Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cynhyrfu'r Dyfroedd!

Helpu’r plant i ddeall bod gwneud un weithred fach yn gallu arwain at lu o bethau eraill yn dilyn.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall bod gwneud un weithred fach yn gallu arwain at lu o bethau eraill yn dilyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Gosodwch nifer o flociau domino yn barod i’w taro i lawr.
  • Copi o’r stori, Hairy Maclary’s Rumpus at the Vet gan Lynley Dodd. (Efallai y gallech chi addasu’r tesun i Gymraeg, neu ei drosi wrth i chi ddarllen y stori i’r plant).
  • Ysgrifennwch y 10 brawddeg a nodir (gwelwch yn dilyn, rhif 3) ar y bwrdd gwyn, mewn trefn ar hap fel y bydd y plant yn gallu eu gosod yn y drefn gywir wedyn.

Gwasanaeth

  1. Cyn i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth, eglurwch iddyn nhw bod yn rhaid iddyn nhw ddod i mewn yn hollol dawel heddiw, ac yn wir, fe fydd angen iddyn nhw gerdded i mewn yn ofalus a distaw bach ar flaenau eu traed rhag creu unrhyw gynnwrf. O bosib, fe fydd rhai o’r plant yn sylwi ar y rhes o ddominos rydych chi wedi eu gosod. Wedi i’r plant eistedd, gofynnwch iddyn nhw beth fydd yn digwydd os gwnewch chi daro’r domino cyntaf yn erbyn y nesaf ato. Fe fydd yn creu adwaith cadwynol. Fe fydd y symudiad yn effeithio ar y domino nesaf, a hwnnw yn effeithio ar y domino nesaf ato wedyn, ac ymlaen ac ymlaen felly. Galwch ar un plentyn atoch chi i wthio’r domino cyntaf er mwyn dangos hyn.

  2. Ar ôl gorffen gyda’r dominos, dywedwch wrth y plant eich bod yn mynd i ddarllen stori iddyn nhw, stori y mae’r digwyddiadau sydd ynddi yn debyg i’r hyn sy’n digwydd gyda’r dominos. Darllenwch stori Hairy Maclary at the vet o’r llyfr, i´r plant gael ei mwynhau. Gallwch addasu’r stori o flaen llaw neu ei throsi i’r Gymraeg wrth i chi ei hadrodd. Ydi’r plant yn gallu gweld tebygrwydd yn nigwyddiadau’r stori i’r hyn a ddigwyddodd gyda’r dominos?

  3. Ailadroddwch ddechrau’r stori hyd at ble mae’n dweud ‘... so she gave it a tweak’. Yna, gofynnwch i’r plant beth ddigwyddodd wedyn?

    Gofynnwch i’r plant eich helpu i nodi’r pethau a ddigwyddodd oherwydd hynny, a’u gosod yn y drefn gywir. Fe allech chi rifo’r brawddegau a’u hysgrifennu ar y bwrdd gwyn wrth i’r plant nodi eu trefn. Dyma’r drefn gywir:

    (1) Fe dynnodd Cassie un o flew Hairy Maclary.
    (2) Fe wnaeth Hairy Maclary droi bowlen oedd yn llawn o lygod bach.
    (3) Syrthiodd gwaelod y cawell i lawr ac fe hedfanodd y pedwar bwji allan o’r cawell.
    (4) Llamodd Grizzly MacDuff, y gath, allan o’r fasged i geisio dal y bwjis.
    (5) Gwthiodd cathod bach Poppadum alla hefyd ac ymuno yn yr helfa.
    (6) Dihangodd Barnacle Beasley hefyd a chlecian ar hyd y llawr.
    (7) Rhedodd Custard the Lab, Muffin McLay a Noodle the Poodle yn wyllt o gwmpas y poteli a’r bocsys gan eu taro i lawr i gyd.
    (8) Baglodd y milfeddyg a syrthio ar ei hyd ar lawr.
    (9) Aeth Geezer yr afr ar ei ben i gawell Cassie.
    (10) Gwylltiodd Cassie, ac fe welodd hi rywbeth yn symud, ac yna .…

  4. Wel, dyna lawer o bethau ddigwyddodd, y naill ar ôl y llall, dim ond oherwydd un digwyddiad bach drygionus!

    Mae’r Beibl yn dweud peth fel hyn mewn ffordd arall - mae’n bosib llosgi coedwig gyfan yn ulw dim ond gydag un wreichionen fach. Efallai mai’r wers i ni heddiw yw meddwl cyn gwneud rhywbeth!

Amser i feddwl

Faint o bobl neu anifeiliaid, ydych chi’n meddwl, wnaeth fwynhau’r holl halibalw hwnnw yn syrjeri’r milfeddyg?
Sut rydych chi’n meddwl yr oedd y milfeddyg ei hun yn teimlo ar ddiwedd y diwrnod hwnnw?
Sut olwg ydych chi’n feddwl oedd ar syrjeri’r milfeddyg ar ddiwedd y diwrnod hwnnw?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Fe wnaethom ni fwynhau stori Hairy Maclary a’i ffrindiau, heddiw. Roedd yn stori ddoniol.
Weithiau y mae’r pethau rydyn ni’n eu gwneud neu yn eu dweud yn debyg i’r dominos:
Maen nhw’n gallu bod yn gyfrifol am ddechrau llawer o bethau.
Weithiau, fe fyddan nhw’n gallu ein cael ni i helynt a thrafferthion,
ac fe fyddwn ni weithiau’n cael ein brifo neu’n brifo pobl eraill.
Helpa ni i feddwl cyn i ni wneud rhywbeth, neu cyn i ni ddweud rhywbeth,
fel na fydd ein geiriau na’n gweithredoedd yn achosi poen i bobl eraill.
Amen

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon