Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Elias Ar Bwli

Canfod yr unigrwydd y mae’n bosib ei deimlo mewn sefyllfa o fwlio, a sylweddoli nad ydyn ni ar ben ein hunain yn aml ar adegau fel hyn.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Canfod yr unigrwydd y mae’n bosib ei deimlo mewn sefyllfa o fwlio, a sylweddoli nad ydyn ni ar ben ein hunain yn aml ar adegau fel hyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Darllenwch stori Elias yn 1 Brenhinoedd 19.
  • Ar fwrdd gwyn neu fwrdd du, tynnwch lun cylch o ddwylo.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’r plant eich bod yn mynd i adrodd stori wrthyn nhw heddiw am ddyn oedd yn teimlo’n unig iawn, ac yn bur ofnus.  Roedd y dyn hwn yn negesydd enwog ar ran Duw ac yr oedd Duw wedi ei ddefnyddio mewn modd grymus iawn i wneud llawer o bethau rhyfeddol. Fel mater o ffaith, yn union cyn y rhan o’r stori yr ydym yn mynd i wrando arni heddiw, roedd y dyn hwn wedi galw ar Dduw i danio pentwr o goed gwlyb iawn, iawn, gyda thân o’r nefoedd … ac fe wnaeth Duw hynny!

    Ond yr oedd Elias wedi cythruddo dynes o’r enw Jesebel. Fyddech chi ddim yn credu y byddai ofn dynes ar ddyn fel Elias, ond coeliwch chi fi, roedd ganddo fo ei hofn hi.  Rhaid dweud mai Jesebel oedd brenhines y wlad, felly roedd hi’n eithaf pwerus.  Roedd hi wedi arfer cael ei ffordd ei hun, ac roedd hi wedi gwneud pethau go annifyr i rai pobl.  Ei geiriau hi oedd yn codi arswyd ar Elias.

    Roedd hi wedi ei fygwth gan ddweud: ‘Erbyn yr amser yma yfory fe fyddi di’n ddyn marw!’

    Wyddoch chi beth wnaeth Elias? Roedd ganddo gymaint o ofn Jesebel a’i bygythiadau, fe redodd ymaith am ei fywyd. Fe redodd, ac fe redodd, ac fe redodd ymhell o olwg Jesebel, ac yna, i wneud yn siwr ei fod ddigon pell oddi wrthi, gwnaeth daith diwrnod i mewn i’r anialwch. Gallwch ddychmygu pa mor flinedig yr oedd erbyn hynny. Mae’r Beibl yn dweud wrthym ei fod wedi eistedd o dan yr unig goeden oedd i’w gweld am filltiroedd, ac wedi gweddïo y byddai’n cael marw. 

    ‘Rydw i wedi cael digon, Arglwydd. Cymer fy mywyd i.’ Gorweddodd o dan y goeden a chysgodd.  Roedd wedi blino’n lân.

    Fe wyddai Duw mai’r peth cyntaf yr oedd Elias ei angen yn awr oedd cwsg, ac yna rhywfaint o fwyd. Felly, ar ôl i Elias gael ei gwsg hir, anfonwyd angel ato gyda bara a dwr. Eisteddodd Elias i fyny, bwytaodd hwnnw, a syrthio i gysgu eto. Daeth yr angel yn ôl ato’r eilwaith gyda bwyd.  Ys gwn i a wnaethoch chi rywdro deimlo’n well ar ôl cael noson dda o gwsg a phryd da o fwyd!

    Ar ôl hyn cododd Elias a theithiodd am 40 dydd a 40 nos, yn cael ei arwain gan Dduw.  Treuliodd noson mewn ogof ar lethr rhyw fryn.

    ‘Beth wyt ti’n ei wneud fan hyn?’ gofynnodd Duw iddo o’r diwedd.

    Dyma’r amser i siarad, a dyna beth wnaeth Elias, sef siarad. Rhannodd ei holl ofidiau gyda Duw.  Fe ddywedodd wrth Dduw fel yr oedd wedi ceisio dilyn ffordd Duw. Fe ddywedodd wrth Dduw am Jesebel, a dweud cymaint o fwli oedd hi. Ac fe ddywedodd wrth Dduw pa mor unig yr oedd yn teimlo. ‘Fi ydi’r unig un ar ôl, ac yn awr maen nhw’n ceisio fy lladd i.’

    Mae Duw yn wrandäwr da ac yn ffrind nerthol iawn.  Tra roedd Elias yn sefyll y tu mewn i’r ogof, anfonodd Duw wynt cryf a nerthol a rwygodd y mynyddoedd yn eu hanner a chwalu’r creigiau. Yna anfonodd ddaeargryn anferth, yna tân enfawr.  Roedd hyn i gyd yn dangos i Elias bod ganddo ffrind nerthol iawn yn Nuw. 

    Ar ôl hyn, siaradodd Duw mewn llais sibrwd ysgafn gydag Elias. Dyma beth ddywedodd wrtho: ‘Dos yn ôl, Elias, yr union ffordd y daethost ti, a byddi’n cael hyd i bobl i dy gynorthwyo di. Bydd dau ohonyn nhw’n dod yn frenin a bydd un yn dod yn broffwyd ac yn ffrind da i ti. Gyda llaw, Elias, … mae yna saith mil o bobl yng ngwlad yn Israel sydd yn ffrindiau i mi ac i ti! Fyddi di ddim ar ben dy hun!

    A wyddoch chi beth, ni chafodd Jesebel afael ar Elias!  Fel mater o ffaith, fe gafodd ddiwedd digon helbulus, ond stori arall yw honno.

  2. Gofynnwch i’r plant a oes unrhyw un ohonyn nhw’n gallu uniaethu eu hunain â stori Elias. Efallai bod yna adegau pryd yr oedden nhw wedi cael eu bwlio gan rywun cryfach na nhw’u hunain. Efallai eu bod wedi teimlo’n ofnus ac yn unig.

    Eglurwch na ddylai hyn fyth ddigwydd, ac nad yw byth yn dderbyniol yn ein hysgol. Eglurwch, fel yn achos Elias, y bydd yna lawer o bobl o gwmpas i’n helpu pe byddai hyn yn digwydd i ni.

Amser i feddwl

Tynnwch sylw’r plant at y cylch o ddwylo ar y bwrdd gwyn neu’r bwrdd du.
Eglurwch fod hwn yn cynrychioli cylch o gyfeillgarwch sy’n amgylchynu am bob un ohonom, cylch o bobl sy’n gofalu amdanom ni, pobl y gallwn ni droi atyn nhw pan fyddwn ni mewn rhyw fath o drybini.
Gofynnwch i’r plant feddwl am yr oedolion a’r plant eraill sy’n chwarae rhan yn eu bywydau.
Enwau pwy fydden nhw’n ei ysgrifennu ar eu cylch nhw o gyfeillgarwch?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi helpu Elias.
Diolch dy fod ti wedi addo helpu unrhyw un sy’n gofyn am dy help di.
Diolch fod gennym ninnau oedolion a ffrindiau sy’n gofalu amdanom ni,
pobl y gallwn ni droi atyn nhw am help, a siarad gyda nhw am ein hofnau â nhw.
Helpa ni i ofalu am ein gilydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon