Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sant Casian

Meddwl am fisoedd y flwyddyn, yn enwedig mis Chwefror, a’r neges sydd yn y chwedl am Sant Casian.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Meddwl am fisoedd y flwyddyn, yn enwedig mis Chwefror, a’r neges sydd yn y chwedl am Sant Casian.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ysgrifennwch enwau misoedd y flwyddyn, fesul pennill, ar 12 cerdyn maint A4.
  • Defnyddiwch OHP er mwyn cael cyd-ganu neu gyd-ddarllen y penillion.

Gwasanaeth

  1. Yn gyntaf, gofynnwch i’r plât oes rhywun yn gwybod pa ddiwrnod yw hi heddiw, ac yn a pa fis yw hi. Gofynnwch i’r plentyn sy’n rhoi’r ateb cywir i chi (Chwefror) ddod i’r tu blaen atoch chi a dal y cerdyn gyda’r enw Chwefror arno i’w ddangos i weddill y gynulleidfa. Rhowch yr 11 cerdyn arall, heb fod mewn unrhyw drefn, i 11 o blant eraill. Gofynnwch i’r grwp yma o blant a yw’n bosib iddyn nhw osod eu hunain fel eu bod yn arddangos enwau’r misoedd yn y drefn gywir.

  2. Dyma gyfle da i ddysgu enwau’r misoedd, neu i atgoffa pawb o enwau ‘r deuddeg mis. Ffordd dda o wneud hynny yw eu canu ar yr alaw Gymreig ‘Gwyr Harlech’. Bydd dysgu’r gân yn helpu’r plant i gofio trefn yr enwau am flynyddoedd i ddod – os nad am weddill eu hoes!

    Ionawr, Chwefror, Mawrth ac Ebrill,
    Mai, Mehefin a Gorffennaf,
    Awst a Medi, Hydref, Tachwedd,
    Rhagfyr – deuddeg mis!

    Bydd y plant yn mwynhau canu’r gân, ac mae’n ffordd dda iddyn nhw ddysgu enwau’r misoedd a’u trefn.

  3. Holwch y plant pa un yw’r mis lleiaf. Ydyn nhw’n gwybod sawl diwrnod sydd yn y mis hwnnw, Chwefror? Gofynnwch i’r plentyn sy’n dal y cerdyn ‘Chwefror’ i roi cam ymlaen. Efallai y bydd y pennill canlynol yn help i rai o’r plant gofio sawl diwrnod sydd ym mhob mis. Y Parchedig O M Lloyd, gweinidog a bardd, oedd awdur y pennill yma:

    Deg dydd ar hugain yw rhifedi

                  Ebrill, Mehefin, Tachwedd a Medi.

                  Mae i'r gweddill ddydd yn rhagor,

                  Ar wahân i'r mis bach Chwefror,

                  Rhoi wyth ar hugain i hwnnw sydd raid,

                  Ond naw ar hugain bob blwyddyn naid.

    Mae’r pennill Saesneg yn gyfarwydd iawn i lawer hefyd:

    Thirty days hath September, April, June and November.
    All the rest have thirty-one, that’s easy to remember.
    February is the shortest month, with twenty-eight days to show,
    In leap year, every four years, to twenty-nine they’ll grow
    .

  4. Diolchwch i’r rhai fu’n eich helpu, a’u hanfon yn ôl i’w lle i eistedd. Yna cyflwynwch y stori ganlynol, sy’n seiliedig ar hen stori werin o wlad Wcráin. Roedd pobl yn credu bod y stori’n egluro pam fod 29 diwrnod ym mis Chwefror bob blwyddyn naid, sef bob pedair blynedd.

    Stori Sant Casian
    Lawer o flynyddoedd yn ôl, roedd dyn yn byw yng ngwlad Wcráin. Roedd yn teithio un diwrnod, gyda’i drol a’i ful, i’r farchnad yn y dref.  Roedd yn mynd i werthu rhai o’r llysiau yr oedd wedi eu tyfu, er mwyn iddo gael ychydig o arian i brynu bwyd i’w deulu yn ystod y gaeaf.

    Ar y ffordd i’r farchnad, fe aeth y drol yn sownd mewn mwd dwfn. Ceisiodd y dyn wthio a thynnu’r drol, ond doedd o ddim yn gallu ei chael yn rhydd. Roedd yn dechrau mynd yn ddrwg ei hwyl am hyn a dechreuodd chwipio’r mul, ond roedd y drol yn suddo’n ddyfnach i’r mwd.

    Ymhen ychydig, fe ddaeth dau ddyn sanctaidd heibio iddo. Enw un oedd Sant Nicolas ac enw’r llall oedd Sant Casian. Gofynnodd y dyn druan i’r ddau ei helpu, gan ei fod yn gwybod y byddai ei deulu’n newynu yn y gaeaf os na fyddai’n gallu mynd i’r farchnad y diwrnod hwnnw i werthu’r llysiau.

    Gwelodd Sant Nicolas ar unwaith beth oedd yn peri anhawster i’r dyn ac roedd yn cydymdeimlo ag ef. Aeth ato’n syth i’w helpu, er gwaetha’r ffaith bod ei draed a’i ddillad yn mynd yn fudr iawn wrth iddo wneud hynny. Ond, doedd ar Sant Casian ddim eisiau baeddu ei ddwylo na’i ddillad, ac felly doedd o ddim yn awyddus iawn i helpu. ‘Dydw i ddim eisiau baeddu fy ngwisg lân, neis.’ meddai.

    Gyda help Sant Nicolas, fe lwyddodd y dyn i gael ei drol a’i ful allan o’r mwd. Diolchodd y dyn i Sant Nicolas yn fawr iawn a mynd ymlaen ar ei daith i’r farchnad. Aeth Sant Nicolas a Sant Casian ymlaen gyda’i gilydd ar eu taith hwythau.

    Trwy gydol yr amser y buon nhw’n ymdrechu i gael y drol o’r mwd yr oedd rhywun arall wedi bod yn gwylio’r hyn oedd yn digwydd. Ei enw oedd Sant Pedr. Ac ar ôl hynny roedd Sant Pedr wedi gweld y dyn druan yn mynd i’r farchnad i werthu ei lysiau ac yn cael pris da amdanyn nhw cyn mynd yn ôl adref at ei wraig a’i blant yn fodlon gyda’i waith y diwrnod hwnnw.

    Galwodd Sant Pedr ar y ddau arall, Sant Nicolas a Sant Casian ato wedyn. Roedd Sant Pedr eisiau penderfynu pa Sant fyddai’n cael gwyl y byddai pobl y byd yn ei dathlu.  Dywedodd wrthyn nhw fod Sant Nicolas wedi bod yn garedig wrth y dyn druan, ac roedd hynny wedi ei blesio’n fawr. Ac am hynny, roedd wedi penderfynu rhoi dau ddiwrnod gwyl i Sant Nicolas bob blwyddyn, pryd y byddai pobl y byd yn cofio amdano.

    Yna, fe siaradodd Sant Pedr â Sant Casian. Doedd Sant Pedr ddim yn hapus ynghylch y ffordd y gwnaeth Sant Casian ymddwyn. Doedd o ddim wedi cynnig helpu dim ar y dyn tlawd, o gwbl. Felly, penderfynodd mai dim ond unwaith bob pedair blynedd y byddai Sant Casian yn cael gwyl er mwyn i’r bobl gofio amdano, a hynny ar 29 Chwefror. A dim ond ar y diwrnod hwnnw, unwaith bob pedair blynedd y byddai’n cael gwisg newydd lân. Fe fyddai hynny yn ei atgoffa o’r tro hwnnw y gwrthododd faeddu ei ddillad i helpu’r dyn tlawd.

  5. Os yw amser yn caniatáu, efallai yr hoffech chi drafod y stori. Beth mae’r plant yn ei feddwl o’r ffordd y gwnaeth Sant Casian ymddwyn? Efallai y gallech chi hefyd egluro nad yw chwedlau gwerin yn straeon gwir bob tro, ond eu bod yn storïau sydd wedi cael eu creu a’u hadrodd o’r naill genhedlaeth i’r llall dros y blynyddoedd.

Amser i feddwl

Gweddi

Annwyl Dduw, helpa ni i weld beth yw anghenion pobl eraill.
Dysga ni i fod yn barod i helpu, hyd yn oed ar yr adegau pan fydd hynny’n anodd i ni.
Bydd gyda ni heddiw, a phob amser.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon