Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Peidio Ag Anwybyddu: Gwasanaeth dechrau blwyddyn ysgol newydd

Annog y plant i roi croeso i blant eraill, ac i gynnwys eraill yn eu gweithgareddau.

gan Paul Sandford

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Annog y plant i roi croeso i blant eraill, ac i gynnwys eraill yn eu gweithgareddau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dim angen paratoi

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid, ac efallai roi eu dwylo dros eu llygaid. Gofynnwch iddyn nhw ydyn nhw’n gallu clywed rhywbeth doedden nhw ddim yn gallu ei glywed funud yn ôl? Ydyn nhw’n ymwybodol o bwy bynnag sydd yn eu hymyl, er nad ydyn nhw’n gweld hwnnw neu honno?

  2. Nawr, gofynnwch i’r plant agor eu llygaid eto  a gwrando ar y stori yma:

    Dyma stori, yn fy ngeiriau i fy hun, am Iesu Grist.

    Stori (seiliedig ar adnodau o’r Testament Newydd, Marc 10.46–52)

    Flynyddoedd lawer yn ôl, yn ninas Jericho, roedd dyn o’r enw Bartimeus yn byw. Doedd Bartimeus ddim yn gallu gweld. Roedd yn ddall.

    Doedd Bartimeus ddim yn gallu gweithio. Bob dydd, fe fyddai’n eistedd ar ochr y stryd yn begio. Fe fyddai’n dweud, ‘Rydw i eisiau bwyd. Allwch chi roi ychydig o arian i mi, os gwelwch yn dda, fel y gallaf fi brynu bwyd.’

    Fe fyddai’r rhan fwyaf o bobl yn ei anwybyddu ac yn cerdded heibio Bartimeus. Doedden nhw ddim yn ei weld nac yn gwneud unrhyw sylw ohono. Yna, un diwrnod, fe ddywedodd rhywun wrtho, ‘Mae Iesu’n dod yma heddiw.’


    Roedd Bartimeus wedi cyffroi trwyddo. ‘Mae Iesu’n dod yma! Mae Iesu’n dod yma!’ Neidiai i fyny ac i lawr yn llawn cyffro.

    ‘Bydd ddistaw!’ meddai’r bobl wrtho. ‘Rwyt ti’n mynd ar ein nerfau ni!’

    Ond doedd Bartimeus ddim am fod yn ddistaw. ‘Mae Iesu’n dod yma! Mae Iesu’n dod yma!’ gwaeddodd eto.


    Trwy’r bore, fe wrandawodd yn astud gan ddisgwyl clywed swn tyrfa yn dod, tyrfa o bobl a oedd yn dilyn Iesu. Ac yn fuan fe glywodd swn traed llawer o bobl yn cerdded i’w gyfeiriad, a phawb yn sgwrsio’n gyffrous. ‘Mae Iesu’n dod! Mae Iesu’n dod!’ gwaeddodd Bartimeus eto.

    Dywedodd y bobl oedd wrth ei ymyl, ‘Bydd ddistaw! Fydd gan Iesu ddim diddordeb ynot ti. Wnaiff o ddim sylw ohonot ti!’

    Deth y dyrfa yn nes. Dechreuodd Bartimeus weiddi’n uchel, ‘Iesu, Iesu helpa fi!’

    Arhosodd Iesu, ac fe ddywedodd, ‘Dewch â’r dyn acw ataf fi.’

    Yn awr roedd y bobl oedd wedi bod yn dweud, ‘Bydd ddistaw!’ wrth Bartimeus yn dweud, ‘Tyrd gyda ni. Mae Iesu’n galw arnat ti. Mae eisiau dy weld di.’

    Neidiodd Bartimeus ar unwaith a mynd gyda nhw, gan adael ei glogyn ar ôl. Roedd wedi cynhyrfu’n lân! Gafaelodd yn llaw rhywun ac fe aethon nhw at Iesu.

    Gofynnodd Iesu iddo, ‘Beth wyt ti eisiau i mi ei wneud i ti?’

    Atebodd Bartimeus Iesu’n syth heb betruso dim. ‘Athro,’ meddai, ‘rydw i eisiau gallu gweld!’

    Dywedodd Iesu wrtho ‘Dos! Mae dy ffydd wedi dy iachau.’


    Trodd Bartimeus i fynd oddi yno. Yn sydyn, roedd ei lygaid yn teimlo’n wahanol. Roedd yn gallu gweld y bobl o’i gwmpas. Roedd yn gallu gweld ei ddwylo ei hun. Roedd yn gallu gweld lliw'r ffordd a siâp y tai. Edrychodd i’r awyr ac fe welodd yr adar yr oedd wedi arfer mwynhau gwrando arnyn nhw’n canu.

    Roedd Bartimeus yn hapus dros ben. ‘Rwy’n gallu gweld!’ meddai. ‘Rwy’n gallu gweld!’

    Edrychodd ar hyd y ffordd i weld i ba gyfeiriad yr oedd Iesu’n mynd. Rhedodd i nôl ei glogyn, ac yna fe redodd ar ôl Iesu ac ymuno â’r dyrfa oedd yn ei ddilyn.

  3. Gofynnwch i’r plant sydd yn y gwasanaeth sut y maen nhw’n meddwl yr oedd Bartimeus yn teimlo pan oedd y bobl yn dweud wrtho am fod yn ddistaw ac yn ei anwybyddu? Oes rhywrai yn eich dosbarth chi allai gael eu hanwybyddu? Efallai dydyn nhw ddim yn ddall, ond efallai eu bod yn cael trafferth wrth wneud ambell beth neu’n teimlo’n lletchwith weithiau. Beth allech chi ei wneud i’w cynnwys yn eich gweithgareddau a gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus?

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant gau eu llygaid eto. Ydyn nhw’n gallu meddwl am rywun allai fod angen eu help?

Nawr, gofynnwch iddyn nhw agor eu llygaid. Dywedwch wrth y plant am gofio defnyddio’u llygaid i sylwi ar bobl eraill fyddai angen eu help efallai.

Gweddi
Dad nefol,
rwyt ti’n gweld pob peth,
ac rwyt ti’n ein caru ni’n fawr.
Helpa ni i sylwi ar y bobl o’n cwmpas,
yn enwedig y rhai hynny sy’n teimlo’n unig neu yn cael eu hanwybyddu.
Helpa ni i fod yn ffrindiau da iddyn nhw.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon