Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dafydd a Goliath

Trafod y mater o fwlio, a thrafod strategaethau posib ar gyfer y dioddefwr ac ar gyfer y bwli hefyd.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Trafod y mater o fwlio, a thrafod strategaethau posib ar gyfer y dioddefwr ac ar gyfer y bwli hefyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bydd angen rhagbaratoi’r plant ar gyfer eu rhan hwy yn y gwasanaeth hwn.
  • Byddwch angen casgliad o ddelweddau neu luniau o bobl enwog (gwelwch pwynt 2.).
  • Er mwyn creu effaith greadigol gwnewch fasgiau o Simon Cowell a’r beirniaid eraill sydd i’w gweld ar y rhaglen X Factor. Neu fel arall, gallwch ddefnyddio lluniau pobl enwog y mae’r plant wedi bod yn astudio’u hanes (e.e. Hitler, Stalin).
  • Efallai y byddwch am ddefnyddio fersiwn darluniadol o’r stori am Dafydd a Goliath (mae’r stori yn y Beibl, yn 1 Samuel 17).
  • Cannwyll ar gyfer yr Amser i Feddwl.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ofyn i’r plant a oes unrhyw un ohonyn nhw’n gyfarwydd â stori Dafydd a Goliath. Edrychwch a ydyn nhw’n gallu dweud beth ddigwyddodd yn y stori enwog honno o’r Hen Destament. Gwnewch yn siwr bod y prif ddigwyddiadau yn cael eu hail-adrodd ac anelwch at dechnegau bwlio Goliath (roedd yn filwr mawr cryf, yn gawr o ddyn). Trafodwch sut y mae Goliath yn portreadu ei hun fel unigolyn nerthol ac awdurdodol, a beth y mae ei faint corfforol yn ei gynrychioli.

  2. Gofynnwch i’r plant a ydyn nhw’n gallu meddwl am bobl gyhoeddus sy’n defnyddio’u nerth a’u hawdurdod mewn ffyrdd negyddol? Dangoswch eich casgliad o luniau pobl gyhoeddus sydd yn cael eu hystyried o fod â llawer o enwogrwydd a grym - grym cadarnhaol a grym negyddol, e.e. David Beckham, Rio Ferdinand, Simon Cowell, y Frenhines, Hitler, Stalin …).

  3. Canolbwyntiwch ar un person enwog, modern negyddol o’ch dewis chi.  Er enghraifft, dyma fo, dyma Simon Cowell.

    Bydd tri o blant yn chwarae rhan Simon Cowell a dau o’i gyd feirniaid. Bydd rhywun gyda thalent neilltuol yn dod ymlaen ac yn perfformio o’u blaen. (Os ydych yn defnyddio unigolyn hanesyddol, dangoswch rywbeth fel rhan o YouTube sy’n dangos sut y mae ef neu hi yn defnyddio eu grym yn negyddol.)

    Mae ‘Simon Cowell’ yn dweud rhai pethau cas a maleisus am y sawl fu’n perfformio.

  4. Yn awr, gofynnwch i rywun o’r gynulleidfa ddod allan ac addysgu Simon sut i roi ei sylwadau mewn modd mwy addfwyn a doeth.

  5. Gofynnwch i’r plant pam eu bod yn credu fod Simon mor gas wrth y cystadleuwyr. Gofynnwch iddyn nhw pam fod cynhyrchwyr y rhaglen deledu yn gadael iddyn nhw gyrraedd cyn belled yn y gystadleuaeth a gadael iddyn nhw berfformio o flaen miliynau o wylwyr ar y teledu yn unig er mwyn cael eu gwawdio.

  6. Yna gofynnwch a oes unrhyw un ohonyn nhw wedi teimlo erioed eu bod yn cael eu bychanu neu eu herlid ar iard chwarae'r ysgol. Holwch nhw am eu teimladau. Trafodwch sut y gallwn ni fod yn arwr fel Dafydd yn y stori o’r Beibl  -  nid trwy ymladd gyda chatapwlt ond trwy sefyll i fyny drosom ein hunain, credu ynom ein hunain, a chodi uwchlaw peth felly.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll a gofynnwch i’r plant feddwl am yr amser pan roedden nhw’n teimlo bod rhywun yn tynnu arnyn nhw neu eu bychanu. Sut y bydden nhw’n delio â’r sefyllfa honno mewn ffordd dda?

Gweddi

Helpa ni i wneud y gorau o’n talentau mewn bywyd,
a galluoga ni i godi ein hunain uwchlaw pobl sydd eisiau ei bychanu.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon