Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cariad

gan Melanie Glover

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Archwilio´r thema cariad.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd angen ymarfer rhywfaint ar y gwasanaeth dosbarth yma cyn ei gyflwyno - mae’n bosib trefnu bod pawb yn cael rhan, naill ai i lefaru, actio neu i berfformio gyda’r gerddoriaeth.
  • Fe fydd arnoch chi angen 4 cerdyn fflach a’r geiriau canlynol arnyn nhw: arbennig, rhannu, gofalu, caru.
  • Awgrymir chwarae trac cerddoriaeth dwy gân gan Hi-5: ‘L-O-V-E’ (oddi ar The Best of Hi-5) a ‘How Much Do I Love You?’ (oddi ar Space Magic) (Mae Hi-5 a Space Magic ar Channel Five yn aml yn y bore).  Mae’n bosib i chi addasu’r rhain fel sy’n briodol i chi, neu efallai y bydd gennych chi ganeuon cyfarwydd eraill sy’n ymwneud â’r thema ‘cariad’ y gallech chi eu defnyddio.

Gwasanaeth

Plentyn 1:  Bore da, bawb.

Plentyn 2:  Dosbarth ___ sy’n cyflwyno’r gwasanaeth heddiw.

Plentyn 3:  Yn ein dosbarth ni, rydyn ni wedi bod yn son am ein ffrindiau.

Plentyn 4:  Mae ffrindiau yn ‘arbennig’ iawn (dal y cerdyn i fyny).

Plentyn 5:  Rydyn ni’n ‘rhannu’ gyda’n ffrindiau (dal y cerdyn i fyny).

Plentyn 6:  Fe ddylen ni ‘ofalu’ am ein ffrindiau a’u caru (dal y cerdyn i fyny).

Plentyn 7:  Rydyn ni’n ‘caru’ ein teulu yn ogystal  â’n ffrindiau (dal y cerdyn i fyny).

Plentyn 8:  Mae ein rhieni ac aelodau ein teulu yn ein caru ni ac yn gofalu amdanom.

Plentyn 9:  Heddiw, rydyn ni’n mynd i sôn wrthych chi am gariad.

Chwaraewch y gân ‘L-O-V-E’ gan Hi-5. Gall y plant ymuno gyda’r gân, gan wneud symudiadau syml, e.e. chwarae a gafael yn nwylo’i gilydd, neu chwarae gyda’r llythrennau C-A-R-I-A-D (neu L-O-V-E) gyda chardiau.

Plentyn 10:  Rydw i’n caru ____________ oherwydd _____________


Plentyn 11
:  Rydw i’n caru ____________ oherwydd _____________

Plentyn 12:  Rydw i’n caru ____________ oherwydd _____________

Plentyn 13:  Rydw i’n caru ____________ oherwydd _____________


Plentyn 14
:  Rydw i’n caru ____________ oherwydd _____________

Plentyn 15:  Fe ddysgodd Iesu ni i garu’n gilydd.

Plentyn 16:  Fe ddywedodd Iesu, ‘Câr dy gymydog.’

Plentyn 17:  Mae hynny’n golygu y dylem ni garu pawb.

Plentyn 18:  Os byddwn ni’n cweryla â rhywun, fe ddylem ni ddatrys y broblem a bod yn ffrindiau.

Plentyn 19:  Fe ddylem ni garu’r bobl rheini dydyn ni ddim yn cytuno â nhw bob amser.

Plentyn 20:  Rydyn ni eisiau rhoi i blant pob dosbarth rywbeth sy’n gwneud i ni feddwl am garu pobl.

Chwaraewch y gân, ‘How Much Do I Love You?’ gan Hi-5. Gall y plant ymuno gyda’r gân, gan wneud symudiadau syml, e.e. gwthio pram, dal y ‘baban’, taid a nain a bachgen bach ar y llwyfan yn codi ei law, ac ati. Fe allai’r plant rannu calonnau cerdyn neu bapur i’r athrawon ac i’r oedolion eraill sy’n bresennol yn y gwasanaeth.

Plentyn 21:  Pan rydych chi’n caru rhywun fel eich mam, mae’n gwneud i chi deimlo’n gynnes y tu mewn ac yn hapus.

Plentyn 22:  Rydw i’n caru fy chwaer fach, ac mae hi’n rhoi cwtsh a swsus i mi. Mae hyn yn gwneud i mi wenu.

Plentyn 23:  Rydw i’n caru fy nghi bach, ac mae o’n fy llyfu er mwyn dweud ei fod o yn fy ngharu i.

Plentyn 24:  Pan fyddwn ni’n cynnal Amser Cylch yn y dosbarth fe allwn ni eistedd mewn siâp calon.

Plentyn 25:  Mae hyn yn ein hatgoffa bod ein dosbarth fel teulu, a ninnau’n caru ein gilydd. Cariad yw Duw.

Plentyn 1:  Ambell dro bydd rhai teuluoedd yn cael babi newydd.

Plentyn 2:  Dyma ddrama fach am ferch o’r enw Esther a’i theulu. Dyma Esther. (Daw Esther ymlaen yn gafael mewn tedi.)

Plentyn 3:  Mae mam Esther yn mynd i gael babi. (Daw mam Esther ymlaen.)  

Plentyn 4:  Mae tad Esther yn llawn cyffro hefyd. (Daw tad Esther ymlaen hefyd gan edrych yn hapus a llawn cyffro.)

Plentyn 5:  Mae mam a thad Esther wedi bod yn brysur iawn.

Plentyn 6:  Mae Dad wedi bod yn paentio’r ystafell yn barod ar gyfer y babi bach. (Mae Dad yn meimio defnyddio rholer paentio a’r hambwrdd paent, ac mae’n edrych wrth ei fodd.)

Plentyn 7:  Mae Mam wedi bod yn prynu dilladau bach newydd yn barod ar gyfer pan fydd y babi’n cyrraedd. (Mae Mam yn meimio tynnu’r dilladau allan o fagiau ac yn edrych arnyn nhw gan wenu.)

Plentyn 8:  Mae Mam yn teimlo’n flinedig iawn. Fe fydd y babi bach newydd yma’n fuan.

Mam:  O! Rydw i wedi blino. Rwy’n meddwl yr af fi i 'ngwely am dipyn bach.

Dad:  Popeth yn iawn, fe wna i gwpaned o de i ti. (Mae Mam a Dad yn cerdded oddi ar y llwyfan gyda’i gilydd.)

Esther:  Tybed ai bachgen neu eneth fydd y babi bach. Fe fydd gen i frawd bach neu chwaer fach.

Plentyn 9:  Mae Mam a Dad yn mynd i’r ysbyty, ac mae’r nyrsys yn helpu Mam i gael ei babi bach newydd. (Daw Dad a Mam ymlaen yn cario’r babi bach.)

Plentyn 10:  Mae gan Mam a Dad ferch fach newydd. Mae gan Esther chwaer fach newydd o’r enw Martha.

Esther:  Mae fy chwaer fach yn crio lot.

Mam:  Mae Martha wedi cael ei llefrith ac wedi cael cwtsh, ond mae hi’n dal i grio.

Esther:  Fe wna i roi fy nhedi iddi.

Dad:  Da iawn, Esther. Mae Martha fach wedi stopio crio.

Plentyn 11:  Fe fydd Esther a’i theulu yn brysur iawn gyda’r babi bach newydd.

Plentyn 12:  Mae’r babi bach newydd yn arbennig yn nheulu Esther ac yn nheulu Duw. (Mae’r tri - Mam, Dad ac Esther - yn cerdded oddi ar y llwyfan ac yn eistedd i lawr.

Amser i feddwl

Plentyn 13:  Gawn ni gyd weddïo.

Plentyn 14:  Annwyl Dduw, helpa ni i gofio beth wyt ti wedi ei ddweud wrthym ni am gariad. Rhaid i ni bob amser fod yn garedig wrth bobl eraill a gofalu amdanyn nhw.

Plentyn 15:  Weithiau, efallai y byddwn ni’n cweryla gyda’n ffrindiau, ond rydyn ni’n dal i’w caru.

Plentyn 16: Diolch i ti am ein mam a’n tad ac am ein teuluoedd. Helpa nhw i wybod ein bod ni’n eu caru’n fawr iawn.
Amen.

Plentyn 17:  Meddyliwch am bawb rydych chi’n eu caru, a chofiwch ddangos iddyn nhw bob dydd eich bod chi’n eu caru nhw.

Plentyn 18:  Rydyn ni’n gobeithio eich bod chi wedi mwynhau ein gwasanaeth.
Y dosbarth cyfan gyda’i gilydd:  Diolch yn fawr.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon