Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Ysbryd Glan A'r Pentecost

Darlunio gwaith yr Ysbryd Glân mewn perthynas â’r Pentecost.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Darlunio gwaith yr Ysbryd Glân mewn perthynas â’r Pentecost.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bydd angen 4 pot jam o wahanol faint, 4 cannwyll, i gyd o’r un maint, wedi eu gosod ar 4 o blatiau neu soseri.  
  • Rhywfaint o Blu-Tack, matsis, a chanhwyllau bach ‘tealights’ (dewisol).

Gwasanaeth

  1. Defnyddiwch y pot jam lleiaf ar gyfer yr arddangosfa gyntaf.  Goleuwch gannwyll.  Yn awr gorchuddiwch y gannwyll gyda’r pot jam.  Beth sy’n digwydd? Beth ddiffoddodd y golau?  Gofynnwch am awgrymiadau.

    Nodwch fod angen ocsigen ar y gannwyll, o’r awyr, er mwyn iddi losgi.

  2. Dangoswch y tair cannwyll arall sydd yn union yr un maint â’i gilydd. Dangoswch y potiau jam o wahanol faint.. Cyn i chi fynd ymlaen â’r ymchwiliad hwn, gofynnwch i’r plant feddwl a dewis yn ddistaw, pa un o’r tair cannwyll fydd yn diffodd gyntaf.

    Gwnewch yr arbrawf. Pwy oedd yn iawn? Beth mae hyn yn ei ddangos i ni?

  3. Eglurwch i’r plant bod y gwaith ymchwil bychan hwn yn mynd i’w helpu i ddeall beth sy’n cael ei ddathlu ar adeg arbennig yn y Calendr Cristnogol, adeg sy’n cael ei alw’n Pentecost.

    Ar ôl i Iesu farw ac atgyfodi, fe wnaeth ymddangos nifer o weithiau i’w ddilynwyr. Yna, fe wnaeth ymadael i fynd yn ôl at ei Dad i’r nefoedd.  Cyn iddo fynd fe ddywedodd wrthyn ei ddilynwyr am aros gyda’i gilydd yn Jerwsalem hyd nes y byddai’n anfon yr hyn yr oedd wedi ei addo iddyn nhw - yr Ysbryd Glân.

    Byddai’r Ysbryd Glân yn eu helpu i wneud y gwaith o rannu’r neges am gariad Duw gyda’r holl fyd. Fydden nhw ddim yn gallu ymgymryd â’r dasg fawr hon heb help yr Ysbryd Glân.  

    Fe wnaethon nhw aros, ac ar Ddydd y Pentecost fe ddigwyddodd rhywbeth rhyfeddol i’r disgyblion. Roedd fel pe byddai gwynt nerthol wedi eu trechu, yn chwythu reit trwyddyn nhw, a’u llenwi. Mae’r Beibl yn dweud wrthym yn blaen fod yr olygfa fel pe byddai tafodau o dân wedi ymddangos ar eu pennau!

    Yn dilyn y profiad hwnnw roedden nhw’n gallu gweld bod ganddyn nhw ddewrder newydd a nerth newydd i rannu’r newyddion da am Iesu gyda phawb.

  4. Enw arall a welwn am yr Ysbryd Glân yn y Beibl yw’r Eiriolwr. Os ydym yn ceisio byw bywyd Cristnogol, mae cymorth yr Ysbryd Glân yn hanfodol i ni, fel y mae ocsigen yn hanfodol i’r gannwyll er mwyn iddi allu goleuo.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll.

Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion y byddai’n beth da iddyn nhw ei fod yn mynd oddi wrthyn nhw a’u gadael. Dim ond trwy wneud hynny y byddai’n gallu anfon ei Ysbryd Glân. Byddai ei Ysbryd Glân, fel yr aer y byddwn yn ei anadlu bob dydd, yn aros gyda nhw am byth wedyn.

Dewisol: Gallwch oleuo nifer o ganhwyllau bach ‘tealights’ i ddangos dilynwyr Iesu’n goleuo’r byd.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am anfon dy Ysbryd Glân ar ddydd y Pentecost.
Diolch i ti y bydd yr Ysbryd Glân gyda ni am byth,

ac y bydd yn barod bob amser i’n helpu ni i fyw mewn ffordd a fydd wrth dy fodd di.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon