Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Daeargrynfeydd Ac Ati

Archwilio’r posibilrwydd o ddigwyddiadau digroeso yn ein bywyd, a digwyddiadau sy’n ein brawychu.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r posibilrwydd o ddigwyddiadau digroeso yn ein bywyd, a digwyddiadau sy’n ein brawychu.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ddelweddau o ddaeargrynfeydd diweddar, ac o bosib luniau golygfeydd o ganlyniadau’r tsunami yn 2004.

Gwasanaeth

  1. Holwch gwestiynau am ddaeargrynfeydd sydd wedi digwydd yn ddiweddar - Ymhle? Pa bryd? Beth ddigwyddodd? Eglurwch mai’r broblem gyntaf ynglyn â daeargryn yw ei fod yn anweledig ac yn ddirybudd. Er bod modd y dyddiau hyn i ragrybuddio pobl am ddaeargrynfeydd, ran amlaf dydyn nhw ddim yn cael unrhyw rybudd o’r perygl sydd yn eu hwynebu. Yn y rhanbarthau cyfoethog hynny o’r byd lle mae daeargrynfeydd yn debygol o ddigwydd, rhoddir cryn sylw i’r modd y mae adeiladau newydd yn cael eu codi, fel eu bod yn fwy tebygol o allu gwrthsefyll yn well a goroesi’r dirgryniadau.  Yn anffodus, fodd bynnag, mae llawer o’r gwledydd sydd ar y ffawtiau - ble mae daeargrynfeydd yn debygol o ddigwydd - gwledydd fel Haiti, yn wledydd tlawd iawn.

  2. Yr ail broblem yw bod daeargrynfeydd yn bellgyrhaeddol o ran amser a lleoliad.  Mae daeargrynfeydd sy’n digwydd o dan y môr yn gyfrifol am gychwyn tonnau enfawr. Ac mae’r tonnau rheini yn gallu symud ar draws cefnforoedd ac achosi difrod pan fyddan nhw’n cyrraedd arfordiroedd ynysoedd a gwledydd, wrth iddyn nhw fwrw i mewn i’w glannau fel ton llanw fawr neu tsunami.

    Bu tsunami ar ddydd San Steffan yn 2004. Chafodd yr ynysoedd oedd ar ei llwybr ddim rhybudd o’r hyn oedd yn mynd i ddigwydd. Yn awr, yn dilyn y trychineb hwnnw, mae llawer o wledydd wedi cael offer sy’n sicrhau eu bod yn gwybod os bu daeargryn ac os oes ton enfawr yn debygol o’u cyrraedd.

    Mae canlyniadau’r dinistr a’r dioddefaint sy’n cael ei achosi gan drychinebau naturiol weithiau yn cymryd blynyddoedd i’w hadfer.

  3. Beth all aflonyddu ar ein bywydau ni heddiw? Gallwn fod yn ddiolchgar ym Mhrydain bod daeargryn mawr yn annhebygol.

    Ond nid ydym yn gwybod beth all ddod i’n rhan ni yn ystod y dydd heddiw. Efallai y bydd rhai ohonom yma yn y gwasanaeth hwn yn gorfod wynebu pethau fydd yn ymddangos i ni mor fawr â daeargryn neu don llanw. Efallai y bydd rhywun yn gorfod wynebu rhywbeth annisgwyl, rhywbeth sydd yn ganlyniad i amgylchiadau neu weithred rhywun arall efallai. 

    Gall fod ffrind da iawn yn gorfod symud i ffwrdd, neu fod aelod o’r teulu’n mynd yn wael. Gall fod yn bryder oherwydd bod rhiant wedi colli gwaith, neu gall y meddwl am adael athro neu athrawes adnabyddus wrth symud dosbarth hyd yn oed fod yn peri gofid. Rydym yn galw digwyddiadau annisgwyl o’r fath weithiau yn ‘daranfolltau’, yn enwedig pan fyddan nhw’n digwydd yn ddirybudd.

  4. Allwn ni ddim osgoi newidiadau yn ein  bywydau, ond gall yr hyn ddigwyddodd wedi’r daeargrynfeydd diweddar roi gobaith i ni. Atgoffwch y plant pa mor fendigedig oedd gweld gwledydd y byd yn cydweithio i ddarparu cymorth brys i’r rhai oedd wedi dioddef trwy gael eu dal yn uwchganolbwynt y tirgryniad. (Efallai bod rhai o’r plant ac aelodau o’u teuluoedd, neu’r ysgol wedi anfon cyfraniad ariannol i’r gronfa gymorth.)

    Eglurwch fod yna bob amser filoedd o bobl garedig dros y byd i gyd yn rhoi’n hael o’u harian, o’u harbenigedd, a’u hamser, i wneud eu gorau glas er mwyn helpu’r dioddefwyr, waeth faint o drychinebau naturiol sy’n bod.  

Amser i feddwl

Gadewch i ni fyfyrio am ychydig funudau, a meddwl am yr holl bobl garedig sydd yn rhan o’n bywyd ni.
Rydym i gyd eisiau rhoi cymorth pan welwn ni bobl o’n cwmpas sy’n drist, yn ofnus ac wedi brifo.

Hyd yn oed pe byddai taranfollt yn ein taro ni heddiw, fe fyddai yno lawer o bobl o’n cwmpas wrth law i’n helpu ni trwy’r profiad.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Gweddïwn dros bobl sydd yn parhau i wella o effeithiau’r daeargrynfeydd diweddar.
Gofynnwn i ti barhau i ddarparu’r cymorth a’r cysur y maen nhw eu hangen
trwy garedigrwydd a chariad pobl eraill.
Rydym yn diolch i ti dy fod yn gwybod beth yw ein dyfodol ni hefyd, 
a pha beth bynnag a ddaw i’n rhan heddiw,
ac yn y dyddiau sydd i ddod, 
gofynnwn y byddi di’n darparu gofal a chymorth i ni trwy law pobl eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon