Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Dany Cyntaf

Helpu’r plant i ymdopi â’r math o ymgiprys a fydd yn digwydd rhwng brodyr a chwiorydd.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ymdopi â’r math o ymgiprys a fydd yn digwydd rhwng brodyr a chwiorydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r gerdd ‘The First Tooth’ gan Charles a Mary Lamb (www.storyit.com/Classics/JustPoems/firsttooth.htm). Neu fe allwch chi ddefnyddio’r addasiad sydd i’w weld yn rhif 1.
  • Nifer digonol o fandiau elastig mawr fydd yn gorffwys yn gyfforddus ar arddwrn pob plentyn.

Gwasanaeth

  1. Darllenwch y gerdd (neu’r addasiad sydd yma) gan roi mynegiant dramatig yn y darlleniad, fel pe baech chi’n blentyn ifanc. Neu, o bosib, fe allech chi baratoi un o’r plant i’w darllen.

Trwy y ty mae cynnwrf mawr,
Dim ond am fod gan y brawd bach ’ma, nawr,
Un dant bach wedi dod i’r golwg!
Mae gen i ddwy res o ddannedd,
yr un mor wyn, a thua’r un maint i gyd.
Ond beth am hynny? Dim ots yn y byd!

Dim ond hanner gair mae ‘o’ yn gallu’i ddweud.
Ond eto, mae’r sain fach honno’n well gan bawb
na’r holl eiriau y galla i eu hadrodd i chi.
Fe alla i lefaru’n llawer cliriach na bachgen bach ty ni!

Dydi ‘o’ ddim yn gallu cerdded, ond eto -
os bydd o’n symud un cam bach, wel dyna i chi gyffro!
Mae gan bawb fwy o feddwl o ryw un cam bach eto
na’r holl ymdrech wnaf i bob tro yn y dosbarth dawnsio.
Dydi hyn ddim yn deg!

  1. Gofynnwch rai cwestiynau fel a ganlyn:

    Am bwy mae’r gerdd yn sôn?
    Faint ydych chi’n feddwl fyddai oed y ddau blentyn yma?
    Pam fod ‘cynnwrf mawr’ yn y ty?
    Pam nad yw’r un sy’n adrodd y gerdd yn gallu rhannu yn y llawenydd?

  2. Helpwch y plant i uniaethu â’r plentyn hynaf yma yn y gerdd. Ydyn ni’n teimlo fel hyn ambell dro – gartref neu yn y dosbarth? Pam?

    Eglurwch ein bod i gyd yn hoffi cael ychydig o sylw a chael canmoliaeth am wneud pethau; rydym yn hoffi i bobl werthfawrogi ein hymdrechion. Os byddwn yn cael ein hanwybyddu, fe allai hynny arwain at deimladau o genfigen. Pan fyddwn ni’n genfigennus fe fyddwn ni’n grwgnach! Yn aml, fe allwn ni dreulio’r diwrnod yn teimlo’n ddrwg ein hwyl.

    Gofynnwch i unrhyw blentyn sydd wedi teimlo fel yma ryw dro a hoffai ddarllen y gerdd. Sylwch sut rydyn ni’n gallu deall sut mae’n teimlo oddi wrth y ffordd y mae’n darllen y gerdd.

  3. Gall cenfigen arwain rhai pobl i wneud pethau ofnadwy. Efallai yr hoffech chi gyfeirio at y storïau yn y Beibl am Joseff a’i frodyr (Genesis 37) neu hyd yn oed Cain ac Abel (Genesis 4).

  4. Un ffordd o ymdopi â’r math yma o genfigen yw canolbwyntio ar wneud ein gorau a defnyddio’n sgiliau ein hunain. Dyma rywbeth y mae mudiad o’r enw Christians in Sport yn ei addysgu i bobl ifanc. Mae Christians in Sport yn annog pobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon i wneud eu gorau ar y maes chwarae.

    Maen nhw hefyd yn credu nad y ffordd rydyn ni’n chwarae yn unig sy’n bwysig, ond hefyd y ffordd yr ydyn ni’n ymateb i’r bobl sydd mewn awdurdod, fel hyfforddwyr a dyfarnwyr. Hefyd yn y ffordd rydyn ni’n ymateb i aelodau’r tîm arall, yn enwedig os ydyn nhw’n ennill, yn ogystal â’r ffordd rydyn ni’n ymateb pan fyddwn ni wedi gwneud rhywbeth o’i le, er enghraifft ffowlio mewn gêm bel droed, allai olygu cael ein hanfon oddi ar y cae.

    Fe fydd Christians in Sport yn annog chwaraewyr ifanc i wisgo band llawes o liw glas pan fyddan nhw’n chwarae mewn gêm. Ar y band llawes mae’r geiriau, ‘Audience of one’. Mae hyn yn eu helpu i gofio eu bod yn chwarae eu gorau er mwyn Duw. Mae Duw yn gweld, hyd yn oed os nad oes llawer o neb arall yn gweld. Mae Duw yn falch o’u hymdrechion, yn falch eu bod yn defnyddio’u coesau a’u breichiau a’u cyrff, yn ogystal â’r egni, y stamina a’r sgiliau y mae Duw wedi eu rhoi iddyn nhw. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr o gael sylweddoli bod rhywun bob amser yn gwerthfawrogi ein hymdrechion!

Amser i feddwl

Rhowch fand elastig i bob plentyn. Gofynnwch iddyn nhw wisgo’r rhain yn ystod eu gwersi heddiw.
Cofiwch, beth bynnag y byddwn ni’n brysur yn ei wneud heddiw, mae Duw yn ein gweld ac mae dweud, ‘Da iawn.’

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti yn fy nerbyn i, ac yn fy ngharu i, a diolch fy mod i’n bwysig yn dy olwg di.
Diolch dy fod ti yn gallu gweld popeth rydw i’n ei wneud, ac yn ceisio fy ngorau i’w wneud.
Diolch i ti am yr adegau y byddaf yn cael fy annog ac yn cael fy nghanmol gan aelodau fy nheulu, fy ffrindiau a hefyd gan fy athrawon. Mae’n deimlad braf.
Helpa fi i gofio’r teimlad braf hwnnw pan fyddaf yn clywed pobl yn annog pobl eraill.

Dysga fi sut i deimlo’n hapus drostynt hwythau hefyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon