Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Bachgen A'r Danadl Poethion

Trafod pa mor bwysig yw dal ar gyfle bob amser, a phwysleisio pa mor bwysig yw defnyddio’n doniau i’r eithaf er mwyn gallu llwyddo mewn bywyd.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Trafod pa mor bwysig yw dal ar gyfle bob amser, a phwysleisio pa mor bwysig yw defnyddio’n doniau i’r eithaf er mwyn gallu llwyddo mewn bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Clipiau fideo YouTube o bobl sy’n gweithio’n ymroddgar iawn i ymarfer eu doniau, e.e. mynachod yn darllen, David Beckham yn ymarfer cicio at y gôl, gwyddonydd yn ailbrofi ei ddamcaniaethau, ac ati (gofalwch bod gan eich ysgol hawl i ddefnyddio YouTube).
  • Fe allech chi baratoi un o’r plant i ddarllen y stori fach sy’n dilyn.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch i’r plant pwy oedd Aesop, a chyfeiriwch at ei storïau.

  2. Gofynnwch i’r plant feddwl ym mha ffordd yr oedd Aesop yn debyg i Iesu Grist (y prif debygrwydd oedd ei fod yn adrodd storïau wrth dorfeydd, ac roedd neges ym mhob stori ac amcan pob neges oedd helpu pobl i fyw bywyd gwell).

  3. Darllenwch y stori ganlynol, sy’n un o storïau Aesop:

    Y Bachgen a’r Danadl Poethion

    Cafodd bachgen ei bigo gan ddail danadl poethion un tro. Fe redodd adref i ddweud wrth ei fam, gan gwyno, ‘Dim ond cyffwrdd y dail yn 

    ysgafn wnes i, ond mae’n boenus iawn, iawn.’

    ‘Ie, mae’n beth rhyfedd,’ meddai ei fam. ‘Y tro nesaf y byddi di’n cyffwrdd deilen danadl poethion, gafael yn dynn ynddi, ac fe fydd fel darn

    o sidan yn dy law. Fyddi di ddim yn cael dy bigo. Beth bynnag fyddi di’n ei wneud, gwna hynny gyda dy holl egni.’

  4. Rhowch gyfle i’r plant drafod beth maen nhw’n feddwl oedd Aesop eisiau i’r bobl ddysgu o’r stori. Y neges yn y stori yw: Beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud, gwnewch hynny gyda’ch holl egni.

  5. Holwch y plant sut y bydden nhw’n gallu perthnasu hyn i’n gwaith yn yr ysgol a’r hyn y gallwn ni ei gyflawni.

  6. Soniwch am rai pobl enwog, a sut y gwnaethon nhw ddefnyddio’u doniau. Er enghraifft, a ddaeth Rooney yn beldroediwr enwog trwy ddiogi a chicio’i sodlau o gwmpas y strydoedd lle'r oedd yn byw, a threulio’i amser yn smocio ac yn yfed? Sut rydych chi’n meddwl yr oedd rhywun fel Rooney yn treulio’i amser?

  7. Soniwch wrth y plant am David Beckham, a sut y gwnaeth fanteisio ar ei gyfle i ddod yn un o beldroedwyr enwocaf ein cyfnod.

  8. Trafodwch sut mae’r plant yn cael un cynnig da yn eu bywyd i gael addysg yn yr ysgol a chael cymwysterau priodol pan fyddan nhw’n ifanc. Mae sawl oedolyn wedi edifarhau llawer am iddyn nhw beidio gwneud eu gorau tra roedden nhw yn yr ysgol pan oedden nhw’n ifanc. Wrth gwrs, mae rhai yn cael ail gyfle, ond dywedwch wrth y plant fod cyfle iddyn nhw nawr gael gafael ar y dyfodol y bydden nhw’n dymuno’i gael ac y dylen nhw ymdrechu i wneud yn dda yn eu gwaith, nid yn unig mewn arholiadau ond ym mhob agwedd ar eu gwaith.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll, a gofynnwch i’r plant ystyried y meysydd yn eu bywyd lle byddai arnyn nhw, efallai, angen ‘gafael yn dynn yn y danadl poethion’.

Gweddi

Helpa ni i ddal ar ein cyfle bob amser, a gwneud hynny o ddifrif.
Helpa ni i ymdrechu i wneud popeth yn y ffordd orau bosib fel na fyddwn byth yn difaru peidio â thrio’n gorau glas.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon