Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ble Byddem Ni Heb Berthnasoedd

Atgoffa’r plant i fod yn werthfawrogol o’r perthnasoedd sydd ganddyn nhw, a’u helpu i feddwl am bobl eraill sy’n llai ffodus na ni ein hunain.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r plant i fod yn werthfawrogol o’r perthnasoedd sydd ganddyn nhw, a’u helpu i feddwl am bobl eraill sy’n llai ffodus na ni ein hunain.

Paratoad a Deunyddiau

Dewiswch saith o blant i ddarllen y rhannau unigol. Fe allan nhw ddal delweddau perthnasol i fyny, i bosib: ffotograff, lluniau maen nhw wedi eu gwneud eu hunain, neu faneri’r llefydd y maen nhw’n sôn amdanyn nhw.

Gwasanaeth

  1. Heddiw, rydym yn mynd i sôn am berthnasoedd. Dim perthnasoedd, fe glywa’ i chi’n gweiddi!  Dim eto! Ond mae perthnasoedd yn bwysig i bob un ohonom ni. Bod yn perthyn yw un o’n hanghenion pwysicaf fel bodau dynol.

    Meddyliwch am funud am yr holl berthnasoedd gawsoch chi ag eraill bore heddiw, cyn i chi ddod i’r ysgol:

    Eich brawd a waeddodd arnoch chi am eich bod wedi gorffen y paced ‘Frosties’.

    Eich mam a wnaeth eich hoff frechdanau.
    Omar a wnaeth yn siwr eich bod yn croesi’r ffordd yn ddiogel.
    Eich ffrind a ddywedodd jôc wrthych chi a gwneud i chi chwerthin.
    Eich cymydog a adawodd i chi roi mwythau i’w gi, wrth i chi fynd heibio iddyn nhw.

    Fe ddechreuodd yr holl berthnasu yma gyda phobl eraill cyn i’r diwrnod ysgol gychwyn hyd yn oed!

  2. Rydym yn ffodus iawn o gael cymaint o berthnasoedd â phobl eraill. Mae llawer o blant o gwmpas y byd sydd heb fod mor ffodus.

    Darllenydd 1:  Mae rhai plant ym Malawi yn methu â mynd i’r ysgol oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw aros gartref i helpu’r teulu trwy wneud gwahanol dasgau. Maen nhw’n dlawd a does ganddyn nhw ddim teganau i chwarae â nhw. Weithiau, fe fydd eu rhieni yn gadael y pentref i fynd i lawr i’r dref i chwilio am waith. Weithiau, fe fydd eu perthnasau yn marw’n ifanc o achosion fel malaria, AIDS neu heintiau yn gysylltiedig â diffyg dwr glân. Weithiau, fe fydd plant yn cael eu gadael yn amddifad heb neb i ofalu amdanyn nhw. 

    Darllenydd 2:  Mae rhai plant yn Romania yn byw mewn cartrefi i blant amddifad. Weithiau, mae hynny’n digwydd oherwydd bod eu rheini wedi marw.  Weithiau, mae eu teuluoedd yn rhy dlawd i edrych ar eu holau ac maen nhw’n cael eu gadael. Does yna ddim digon o ddillad, teganau na gofalwyr. Nid yw’r plant yn cael y gofal y maen nhw’n eu haeddu.

    Darllenydd 3:  Cafodd rhai plant ar Ynys Haiti eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd yn dilyn y daeargryn yno fis Ionawr. Cafodd eu mamau a’u tadau eu lladd wrth i adeiladau ddisgyn ar eu pennau. Maen nhw wedi cael eu gadael yn unig heb gartref a heb neb i’w gwarchod. Maen nhw’n cerdded o gwmpas yn chwilio am fwyd a rhywle i gysgu.  Dydyn nhw ddim yn gwybod beth i’w wneud.

Amser i feddwl

Mae rhai o blant y byd sydd heb fod mor ffodus fel ni. Ble bydden ni heb berthnasoedd?

Gwrandewch yn ddistaw ar y geiriau canlynol.

Darllenydd 4:  Ble bydden ni heb ein brodyr a’n chwiorydd? Maen nhw bob amser yno pan fyddwn ni’n deffro. Maen nhw’n ein caru ni, hyd yn oed pan fyddwn ni’n cweryla â nhw.

Darllenydd 5:  Ble bydden ni heb ein ffrindiau? Maen nhw’n chwarae gemau efo ni.  Maen nhw’n gwneud i ni chwerthin a theimlo’n hapus.

Darllenydd 6:  Ble bydden ni heb ein hanifeiliaid anwes? Rydym wrth ein bodd yn eu hanwesu, oherwydd eu bod yn feddal a’u blew yn llyfn. Maen nhw’n gadael i ni ofalu amdanyn nhw.

Darllenydd 7:  Ble bydden ni heb ein hathrawon? Maen nhw’n ein helpu ni i ddysgu pethau newydd.  Maen nhw’n ein hannog ni i wneud y dewisiadau cywir.

Arweinydd:  Gwrandewch ar eiriau’r weddi hon.  Gallwch ddefnyddio’r weddi fel gweddi bersonol os mynnwch chi.

Gweddi

Dduw Dad,

Rydym yn diolch i ti am yr holl bobl yn ein bywydau, a diolch am ein hanifeiliaid anwes hefyd.

Helpa ni i gofio pa mor arbennig yw ein ffrindiau a’n teuluoedd i ni.

Rydym yn meddwl am yr holl blant yn y byd sydd heb fam na thad,

a’r holl blant sydd ddim yn cael y gofal y dylen nhw’i gael,

a’r holl blant sy’n anhapus o achos rhyfeloedd, tlodi ac afiechydon.

Helpa nhw i gael hyd i berthnasoedd, i gael bod yn iach, ac i fod yn hapus.

Diolch i ti am ein perthnasau, am ein hiechyd ac am ein hapusrwydd.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon