Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mynd I Hogwarts

Gwasanaeth diwedd blwyddyn ysgol

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cadarnhau'r cyffro o ‘symud ymlaen’ a’r llawenydd sydd i’w deimlo wrth ddarganfod.

Paratoad a Deunyddiau

Efallai y bydd arnoch chi angen rhyw fath o system sain ar gyfer y cyfweliadau.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ofyn i’r plant, “A fyddai unrhyw un ohonoch chi yma yn hoffi bod yn enwog?” Gwnewch y pwynt fod pobl enwog, yn ogystal â phobl sy’n ymwneud a meysydd adloniant a chwaraeon, hefyd yn cynnwys artistiaid ac ysgrifenwyr, cynllunwyr a dyfeiswyr; mathemategwyr, peirianwyr a gwyddonwyr; gwleidyddion ac arweinwyr busnes - pobl sydd â’u henwau wedi dod yn gyfarwydd iawn. 

  2. Gwahoddwch rai o’r plant i rannu gyda chi eu diddordebau a’u dyheadau. Siaradwch gyda rhai plant o wahanol ystod oedran. Gofynnwch iddyn nhw: “Sut fyddech chi’n hoffi dod yn enwog?” Gofalwch fod pob un sy’n cymryd rhan yn cael ei ganmol a’i galonogi.  

  3. Myfyriwch ar y ffaith ein bod, wrth fynd yn hyn, yn darganfod medrau a chryfderau newydd. Bydd y plant yn gwybod fod hynny’n wir yn achos un cymeriad ffug-lenyddol. Cynigiwch rywfaint o gliwiau i gynorthwyo’r plant enwi Harri Potter. Er enghraifft, yn un ar ddeg oed, roedd y person hwn yn amddifad, o gartref braidd yn anhapus. Cafodd wybod ei fod yn mynd i ysgol newydd, ac mae’n teithio yno ar y trên o Orsaf Kings Cross Station, oddi ar Blatfform 9¾! 

  4. Galwch i gof sut y gwnaeth Harri Potter sylweddoli ei fod yn enwog ymysg dewiniaid, ac yn cael ei gydnabod fel ‘y bachgen a fu fyw’. Enw ysgol newydd Harri oedd Hogwarts (Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth). Yn Hogwarts, fe ddarganfyddodd fod ganddo bwerau a doniau. Roedd ei brofiadau yn aml yn rhai dychrynllyd, ond o fyw trwyddyn nhw fe ddysgodd Harri fwy amdano’i hun. A thrwy’r cyfan o’i anturiaethau, fe ddarganfyddodd Harri bwysigrwydd cyfeillgarwch a dyfalbarhad.

  5. Myfyriwch ar y ffaith mai dyma’r cyfnod pryd y bydd rhai yn meddwl am yr adeg y maen nhw’n symud i ysgolion newydd. Trafodwch y pwynt ei fod yn rhywbeth naturiol i fod yn nerfus, ond y gobaith yw y bydd y mwyafrif yn teimlo’n gyffrous ac yn edrych ymlaen at y newid.  Fe ddysgodd Harri Potter bod dechreuad newydd yn dod â chyfle i ddarganfod y math o berson ydych chi yn y bôn.

  6. Dymunwch yn dda i bawb, yn enwedig y rhai sy’n symud ymlaen i ysgol newydd.  Mynegwch y gobaith, pa le bynnag y byddan nhw’n parhau eu hastudiaethau, y byddan nhw’n gwireddu eu dyheadau. Gorffennwch gyda’r syniad hwn: Pa mor fendigedig fydd hi os, yn y dyfodol, y gallwn ddweud ‘Ydych chi’n adnabod (enw) - y (gwyddonydd, actor, sêr chwaraeon, ddynes fusnes) enwog? Fe aeth i’r un ysgol â mi!’ Dyna beth fyddai dewiniaeth!

  7. Efallai y bydd ysgolion Eglwysig yn dymuno cynnig rhai geiriau o ysbrydoliaeth o’r Beibl - llyfr sydd wedi rhoi cymorth i bobl o bob oed ar eu taith trwy fywyd:

    Byddwch yn wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas; rhowch y blaen i’ch gilydd mewn parch. Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd. Llawenhewch mewn gobaith, safwch yn gadarn dan orthrymder, daliwch ati i weddïo.

    Llawenhewch gyda’r rhai sy’n llawenhau, ac wylwch gyda’r rhai sy’n wylo. Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd; gochelwch feddyliau mawreddog: yn hytrach, rhodiwch gyda’r distadl. Peidiwch â’ch cyfrif eich hunain yn ddoeth.

    Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni.  Trecha di ddrygioni â daioni.
    (Rhufeiniaid 12.10-12, 15-16, 21)

Amser i feddwl

Gall un o’r canlynol fod yn addas i ddod â’r gwasanaeth i ben:

Ewch mewn tangnefedd!
Boed i’r Arglwydd eich nerthu a’ch amddiffyn,
Boed i’r Arglwydd eich calonogi a’ch ysbrydoli,
Boed i’r Arglwydd eich bendithio a’ch arwain,
heddiw a phob amser. 

Am y cyfan a fu – Diolch!
Am y cyfan a fydd – Ie!

(Dag Hammarskjöld)

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon