Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwerth Dysgu

gan Paul Sandford

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu´r plant i werthfawrogi’r pethau y maen nhw’n eu cael yn rhad ac am ddim.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen nifer amrywiol o gryno ddisgiau o wahanol werth, e.e. meddalwedd cyfrifiadurol, yn amrywio o rai sy’n costio rhai cannoedd o bunnau i’r rhai hynny sy’n cael eu rhannu’n rhad ac am ddim (e.e. Windows Service Pack 3, sydd i’w gael am ddim ond sy’n hanfodol).
  • Beibl.
  • Cannwyll ar gyfer yr Amser i Feddwl.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y syniad nad yw gwerth pennaf rhywbeth ddim bob amser yn amlwg ar yr olwg gyntaf.

  2. Gwahoddwch rai plant atoch chi i ddal rhai o’r cryno ddisgiau i fyny. Tybed fyddan nhw’n gallu dyfalu beth yw eu gwerth a gosod eu hunain yn y drefn gywir o’r drutaf i’r rhataf? Gofynnwch i’r plant eraill ydyn nhw’n meddwl bod y drefn yn gywir.

  3. Yn awr, gofynnwch iddyn nhw ddyfalu pris pob cryno ddisg. Anogwch y plant i barhau i ddyfalu pris y cryno ddisgiau (yn uwch neu is, fel bo’n gymwys) gyda phob un, nes byddan nhw wedi cynnig pris gweddol agos i’r pris cywir. Daliwch ati fel hyn gan adael yr un oedd yn rhad ac am ddim tan yn olaf. Aildrefnwch y plant a’u cryno ddisgiau wrth i chi wneud hyn yn ôl trefn y prisiau. Ond ble cawn ni osod yr un sydd am ddim? Er nad yw wedi costio dim, efallai ein bod ni angen hwn yn fwy nag un o’r lleill!

  4. Pwysleisiwch fod addysg yn werthfawr iawn i’r plant, er hynny dydyn nhw ddim yn gorfod talu am ddod i’r ysgol.

  5. Daliwch y Beibl sydd gennych chi i fyny, a gofynnwch i’r plant ddyfalu faint mae hwn yn ei gostio. Dywedwch wrth y plant fod y Frenhines Elizabeth, yn ystod y seremoni, pan oedd hi’n cael ei choroni yn 1953, wedi cael Beibl wedi’i gyflwyno iddi gyda’r geiriau canlynol: ‘We present you with this book, the most valuable thing the world affords.’ Sef, yn Gymraeg, ‘Cyflwynwn i ti, y llyfr hwn, y peth mwyaf gwerthfawr y mae’r byd yn gallu ei fforddio’.

  6. Darllenwch eiriau Iesu yn yr adnod ganlynol o’r Beibl, yn y Testament Newydd, Efengyl Ioan 10.10. ‘Ni ddaw’r lleidr ond i ladrata ac i ladd ac i ddinistrio. Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder.’

    Gofynnwch i’r plant tybed beth oedd Iesu’n ei olygu wrth ddweud hyn? Sut gall bywyd fod ‘yn ei holl gyflawnder’? Beth allai ein bywyd ei ennill er mwtn gwella’i gyflawnder? Allwn ni brynu ‘bywyd yn ei holl gyflawnder’? Pa ran y mae addysg dda yn ei chwarae i wneud ein bywydau’n llawnach?

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll. Gofynnwch i’r plant feddwl am ffyrdd y gallen nhw wneud bywydau pobl eraill yn gyfoethocach ac yn llawnach. Beth fydd angen iddyn nhw ei wneud heddiw er mwyn i hynny ddigwydd?

Nawr, meddyliwch am yr holl bethau y mae’r ysgol yn eu rhoi i chi: addysg, ffrindiau, ac amser i fod yn chi eich hun. Sut beth fyddai bywyd heb y pethau hyn?

Gweddi
Dad Nefol,
Diolch i ti am yr holl bethau hyfryd yr wyt ti’n eu rhoi i ni,
ac sy’n costio dim i ni.
Helpa ni i werthfawrogi harddwch dy greadigaeth,
i fod yn falch o’r hwyl rydyn ni’n ei gael gyda’n ffrindiau,
ac i weld beth yw gwir werth ein hysgol.
Helpa ni i roi i bobl eraill, fel y bydd eu bywydau’n llawnach.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon