Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Flwyddyn Newydd Sydd I Ddod

Meddwl am y flwyddyn newydd sydd i ddod.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am y flwyddyn newydd sydd i ddod.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen 12 o gardiau maint A4. Ar un ochr i’r rhain, ysgrifennwch un llythyren ar bob un, fydd gyda’i gilydd yn sillafu’r ddau air BLWYDDYN NEWYDD. Ar ochr arall y cerdyn ysgrifennwch y geiriau a’r brawddegau sy’n cyd-fynd â phob llythyren.
  • Fe fyddai taflunydd OHP yn ddefnyddiol wrth ddarllen y gerdd.

Gwasanaeth

  1. Rhowch groeso i’r plant yn ôl ar ôl gwyliau’r Nadolig. Mae blwyddyn arall wedi mynd heibio, ac rydyn ni nawr yn dechrau blwyddyn newydd arall. Dywedwch wrth y plant y byddwch angen nifer ohonyn nhw i ddod i’r tu blaen i’ch helpu.

    Dangoswch bob cerdyn yn ei dro wrth i chi sôn am y gwahanol lythrennau, ac yna gofynnwch i rai o’r plant ddod ymlaen i ddal y cardiau i fyny fesul un i chi.

    Mae ‘b’ am y gair ‘Blwyddyn’ ac am ‘Bywyd’ – deuddeg mis, ac fel mae pob blwyddyn yn mynd yn ei blaen rydyn ni’n tyfu ac yn dysgu mwy am fywyd.

    L  sydd am ‘lwc dda’. Gobeithio y bydd lwc dda yn ein dilyn ble bynnag y byddwn yn mynd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

    W  sydd am ‘wedi mynd’. Mae’r hen flwyddyn wedi mynd. Rydyn ni wedi ffarwelio â honno ac yn awyddus iawn i weld beth fydd mewn stôr ar ein cyfer yn ystod y flwyddyn newydd sydd i ddod.

    Y  Mae ‘y’ am y gair ‘ymlaen’. Felly, edrychwn ymlaen at wneud pethau diddorol yn ystod y misoedd sydd o’n blaenau.

    DD  Mae gennym ni i gyd ddoniau. Mae rhyw ddawn wahanol gan bob un ohonom. Gadewch i ni ddefnyddio'r nifer fawr o ddoniau sydd gennym ni yn y ffordd orau y gallwn ni.

    Y  Gydag ychydig o ‘ymroddiad’ ac ‘ymarfer’, fe allwn ni ‘ymateb’ yn dda a gwneud gwaith rhagorol.

    N  sydd am ‘newidiadau’. Fe allwn ni ‘newid’ ychydig ar ein ffordd o wneud pethau fel ein bod yn llwyddo.

    sydd am ‘newydd’. Dyma gyfle newydd i droi dalen newydd a gwneud ein gorau.

    E  sydd am ‘eisiau’. Rhaid i ni fod eisiau gwneud y newidiadau, fel y byddwn ni’n gallu gweld yr ‘effaith’ dda wrth i ni geisio gwneud ein gorau.

    W  sydd am ‘wynebu’, wynebu sawl her, neu wynebu anawsterau pan fydd pethau yn ein

    Herbyn a dal ati’n wrol ac yn ddewr.

    Y sydd am ‘ynghyd’, pawb ynghyd gyda’i gilydd, yn ‘ymdrechu’ i geisio cadw’r addunedau rydyn ni wedi eu gwneud ar ddechrau blwyddyn newydd.

    DD  Cawn feddwl am ‘ddechrau’ blwyddyn fel siawns i ddechrau o’r newydd gan ‘ddymuno’ y caiff pawb FLWYDDYN NEWYDD DDA.

  2. Gofynnwch i’r gynulleidfa edrych ar y llythrennau eto. Beth yw’r ddau air y mae’r llythrennau’n eu sillafu? Ie, BLWYDDYN NEWYDD

  3. Yna gwahoddwch bawb i gyd ddarllen y gerdd. Efallai y gallech chi baratoi rhai o’r plant o flaen llaw i ddarllen rhai o’r llinellau’n gyntaf.

    Blwyddyn Newydd
    Mae pob dydd yn ddiwrnod newydd sbon,
    Cawn wybod am bethau newydd bob dydd bron.
    Dysgu ein gwersi, darganfod pob math o bethau,
    Ymdrechu’n galed bob dydd a gwneud ein gorau.
    Wrth wneud ein gorau fe fyddwn yn dysgu,
    Gallwn gasglu gwybodaeth wrth i ni dyfu.
    Blwyddyn newydd, ffrind newydd yw hon i ni,
    Wyddom ni ddim eto beth a ddaw gyda hi.
    Aiff yr amser ymlaen i bob un ohonom,
    Allwn ni wneud dim am hynny, wrth gwrs, fe wyddom.
    Felly, meddyliwn am ein haddunedau,
    A chawn weld yn fuan beth fydd y canlyniadau.

  4. Fe allech chi dreulio ychydig o amser yn son am addunedau blwyddyn newydd. Ai pethau personol yn unig ydi addunedau? Neu, a ydyn nhw’n effeithio ar bobl eraill yn ogystal?

Amser i feddwl

Meddyliwch am rai addunedau y gallech chi eu gwneud, neu rydych chi eisoes wedi eu gwneud. Sut y byddwch chi’n gallu cadw atyn nhw?

Gweddi

Arglwydd Dduw,
Gad i ni obeithio y bydd y flwyddyn newydd hon yn un heddychol.
Rydyn ni’n gobeithio y bydd arweinwyr gwledydd ein byd yn gallu datrys llawer o’r problemau sy’n bodoli yn y byd y dyddiau hyn.
Helpa ni i fod yn fwy gofalgar yn y pethau y byddwn ni’n eu dweud ac yn eu gwneud,
fel y gallwn ninnau helpu i wneud ein rhan er mwyn gwneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo.
Bydd gyda ni yn awr a phob amser.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon