Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Adda Yn Y Gofod

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Gwneud i ni feddwl am y gofod, a myfyrio ar bresenoldeb Duw ym mhob man.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Fel bydd y plant yn dod i mewn, dangoswch fideo o’r bydysawd (e.e. oddi ar YouTube, fel yr uchod, heb sain).
  2. Gofynnwch i’r plant a fyddai unrhyw un ohonyn nhw’n hoffi mynd i’r gofod? Ym mha ffordd y byddai’n wahanol i’r ddaear? Sut y byddai rhywun yn bwyta? Yn yfed? Yn symud? Pe byddech chi ar ben eich hun yn y gofod, sut fyddech chi’n teimlo?
  3. Dangoswch ffotograff o’r gofodwr Michael Collins o America. Adroddwch y stori fel y bu hi ar 20 Gorffennaf 1969, pan oedd Collins yn rhan o ymgyrch Apollo 11 i lanio ar y lleuad. Ond pan deithiodd y ddau ofodwr arall, a glanio ar wyneb y lleuad mewn cerbyd glanio bychan o’r enw'r ‘Eagle’, cafodd Collins ei adael yn unig yn y Modiwl Rheoli yn cylchdroi o amgylch y lleuad ar ei ben ei hun.
  4. Trwy ddefnyddio tri o blant i ddal llun y ddaear, llun y lleuad a’r llun o’r Modiwl Rheoli, dangoswch sut yr oedd hyn yn datgysylltu Collins yn gyfan gwbl oddi wrth y ddaear. Dywedwch fod Collins, am y 48 munud tra roedd yn teithio o amgylch y lleuad, yn gyfan gwbl ar ei ben ei hun yn y gofod, allan o olwg y ddaear..
  5. Dywedodd rhywun ei fod fel Adda, oherwydd mai ef oedd y dyn mwyaf unig yn hanes y byd.  Dangoswch y ffotograff a dynnodd Collins o’r lleuad, llun y Modiwl Rheoli a’r llun a dynnodd o’r ddaear.
    Y peth rhyfeddol yw, tra roedd Collins yn teithio’r ochr arall i’r lleuad, fe ddywedodd nad oedd yn teimlo’n unig.  Roedd yn teimlo’n hyderus, yn fodlon ac yn hapus dros ben.

Amser i feddwl

Darllenwch y geiriau hyn o Salm 139, adnodau 8 a 10: 

‘Os dringaf i’r nefoedd, yr wyt yno: … yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain, a’th ddeheulaw yn fy nghynnal.’

Dywedwch fod Cristnogion yn credu, er bod y bydysawd yn anferth a rhyfeddol i ni, nid yw felly i Dduw.  Nid oes unrhyw le yn yr holl ofod, nac mewn unrhyw amser, pryd y byddwn ni ar ben ein hunain.

Gweddi

Diolch i ti fod y gofod mor rhyfeddol a hardd.

A diolch i ti, O Dduw, dy fod yn llenwi pob mymryn o le sydd ynddo.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon