychmygu bod y digwyddiad sy’n ymwneud â’r newyddion da yma yn cael ei ddarlledu i chi heddiw, yn fyw!

  2. Darlleniad o’r Beibl: Luc 1.35.

  3. Llefarydd:  Mae ein hadroddiad heddiw, ar ddechreuad Cristnogaeth, wedi’i leoli yn nhref Nasareth. Yn y dref, roedd y teuluoedd Iddewig a oedd yn byw yno wedi bod yn byw o dan lywodraeth Rufeinig. Roedd y teuluoedd wedi mynd yn dlawd iawn am fod y Brenin Herod yn eu gorfodi i dalu trethi uchel. Roedd yr holl arian yr oedd yr Iddewon yn ei ennill yn mynd i Herod ac i’r Rhufeiniaid er mwyn i’r fyddin Rufeinig allu prynu arfau newydd i fynd i ryfela, ac er mwyn i Herod a’r Rhufeiniaid allu prynu pob math o ddilladau crand a bwydydd moethus!

    Yn y dref roedd teulu Iddewig crefyddol iawn yn byw: Joachim ac Anne gyda’u merch, Mair. Yn anffodus fe fu farw Joachim gan adael Anne a Mair ar ben eu hunain.

    Pan oedd Mair tua 14 mlwydd oed, fe ddyweddïodd hi â Joseff, dyn ifanc a oedd yn saer crefftus. Efallai bod 14 oed yn swnio’n ifanc iawn i ni heddiw, ond yn yr amser hwnnw roedd yn beth cyffredin i ferched mor ifanc â 12 neu 13 mlwydd oed fod wedi dyweddïo.

  4. Y Ddesg Newyddion:  Rydyn ni’n agor ein hadroddiad heddiw gyda’r newyddion bod paratoadau wedi dechrau cael eu gwneud ar gyfer priodas dau sydd wedi dyweddïo, sef  Mair a Joseff. Ond yn ystod y nos heno, fodd bynnag, cafodd Mair ei deffro o drwmgwsg gan lais tyner.

    Yn ôl yr adroddiad, fe edrychodd Mair a oedd yn gorwedd ar ei gwely gwair i fyny a gwelodd belydryn o olau llachar yn llewyrchu’n ddisglair yn y tywyllwch. Fe lwyddodd ein camera i ddal y sgwrs rhwng Mair a’r angel a ddaeth ati yn ystod y nos.

    (Daw dyn camera i mewn a thechnegydd sain. Daw Mair i mewn i’r llwyfan, ynghyd â’r angel Gabriel.)

    Mair
     (yn edrych yn ofnus): Pwy wyt ti? Beth wyt ti’n ei wneud yma?

    Angel:  Rydw i’n dy alw di. Ti yw’r un sydd wedi cael ei dewis. Rwyt ti’n mynd i gael babi bach, mab bach Duw. Fe fyddi di yn ei alw’n Iesu.  Fydd pethau ddim yn hawdd i ti, ond ti sydd wedi cael dy ddewis, am dy fod ti’n rhywun arbennig. Rhaid i ti ddysgu’r mab bach fel y bydd eraill yn gallu dysgu ganddo yntau.

    Y Ddesg Newyddion: Fe ddiffoddodd y golau ar ôl hynny ac fe ddiflannodd yr angel, ond roedd Mair yn ei chael hi’n anodd mynd yn ôl i gysgu wedyn. Fe lwyddodd ein gohebydd i ofyn rhai cwestiynau iddi. 

    Gohebydd 1:  Mair, allwch chi egluro beth a ddigwyddodd yma yn awr?

    Mair:  Dydw i ddim yn siwr iawn. Rydw i’n dechrau meddwl mai breuddwyd gefais i. Wn i ddim pwy oedd yn siarad, a dydw i ddim yn deall yn iawn beth roedd yn ei ddweud. Alla i ddim bod yn mynd i gael babi, mae hynny’n amhosib.

    Gohebydd 1:  Beth fydd Joseff yn ddweud tybed?

    Mair:  Cwestiwn da. Efallai na fydd eisiau fy mhriodi i ar ôl clywed hyn!

    Gohebydd 1:  Rhaid dy fod yn flinedig erbyn hyn; fe wnaf i roi llonydd i ti fynd yn ôl i gysgu.

    Y Ddesg Newyddion:  Roedd Joseff yn hyn na Mair ac yn ddyn ifanc doeth. Pan ddywedodd hi wrtho beth oedd wedi digwydd, roedd yn deall y byddai’r plentyn y byddai Mair yn ei gael yn fab i Dduw. Roedd yn deall mai Iesu fyddai ei enw, ac y byddai ryw ddydd yn achub ei bobl rhag eu pechodau. Roedd Joseff yn sylweddoli bod yn rhaid iddo fagu’r plentyn fel pe byddai’n fab iddo fo ei hun. Fe fyddai yn ei ddysgu i fod yn saer, fel roedd aelodau eraill o’i deulu’n grefftwyr medrus wrth eu gwaith yn trin coed ac yn gwneud pethau allan o bren.

    Joseff:  Mair, mae Duw wedi anfon y neges hon atom ni, ac mae’n rhaid i ni gymryd hyn o ddifrif. Fe wnaf fi ddysgu’r plentyn i fod yn saer.

  5. Y Ddesg Newyddion: Efallai y cofiwch chi i ni ddod â stori ryfeddol i chi rai misoedd yn ôl am Mair, a’r neges a gafodd hi gan yr angel a ddaeth i’w gweld yn y nos. Wel, mae’n dda gennym ddweud bod Mair, yn wir, yn disgwyl babi bach, yn union fel y dywedodd yr angel.

    Rydyn ni’n ymddiheuro, ond rydyn ni’n torri ar draws y darllediad yma oherwydd bod gorchymyn wedi dod o Rufain. Rhaid i’r holl bobl dalu treth uwch i’r Rhufeiniaid a mynd i’r dref lle cawson nhw’u geni i gael eu cofrestru. Mae hyn yn orchymyn gan y llywodraeth. Rhaid i bawb wneud hyn.

    Ac yn awr, fe awn ni yn ôl at y stori roedden ni’n sôn amdani yn flaenorol. Fe awn ni’n syth at Mair a Joseff, ac fe gawn ni weld beth yw eu hymateb nhw i’r gorchymyn hwn sydd wedi dod o Rufain.

    (Mair a Joseff ar y llwyfan gyda’r gohebydd a’r dyn camera.)

    Gohebydd 2:  Joseff, beth mae hyn yn mynd i’w olygu i chi? I ble bydd yn rhaid i chi fynd i gael eich cofrestru?

    Joseff:  Rydw i’n dod o deulu’r brenin Dafydd. Felly fe fydd hynny’n golygu y bydd rhaid i mi fynd i ddinas Dafydd, y ddinas sydd yn awr yn cael ei hadnabod fel Bethlehem.

    Mair:  O! Joseff, rhaid i ni wneud ein hunain yn barod i fynd ar y daith. Fe all gymryd tipyn o amser i ni fynd i Fethlehem, ac efallai y byddaf yn gweld y siwrne’n anodd gan fy mod yn mynd i gael y babi bach cyn hir.

    Y Ddesg Newyddion:  Wel, efallai y byddai’n well i ni adael iddyn nhw fynd i baratoi. Rydyn ni’n sicr o ddod o hyd iddyn nhw eto pan fyddan nhw wedi cyrraedd Bethlehem.

  6. Darlleniad o’r Beibl: Luc 2.4–5.

  7. Y Ddesg Newyddion: Mae’r stori hon rydyn ni wedi bod yn ei dilyn, sy’n adrodd hanes Mair a Joseff, wedi dod yn stori boblogaidd iawn gyda llawer o’n gwylwyr yn dilyn eu hynt ac yn holi ydyn nhw wedi cyrraedd  Bethlehem eto. Wel, fe allwn ni ddweud wrthych chi eu bod wedi cyrraedd y ddinas tua hanner awr yn ôl.

    (Mair a Joseff ar y llwyfan gyda’r gohebydd a’r dyn camera.)

    Gohebydd 3:  Fel y gwelwch chi, mae Mair a Joseff wedi cyrraedd y ddinas. Mae’n brysur iawn yma. Mae’r lle yn llawn o bobl sydd wedi cyrraedd yma ddoe neu fore heddiw i gael eu cofrestru. Mae’n ddigon posib y bydd llawer yn cael anhawster i ddod o hyd i le i aros dros nos yma heno.

    (Daw gwahanol deuluoedd i’r llwyfan, gyda phawb yn cyfarch ei gilydd gan nad ydyn nhw wedi gweld ei gilydd ers talwm.)

    Gohebydd 3:  Mair, maddeuwch i mi am ddweud, ond rydych chi’n edrych wedi blino. Fe ddylai’r ddau ohonoch chi chwilio am le i aros. Gobeithio y byddwch chi’n lwcus. Yn ôl pob golwg, fe fydd hi’n anodd iawn cael ystafell i aros yma heno.

    Mair:  O, Joseff, mae’r gohebydd yn dweud y gwir. Rydw i wedi blino’n lân, fe fydd yn rhaid i mi gael gorffwys. Mae gen i deimlad na fydd y babi’n hir cyn y daw o i’r byd.

    Joseff:  Iawn. Gad i ni fynd y ffordd yma i weld a oes lle i aros yma. Mae llety neu ddau yma.

  8. Y Ddesg Newyddion: Mae’n ddrwg gennym roi gwybod i’n gwylwyr, ond ddaeth Joseff a Mair ddim o hyd i lety y gallen nhw aros ynddo. Rydyn ni’n bryderus am gyflwr Mair oherwydd ei bod at fin rhoi genedigaeth i’w phlentyn bach. Arhoswch, rydw i’n cael neges yn fy nghlust. Gadewch i ni fynd drosodd at ein gohebydd ym Methlehem am y newyddion diweddaraf.

    Gohebydd 4:  Iawn, diolch. Rydyn ni newydd weld merch yn dod at Joseff a Mair.

    Merch:  Esgusodwch fi. Ydych chi’n dal i fod yn chwilio am lety? Mae fy nhad wedi cael syniad. Ef yw perchennog un o’r gwestai i lawr y ffordd. Does ganddo’r un ystafell i’w chynnig i chi, ond mae gennym ni sied neu stabl y gallech chi fynd iddi i orffwys. Mae’r stabl yn glyd, yn sych ac yn gynnes, ac fe fydd yr anifeiliaid yno’n gwmni i chi.

    Joseff:  Wel, beth wyt ti’n feddwl, Mair? 

    Mair:  Mae’n swnio’n ardderchog i mi. Dydw i ddim eisiau rhoi genedigaeth i’r babi yma, allan ar y stryd, mae hynny’n bendant!

    Y Ddesg Newyddion:  Diolch byth am hynny. Fe ddown ni yn ôl yfory i ddod a’r newyddion diweddaraf i chi. Gobeithio y bydd gennym newyddion am yr enedigaeth erbyn hynny.

  9. Y Ddesg Newyddion: Croeso’n ôl. Yn union fel roedden ni wedi  gobeithio, ac wedi addo i chi, mae gennym ni newydd rhagorol i chi. Mae’n dda gennym gyhoeddi fod Mair wedi rhoi genedigaeth i fab bychan, a hynny yn y stabl honno y clywsom ni sôn amdani ddoe. Fel roedden ni’n disgwyl, maen nhw wedi galw’r baban bach yn Iesu. Rydym yn deall bod nifer o ymwelwyr ar eu ffordd i ddod i weld y baban ac i ddatgan eu llawenydd ar yr enedigaeth unigryw yma, sef genedigaeth mab Duw.

  10. Darlleniad o’r Beibl: Luc 2.6–9.

  11. Y Ddesg Newyddion: Neithiwr roedd ein criw ni, o’r adran newyddion, yn dystion i rai digwyddiadau syfrdanol yma ar gyrion dinas Bethlehem.

    Gohebydd 5:  Rydych chi’n ymuno â ni yn awr ar y bryniau yn union y tu allan i ddinas Bethlehem, gyda rhai o’r bugeiliaid sydd yn gofalu am rai cannoedd o ddefaid yma ar y bryniau. Mae’r bugeiliaid yn bob amser yn cadw golwg manwl iawn ar yr ardal wrth wylio’u praidd.

    Bugail 1:  Hei! Diffoddwch y golau llachar yna!

    Bugail 2:  Pa olau llachar? Does den i ddim lamp!

    Bugail 3
    :  Na, na, fechgyn! Edrychwch, mae’r golau yn dod o’r awyr. Edrychwch, acw!

    Gohebydd 5:  Fe welwch chi eu bod yn hollol syfrdan ac yn llonydd, fel finnau! Mae’r golau fel pe byddai’n ein harwain i lawr i gyfeiriad y ddinas.

  12. Darlleniad o’r Beibl: Mathew 2.1–2.

  13. Y Ddesg Newyddion:  Mae gennym ni newyddion pellach sef bod ymwelwyr eraill ar eu ffordd yma, rhai sydd wedi teithio cryn bellter. Mae gan ein gohebydd tramor ragor o fanylion i ni.

    Y gohebydd tramor:  Diolch. Oes, mae gen i newyddion o’r Dwyrain i chi! Mae’r dynion hyn wedi bod yn astudio’r sêr ers nifer o flynyddoedd. Maen nhw’n adnabod pob modfedd o’r awyr, felly roedden nhw wedi synnu pan sylwodd un ohonyn nhw ar un seren newydd nad oedden nhw wedi ei gweld yno o’r blaen. Roedd y seren fel petai hi’n symud. 

    Gwr doeth 1:  Ydych chi’n gweld y seren acw? Doedd hi ddim yno o’r blaen!

    Gwr doeth 2:  Ym mhle? Dangos i mi.

    Gwr doeth 3:  Wyddoch chi beth mae hyn yn ei olygu?

    Gwr doeth 1:  Na. A fydd raid i ni ail ddarlunio’r siartiau, a’u hail wneud i gyd?

    Gwr doeth 2: Na! Ydych chi ddim yn cofio darllen beth oedd yr hen broffwydi yn ei ddweud?

    Gwr doeth 3: Ydw’n wir! Rwyt ti’n iawn! Fe fyddai golau’n ymddangos yn yr awyr, yn cyhoeddi genedigaeth Brenin newydd.

    Gwr doeth 1: Oes gen ti gynllun?

    Gwr doeth 2: Mae’n debyg y bydd rhaid i ni ddilyn y seren. Fe ddylen ni ddangos parch i’r Brenin newydd.

    Y Gohebydd tramor:  Fe gasglodd y dynion yma anrhegion rhyfeddol, gwerthfawr a hardd i’w cyflwyno i’r Brenin newydd: aur, thus a myrr. Fe’i gwyliais i nhw’n diflannu i’r nos ar gefn eu camelod i ddilyn y seren arbennig hon sy’n ymddangos fel pe bai hi’n eu harwain tuag at Fethlehem.

  14. Y Ddesg Newyddion:  Yn anffodus, mae ein darllediadau ni o’r stori ryfeddol yma wedi datgelu’r newyddion i Herod. Dydi Herod ddim yn hapus o gwbl. Fe awn ni drosodd yn awr at ein Gohebydd Brenhinol.

    Y Gohebydd Brenhinol:  Rydych chi’n ymuno â mi yn awr ym mhalas Herod, ar yr union adeg y mae’r tri gwr doeth yn cyrraedd yma. Maen nhw wedi tybio, yn anghywir, mai yma ym mhalas Herod y mae’r Brenin newydd wedi’i eni.

    Tri gwr doeth:  O Frenin! Ble mae’r Brenin bach sydd newydd ei eni? Rydyn ni wedi dod ag anrhegion iddo.

    Herod: Does dim Brenin newydd yma. Rhaid eich bod wedi gwneud camgymeriad. Ydych chi’n siwr eich bod wedi clywed y newyddion yn iawn?

    Gwr doeth 2:  Rydyn ni wedi gweld yr arwydd yn y sêr.

    Gwr doeth 1: Os nad yw’r Brenin newydd yma, rhaid i ni barhau i chwilio a dod o hyd iddo.

    Gwr doeth 3: Diolch i chi. Mae’n ddrwg gennym ein bod wedi gwastraffu’ch amser.

    Herod:  Arhoswch am foment!

    Y Gohebydd Brenhinol:  O diar! Fe allai hyn fod yn newyddion drwg i’r tri gwr doeth. Marwolaeth hyd yn oed!

    Herod:  Os gwelwch yn dda, gyfeillion, pan ddewch chi o hyd i’r Brenin newydd, dewch yn ôl ataf fi i ddweud wrthyf ble y mae, fel y gallaf finnau fynd i’w weld a rhoi anrheg iddo.

    Y Gohebydd Brenhinol:  Mae rhywbeth o’i le yma. Dydi Herod ddim eisiau mynd i addoli Brenin newydd. Edrychwch, mae’n genfigennus iawn. Rwy’n siwr mae eisiau ei ladd y mae. Gobeithio y bydd rhywun yn gallu rhybuddio’r doethion, a dweud wrthyn nhw am gynllun dichellgar Herod.

    Y Ddesg Newyddion: Diolch byth, fe gafodd y doethion neges trwy freuddwyd a oedd yn dweud wrthyn nhw am beidio â mynd yn ôl i balas Herod. Yn y diwedd fe ddaethon nhw o hyd i ble roedd y baban Iesu, ar ôl aros mewn sawl lle ar hyd y ffordd i holi am gyfarwyddiadau.

  15. Darlleniad o’r Beibl: Mathew 2.11–12.

  16. Gohebydd 6 (gyda’r criw):  Dyma ni’n dod a golygfa hynod dyner i chi, gyda’r bugeiliaid wedi ymadael ychydig amser yn ôl i ddychwelyd at eu praidd. Yn awr, rydyn ni’n gweld bod y doethion wedi cyrraedd y stabl. Maen nhw wedi cyflwyno i Mair a Joseff yr anrhegion gwerthfawr yr oedden nhw wedi eu dewis ar gyfer Iesu. Mair, sut rydych chi’n teimlo nawr ar ôl cael yr holl ymwelwyr yma?

    Mair:  Dyma’r peth mwyaf rhyfeddol yn y byd. Fe fydd yr atgof am hyn yn drysor yn fy meddwl i, ac yn fy nghalon i, am byth.

    Gohebydd 6:  Mae’n edrych yn debyg fod Joseff wedi blino hefyd, erbyn hyn, ar ôl y digwyddiad arbennig yma, a’r holl ymwelwyr sydd wedi galw i’w gweld. Mae o’n cysgu’n drwm. Mae Mair yn canu hwiangerdd i’w baban bach, Iesu. Mae’n amlwg fod y baban yn cysgu’n dawel hefyd. Fe awn ni, er mwyn iddyn nhw gael noswaith dda o gwsg.

  17. Darlleniad o’r Beibl: Mathew 2.13–15

  18. Y Ddesg Newyddion:  Yn ddigon doeth, mae Mair a Joseff yn casglu eu pethau ynghyd ac yn symud allan o’r stabl. Maen nhw hefyd wedi clywed bod Herod yn frenin anfodlon nawr ei fod wedi clywed fod brenin arall ar wahân iddo fo. Maen nhw am ffoi i’r Aifft, i rywle a fydd yn fwy diogel iddyn nhw. Fe wnawn ni adael y stori yn y fan hon am nawr. Os daw unrhyw newydd syfrdanol arall, rydym yn addo y byddwn yn rhoi gwybod i chi ar unwaith.

Amser i feddwl

Dewch â Mair a Joseff a’r baban yn ôl i’r llwyfan, a’u ‘rhewi’ yn y canol.  Goleuwch gannwyll, a gadewch i’r gynulleidfa fyfyrio ar y stori y maen nhw newydd ei chlywed a’i gweld.  Tra bo hyn yn digwydd, bydd y plant yn canu un o’u hoff garolau. 

Gweddi
Diolch i Ti, Dduw, am y Nadolig,
Am anrhegion, am deulu ac am hwyl.
Diolch am bopeth sy’n gwneud y Nadolig yn arbennig.
Bydd gyda’r digartref heddiw,
gyda’r rhai sydd heb fwyd,
a hefyd gyda rhai sydd wedi colli eu teuluoedd.
Helpa ni i’w helpu nhw yn y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon