Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae Duw'n Hoffi I Ni Ddefnyddio Ein Corff

Nodi bod Duw’n llawenhau yn ein gallu corfforol.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Nodi bod Duw’n llawenhau yn ein gallu corfforol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cerddoriaeth dawns.
  • Gwobrau: fel bar bach o Mars a rhai melysion llai. Neu, efallai yr hoffech chi ddefnyddio gwobrau sy’n ddewis iachach. Gofalwch eu bod yn ddiogel ar gyfer rhai sydd ag alergedd.
  • Paratowch y gerddoriaeth thema o’r ffilm Chariots of Fire gan Vangelis i’w chwarae wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth ac wrth iddyn nhw fynd allan.
  • Mae’n bosib dod o hyd i fywgraffiad Eric Liddell ar www.ericliddell.org/eric-liddell/.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ymarfer gwneud ton Mecsico - ‘Mexican wave’ – gyda’ch cynulleidfa, o ochr i ochr ac o’r blaen i’r cefn. Os ydych chi’n ddigon hyderus efallai yr hoffech chi wneud hyn eilwaith gyda’r plant yn codi ac yn eistedd.

  2. Holwch y plant beth yw eu hoff chwaraeon. A holwch: Ydych chi’n meddwl bod Duw’n hoffi chwaraeon? Pam?

    Dywedwch wrth y plant bod Duw’n hoffi i ni ddefnyddio ein corff, dyma’r corff rydyn ni wedi ei gael gan Dduw - mae’n hoffi chwaraeon a dawnsio ac mae’n hoffi i ni fwyta ac yfed. Mae Duw yn meddwl bod hyn ‘yn dda iawn’.

  3. Gofynnwch am ddeg o blant i ddod atoch chi i ddawnsio. Eglurwch y bydd un yn cael gwobr: y dawnsiwr mwyaf brwdfrydig fydd yr enillydd.

    Chwaraewch y gerddoriaeth. Wrth i’r plant ddawnsio, yn raddol o un i un dewiswch naw, yn eu tro, i roi’r gorau i ddawnsio a’u hanfon yn ôl i’w lle - rhowch wobr fach yn gysur iddyn nhw am eu hymdrech. Gwnewch hyn yn weddol gyflym. A bydd yr enillydd, y dawnsiwr mwyaf brwdfrydig yn ennill y brif wobr.

  4. Anogwch y plant i fwynhau’r corff y mae Duw wedi ei roi iddyn nhw. Rhaid i bob un ohonom ofalu am ein corff, ac mae angen i ni ddiolch i Dduw am yr holl weithgareddau rydyn ni’n gallu eu gwneud.

  5. Dywedwch y stori (wir) am Eric Liddell o’r ffilm Chariots of Fire. Roedd Eric Liddell yn athletwr ac yn Gristion. Fe sylweddolodd Liddell bod Duw’n caru ei weld yn rhedeg. Fe ddywedodd wrth ei wraig, ‘Fe wnaeth Duw fi i allu rhedeg yn gyflym, a phan fydda i’n rhedeg, rydw i’n teimlo bod Duw wrth ei fodd.’

Amser i feddwl

Pan fyddwn ni´n cael hwyl, fe fydd Duw wrth ei fodd. Efallai bod angen i ni feddwl am hynny am foment neu ddwy. Os ydych chi’n credu yn Nuw, ai un felly ydych chi’n meddwl ydi Duw?

Fe allwn ni ddefnyddio ein corff i weddïo hefyd:

Gwahoddwch y plant i godi eu dwylo i fyny, a dweud yn ddistaw yn eu calon:
Diolch, Dduw.

Gwahoddwch y plant i wneud cwpan gyda’u dwylo o’u blaen, a dweud yn ddistaw yn eu calon:
Helpa fi, Dduw.

Gwahoddwch y plant i groesi eu breichiau dros eu brest, a dweud yn ddistaw yn eu calon:
Dysga fi sut i dy garu di, Dduw.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon