Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ennill, Colli a Chymryd Rhan

Annog y plant i feddwl am ennill a cholli, ond yn arbennig i feddwl am y manteision sydd i’w cael wrth gymryd rhan.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i feddwl am ennill a cholli, ond yn arbennig i feddwl am y manteision sydd i’w cael wrth gymryd rhan.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch bedwar o blant i ddarllen y llinellau.
  • Mae cyfle i chi ddefnyddio props trwy gydol y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Rydyn ni’n mynd i son am chwaraeon yn y gwasanaeth, heddiw. Mae cymaint o wahanol chwaraeon y byddwn ni’n mwynhau eu gwylio neu eu chwarae. Gofynnwch i’r plant droi at yr un sy’n eistedd agosaf ato a gweld faint o wahanol chwaraeon y gallan nhw eu henwi rhyngddyn nhw (rhowch funud neu ddau iddyn nhw wneud hyn).

    Fe fyddan nhw’n enwi pethau fel rhedeg a nofio, karate, golff, a phêl-droed wrth gwrs; beicio a sgïo; saethyddiaeth, rygbi a thennis, a llawer iawn mwy rwy’n siwr o chwaraeon amrywiol a mabolgampau.

    (Fe allech chi wneud hyn yn fwy diddorol trwy ddarparu bag o offer chwaraeon a gofyn i’r plant ddyfalu pa chwaraeon y mae’r offer yn gysylltiedig â nhw, wrth i chi dynnu pob un allan o’r bag yn ei dro.)

  2. Fe fydd llawer un ohonom ni wrth ein bodd yn chwarae gemau electronig hefyd. Gofynnwch i’r plant droi eto at yr un sy’n eistedd agosaf ato, a dweud wrth y naill a’r llall beth yw’r tair gêm electronig orau ganddyn nhw (rhowch funud neu ddau eto iddyn nhw wneud hyn).

    Mae’n bosib y byddwch chi’n gallu dweud oddi wrth y sgwrsio cyffrous ymysg y plant bod ganddyn nhw lawer o gemau electronig y maen nhw’n mwynhau eu chwarae.

  3. Ac mae’r rhan fwyaf o blant ac oedolion hefyd yn hoffi chwarae gemau bwrdd, yn enwedig ar adeg y Nadolig pan fydd y teulu wedi dod ynghyd. Gofynnwch i’r plant droi at yr un sy’n eistedd agosaf ato unwaith eto a dweud wrth y naill a’r llall ydyn nhw’n cofio pa gêm fwrdd y gwnaethon nhw ei chwarae ddiwethaf (rhowch funud neu ddau iddyn nhw wneud hyn eto). Mae gemau bwrdd yn gallu bod yn hwyl fawr i’r teulu cyfan.

  4. Er hynny, pan fyddwn ni’n chwarae gemau, mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi ennill, a’r rhan fwyaf o bobl ddim yn hoffi colli.

    Plentyn 1:  Rydw i’n hoffi gwneud gymnasteg. Pan fydda i ddim yn cael hwyl dda ar wneud y campau gymnasteg fe fydda i’n teimlo’n drist fel diwrnod glawog. Ond, pan fydda i’n llwyddo i wneud camp dydw i erioed wedi ei wneud o’r blaen, fe fydda i’n teimlo’n wych ac yn falch iawn ohonof fi fy hun.

    Plentyn 2:  (yn gafael mewn rheolydd PS2) Rydw i’n hoffi chwarae beicio cwad ar fy chwaraewr PS2. Rydw i’n teimlo’n rhwystredig pan fydda i’n colli lefel, ac fe fydda i’n ddig iawn. Pan fydda i’n ennill, rydw i’n teimlo fel pencampwr.

    Plentyn 3:  (yn cicio pêl-droed) Rydw i’n hoffi chwarae pêl-droed, hyd yn oed pan fydd fy nhîm i ddim wedi ennill, gan fy mod i’n hoffi cael chwarae gyda fy ffrindiau. Ond, pan fyddwn ni’n ennill gêm, dyna’r teimlad gorau yn y byd, ac fe fydda i’n teimlo’n hapus wedyn am weddill y diwrnod. Pan fyddwn ni wedi colli, dydw i ddim yn teimlo fel gwenu. Fe fydda i’n teimlo’n flinedig, yn oer ac yn ddiflas.

    Plentyn 4:  (yn dangos pecyn o gardiau ‘UNO’) Rydw i’n hoffi chwarae UNO gyda’r teulu. Rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn pan fydda i wedi cael gwared â’r cardiau i gyd a chael ennill y gêm. Fydda i ddim yn ennill yn aml, ond pan fydda i’n ennill rydw i’n teimlo’n ffantastig! Fe fydda i’n gweiddi hwre, ac yn neidio i fyny ac i lawr, ac mae pawb o’r teulu’n chwerthin!

  5. Mae ennill yn wych, ond pan fydd ennill yn bwysicach na chwarae’r gêm, mae rhywbeth o’i le, a dyna pryd y bydd pethau’n mynd o chwith. Fe fydd rhai pobl yn gwneud popeth yn eu gallu i geisio ennill.

    Fe fydd rhai pobl yn twyllo hyd yn oed er mwyn gofalu eu bod yn ennill. Efallai yn llawio’r bêl wrth chwarae pêl-droed, neu’n cymryd cyffuriau cyn gwneud mabolgampau. Fe fydd rhai ambell dro yn smalio eu bod wedi cael eu hanafu wrth chwarae rygbi. Dyma rai enghreifftiau o chwaraewyr yn twyllo. Dydi ennill ar ôl twyllo ddim yn ennill o gwbl!

    Weithiau, fe fydd rhai mor ddig pan fyddan nhw’n colli fel eu bod yn dechrau cam-drin eu gwrthwynebwyr, yn eu cam-drin ar lafar ac yn gorfforol. Mae rhai chwaraewyr yn fwriadol yn niweidio chwaraewyr y tîm arall er mwyn eu rhwystro rhag chwarae’n dda. Fe fydd cefnogwyr rhai timau yn gweiddi pethau cas ar aelodau’r tîm arall er mwyn tynnu eu sylw ac felly’n amharu ar eu chwarae.

    Ambell dro, fe fydd rhai chwaraewyr yn trin y canolwr yn annheg. Maen nhw’n rhoi’r bai ar y canolwr os ydyn nhw’n colli. Maen nhw’n cwestiynu dyfarniad y canolwr ac yn gwrthod derbyn y dyfarniad. Maen nhw’n gallu bod yn amharchus iawn.

    Ai ennill yw’r peth pwysicaf? Ydi o’n deimlad braf ennill hyd yn oed os ydych chi wedi twyllo er mwyn ennill?

  6. Nid dim ond er mwyn ennill rydyn ni’n chwarae gemau. Mae sawl rheswm pam rydyn ni’n chwarae gemau. (Efallai y gall y plant awgrymu rhai rhesymau yn ychwanegol at y rhai sy’n cael eu nodi yma, yn dilyn.)

    Mae chwarae gemau yn hwyl. Mae chwarae gemau yn ffordd dda o wneud ffrindiau. Mae chwarae gemau yn gwneud i ni chwerthin ac yn gwneud i deimlo’n gyffrous.

    Mae chwarae gemau yn ein dysgu sut i gydweithio â’n gilydd. Rydyn ni’n dysgu disgwyl ein tro ac yn dysgu parchu ein gilydd. Fe fyddwn ni’n gallu annog ein gilydd, a chanmol y naill a’r llall pan fydd rhywun yn llwyddo.

    Mae chwarae gemau yn rhoi cyfle i ni roi cynnig ar wneud rhywbeth gwahanol. Mae cael rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol yn ein helpu i weld beth rydyn ni’n gallu ei wneud yn dda a gweld beth rydyn ni’n ei fwynhau. Fyddech chi byth yn teimlo’n ddiflas pe byddech chi’n fodlon rhoi cynnig ar bob math o chwaraeon newydd y gallech chi gael cyfle i’w chwarae!

    Mae chwarae gemau yn helpu i’ch cadw yn iach, ac mae cadw’n iach yn bwysig iawn. Wrth fwyta’n iach ac ymarfer yn gyson, fe fyddwch chi’n helpu eich hun i fod yn gryf ac yn iach.

    Wrth fod yn rhan o unrhyw chwaraeon, fe allwch chi deimlo’n falch. Mae cymryd rhan yn gallu gwneud i chi deimlo eich bod chi wedi cyflawni rhywbeth.

Amser i feddwl

Gwrandewch ar y geiriau yma, a meddyliwch am yr hyn maen nhw’n ei olygu i chi.

Gadewch i ni ddiolch am yr holl wahanol chwaraeon rydyn ni’n gallu cymryd rhan ynddyn nhw.
Gadewch i ni ddiolch am yr holl wahanol chwaraeon rydyn ni’n gallu eu gwylio.
Gadewch i ni ddiolch am yr holl wahanol chwaraeon electronig a chwaraeon bwrdd rydyn ni’n gallu eu mwynhau.
Mae chwarae gemau yn hwyl fawr.

Mae ennill gêm yn gallu bod yn un o’r teimladau gorau yn y byd.
Ond dydi ennill ddim yn hollbwysig.

Gadewch i ni fod yn chwaraewyr da yn ein tîm bob amser - fel y byddwn ni’n cydweithredu, yn aros ein tro, yn parchu ein gilydd, yn annog ein gilydd, ac yn canmol ein gilydd hefyd.

Gadewch i ni gyd-chwarae’n hapus.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon