Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydw I'n Lliwgar

Helpu’r plant i ddod yn ymwybodol o’r amrywiaeth tymer sy’n dod i’w rhan o ddydd i ddydd, ac egluro nad yw cariad Duw tuag atyn nhw ddim yn dibynnu ar sut dymer sydd arnyn nhw ar y pryd.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddod yn ymwybodol o’r amrywiaeth tymer sy’n dod i’w rhan o ddydd i ddydd, ac egluro nad yw cariad Duw tuag atyn nhw ddim yn dibynnu ar sut dymer sydd arnyn nhw ar y pryd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cerdyn neu bapur porffor, wedi’i dorri fel bod amlinelliad pigog iddo, ar gyfer y geiriau ‘dicllon’.
    Cerdyn neu bapur oren llachar neu felyn, siâp haul, ar gyfer y geiriau ‘hapus’.
    Cerdyn neu bapur llwyd, siâp diferyn glaw, ar gyfer y geiriau ‘trist’.
  • Ansoddeiriau, fel y rhai welwch chi’n dilyn, i’w gosod ar y siapiau priodol:
    ar gyfer y siâp pigog       ar gyfer y siâp haul       ar gyfer y siâp diferyn
    dig                                          hapus                           trist
    wedi gwylltio                           llon                              unig
    tymer ddrwg                           cyffrous                        pryderus
  • Paratowch y gerdd ‘Weithiau’ (gwelwch yr adran ‘Amser i feddwl’) i’w llefaru neu i’w harddangos ar fwrdd gwyn fel y gall pawb ddilyn y geiriau wrth i rywun arall ddarllen y gerdd.

Gwasanaeth

Os mai gweithgaredd grwp neu ddosbarth bach sydd gennych chi, fe fyddai’n bosib gwneud y gweithgaredd cyntaf fel gêm Amser Cylch.
Ar gyfer gwasanaeth gyda mwy o blant, efallai mai holi cwestiynau y byddwch chi’n dymuno ei wneud, gan ofyn i’r plant godi eu dwylo mewn ymateb i chi.

  1. Eglurwch i’r plant eich bod chi’n mynd i ddweud nifer o bethau gwahanol. Os yw’r datganiad y byddwch chi’n ei wneud yn wir amdanoch chi [y plant], yna, mae’n rhaid i chi godi at eich traed a newid lle gyda rhywun arall sydd wedi codi ar ei draed.

    Er enghraifft, pawb sydd â llygaid brown, pawb sy’n hoffi bresych, pawb sy’n dda am ddatrys problemau, pawb sydd â gwallt hir, pob bachgen, etc.

  2. Nodwch fod rhai pethau amdanom ni yr un fath, a rhai pethau’n wahanol.
    Roedd yn hawdd gweld beth oedd y pethau yma wrth i ni i gyd symud a newid lle, neu godi ein dwylo i ddangos hynny, ac roedd rhai pethau’n hollol amlwg i bawb.

    Weithiau mae’n hawdd gweld ym mha ffyrdd yr ydym yn debyg, dro arall dydi hynny ddim mor amlwg.

    Ydi hi’n hawdd dweud sut mae rhywun yn teimlo? Allwch chi ddweud bob tro y bydd gan eich mam gur yn ei phen? Allwch chi ddweud pan fydd eich athro yn teimlo’n drist? Allwch chi ddweud pan fydd eich ffrind yn teimlo’n ddig?

  3. Dangoswch y siapiau cerdyn lliw ac eglurwch fod gennych chi eiriau yn ymwneud â theimladau yr hoffech chi eu gosod ar y siapiau. Fydd y plant yn gallu eich helpu i osod y geiriau ar y siâp priodol? Fe allech chi ofyn i rai o’r plant ddod ymlaen i’ch helpu chi i osod yr ansoddeiriau yn y lle iawn.

    Wedyn, gofynnwch am wirfoddolwyr i ddod ymlaen ac ysgrifennu neu ludio eu henwau ar y siapiau lliw, fel bo’n briodol, yn ôl sut maen nhw’n teimlo ar y pryd.

    (Er mwyn gofalu bod gennych chi amrywiaeth o wahanol deimladau yn cael eu cynrychioli, fe allech chi wneud ychydig o waith ymchwil cyn y gwasanaeth. Ond efallai y byddwch chi’n gwybod eisoes am rai plant fydd yn teimlo’n gyffrous oherwydd rhyw newydd da am rywbeth sy’n digwydd yn eu bywyd; rhai eraill efallai sydd ychydig yn bryderus am rywbeth arall; a rhai o bosib all fod yn teimlo’n ddig neu’n teimlo fel grwgnach am rywbeth neu’i gilydd. Cofiwch y gallech chi, gyda’u caniatâd, gynnwys aelodau eraill o’r staff yn y gweithgaredd yma!)

    Yna gofynnwch: ‘Ydi’r plant a’r bobl yma yn teimlo fel hyn trwy’r amser?’

    Nodwch ei bod hi’n bosib i bawb ohonom ni brofi amrywiaeth o wahanol deimladau, hyd yn oed o fewn un diwrnod.

  4. Mae’r rhan fwyaf ohonom, yn hoffi’r teimladau da. Pan fydd hwyl dda arnom ni mae pobl eraill yn hapus yn ein cwmni. Wrth i ni fod mewn hwyliau da, fe allwn ni wneud i bobl eraill sydd o’n cwmpas ni deimlo’n dda ac yn hapus.
    Does neb ohonom yn hoffi’r teimladau drwg. Pan fyddwn ni mewn hwyliau drwg, fe allwn ni wneud i bobl eraill sydd o’n cwmpas ni deimlo’n ddrwg ac yn anhapus.
    Ond, fe fyddwn ni i gyd yn profi pob math o wahanol deimladau o dro i dro, efallai hyd yn oed heddiw. Yn union fel y tywydd a’r cymylau, fe fyddwn ni’n newid yn barhaus.

    Eglurwch y pethau canlynol:

    Mae’n iawn i deimlo’n ddig ambell dro. Mae pawb yn teimlo’n ddig weithiau.
    Mae’n iawn i deimlo’n drist ambell dro. Mae pawb yn teimlo’n drist weithiau.
    Mae’n iawn i deimlo’n bryderus ambell dro. Mae pawb yn teimlo’n bryderus weithiau.


    Fe allech chi roi’r theori yma ar brawf trwy ofyn i’r plant godi eu dwylo mewn ymateb i’r cwestiynau canlynol.

    Pwy sydd eisoes wedi teimlo’n gyffrous heddiw?
    Pwy sydd eisoes wedi teimlo’n drist heddiw?
    Pwy sydd eisoes wedi teimlo’n ddig heddiw?
    Oes rhywun wedi profi’r tri theimlad yma yn barod heddiw?

  5. Mae un peth na fydd byth yn newid, er i’n tymer neu’n hwyliau ni newid dro ar ôl tro. Y peth hwnnw yw cariad Duw tuag atom ni. Mae Duw’n ein hadnabod ni ac yn ein caru ni yn union fel rydyn ni, ac mae Duw yno bob amser i rannu’r teimladau yma gyda ni.

Amser i feddwl

Gwrandewch ar y gerdd ‘Weithiau’, neu trefnwch i arddangos y geiriau ar fwrdd gwyn a chael rhywun i’w darllen.

Weithiau

addasiad o gerdd gan Janice Ross

Weithiau dwi’n dawel -
dim yn swnian o hyd.
Fe fydda i’n fodlon a diwyd,
ac yn hapus fy myd.

Weithiau dwi’n swnllyd
fel dwn-i-ddim-be,
Rat-a-ta-tat ar y drwm,
a gwneud swn mawr dros y lle!

Weithiau dwi’n ddireidus,
yn llawn sbort a miri,
ac yn cael hwyl fawr wrth wneud
pob math o bethau digri.

Weithiau dwi’n ffeind,
fel y dylwn fod, wrth gwrs,
yn garedig a chymwynasgar,
ac yn stopio am sgwrs.

Weithiau dwi’n dda,
neu’n go-lew,
neu yn bla!
Neu, efallai, ddim awydd,
neu ddim am drio.

Efallai, weithiau, fe wna i grio!
Ambell dro bydd fy wyneb yn rhoi i chi’r ateb -
Sut bydda’ i heddiw?
Ys gwn i?
Tybed?

Gweddi

Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n ddiolchgar dy fod ti yn ein hadnabod ni’n dda iawn.
Diolch dy fod ti’n llawenhau gyda ni pan fyddwn ni mewn hwyliau da ac yn hapus,
a diolch dy fod ti’n drist pan fyddwn ni’n gofidio ac yn teimlo’n ddiflas.
Diolch dy fod ti’n deall ein teimladau, a diolch dy fod ti’n ein caru ni bob amser.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon