Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Brwydr Prydain

Cofio am adeg pan oedd cymaint yn dibynnu ar nifer fach iawn.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Cofio am adeg pan oedd cymaint yn dibynnu ar nifer fach iawn.

Paratoad a Deunyddiau

Casglwch ddelweddau o Gofeb Brwydr Prydain yn Llundain (Battle of Britain memorial). Edrychwch, er enghraifft, ar y set o luniau sydd i’w gweld gan awdur testun y gwasanaeth yma ar y wefan: http://www.flickr.com/photos/assemblies/sets/72157624037298497/, lluniau y gallwch chi eu defnyddio ar gyfer cyflwyno’r gwasanaeth yma. Mae’n bosib i chi gael rhagor o ddelweddau wrth ddefnyddio peiriannau chwilio (ond efallai mai yn ôl amodau hawlfraint y bydd yn bosib defnyddio rhai o’r rheini).

Gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar Ddiwrnod Brwydr Prydain, sy’n cael ei gadw’n flynyddol ar 15 Medi, ond fe ellir ei ddefnyddio ar achlysuron eraill pan fydd yr Ail Ryfel Byd yn rhan o gwricwlwm yr ysgol.  Gyda chyflwyniad wedi ei addasu, gellir defnyddio’r deunydd hwn fel gwrthrych myfyrdod ar Ddydd y Cofio. 

  1. Eglurwch fod 15 Medi yn Ddydd Brwydr Prydain. Brwydr yn yr awyr oedd Brwydr Prydain, gafodd ei hymladd gan y Llu Awyr Brenhinol yn yr awyr dros dde Lloegr yn ystod yr haf yn y flwyddyn 1940.  Roedd lluoedd milwrol yr Almaen wedi goresgyn Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a Ffrainc, ac roedden nhw’n paratoi i oresgyn Prydain hefyd, ond bu dewrder a dyfalbarhad ychydig o awyrenwyr yn ddigon i’r cynllun hwnnw gael ei newid. 

  2. Defnyddiwch rai delweddau o Frwydr Prydain i amlinellu’r elfennau hynny o’r stori am Frwydr Prydain.  Dywedwch:

    Caiff Brwydr Prydain ei choffau gyda chofeb a ddadorchuddiwyd ym mis Medi 2005.  Mae’r gofeb honno i’w gweld ar lan yr Afon Tafwys, (Victoria Embankment) sydd gyferbyn â’r olwyn fawr, y ‘London Eye’.

    Mae cynllun y gofeb yn un dramatig iawn. Yng nghanol un o’r panelau, mae darluniau maint llawn o beilotiaid yn ‘sgramblo’ neu’n rhedeg ar wib at eu hawyrennau. Roedd y mwyafrif o’r peilotiaid yn ddynion ifanc, ond roedden nhw’n ddewr a phenderfynol.

    Roedd y ‘Spotters’ (pobl ar y llawr gydag ysbienddrychau) yn edrych i fyny i’r awyr i chwilio am awyrennau’r gelyn, yn rhai cyflym ymosodol a’r bomwyr oedd yn arafach, awyrennau a fyddai’n hedfan i ddechrau gyda’r bwriad o ddinistrio meysydd awyr a mastiau radar. Bob tro y byddai’r spotters yn gweld yr awyrennau byddai peilotiaid y Llu Awyr yn prysuro i geisio eu saethu i lawr.

    Roedd y bobl yn gwylio’n bryderus wrth i’r brwydrau awyrol ddigwydd uwch eu pennau yn yr awyr. (Sut y byddech chi wedi teimlo?) Roedd Llu Awyr Prydain (yr RAF) yn y lleiafrif o’i gymharu â Llu Awyr y gelyn. Yn ystod y frwydr, a barodd am wythnosau lawer, collwyd bron i 800 o awyrennau’r RAF a chafodd dros 500 o beilotiaid eu lladd.

    Fel yr oedd y dyddiau a’r wythnosau yn mynd rhagddynt, roedd y peilotiaid a’r criw cynnal ar y ddaear, a oedd yn cadw eu hawyrennau yn barod i hedfan, yn blino’n arw. Roedd posibilrwydd mawr na fyddai modd atal y gelyn.

    Ymhen hir a hwyr, dechreuodd Llu Awyr yr Almaen, y  Luftwaffe, ymosod yn ddyddiol ar drefi a dinasoedd Prydain yn yr hyn gafodd ei alw’n ‘Blitz’. Mae’r gofeb yn dangos beth ddigwyddodd yn Llundain.  Cafodd llawer o adeiladau eu dinistrio. Cafodd pobl eu hachub o’r adeiladau oedd wedi eu difrodi. Yn wyrthiol, ni chafodd un Eglwys Gadeiriol ei tharo gan yr un o’r bomiau.

    Roedd yn gyfnod ofnus a dychrynllyd iawn, ond cafodd ysbryd y bobl ei gynnal gyda phaneidiau o de mewn llochesau cyrch awyr. Gwnaeth pawb eu gorau glas i gynnal ei gilydd yn ystod y rhyfel. Treuliodd y merched oriau maith yn gweithio yn y ffatrïoedd arfau rhyfel, yn gwneud bwledi a bomiau fyddai’n cael eu defnyddio yn y brwydrau.

    Roedd 15 Medi 1940 yn ddiwrnod o ymgyrchoedd bomio trwm gan y gelyn ac roedd peilotiaid yr RAF wedi eu cyfyngu hyd yr eithaf. Fodd bynnag, cafodd llawer o awyrennau’r Almaen eu dinistrio, ac roedd hi’n ymddangos fel pe byddai buddugoliaeth wedi ei hennill. Yn fuan wedyn rhoddodd Hitler y gorau i’w gynlluniau i oresgyn Prydain, er i’r ymgyrchoedd bomio gyda’r nos barhau gan achosi difrod eang i ddinasoedd mawrion. 

    Ar gofeb Brwydr Prydain gellir gweld enwau yn agos at 3000 o beilotiaid ac awyrenwyr a fu’n brwydro ym Mrwydr Prydain. Roedd un o bob chwech ohonyn nhw yn dod o wledydd tu allan i Brydain. Cafodd eu henwau eu grwpio yn unol â’r wlad yr oedden nhw’n ei chynrychioli.

    Ar y gofeb hefyd mae arysgrif o eiriau enwog Syr Winston Churchill: ‘Never in the field of human conflict was so much owed by so many to so few.’

  3. Myfyriwch ar y ffaith fod Diwrnod Brwydr Prydain yn achlysur i fod yn ddiolchgar am ddewrder yr ychydig rai a’n cynorthwyodd i ennill y rhyddid y mae llawer yn ei fwynhau heddiw. Fe newidiodd ymdrech a dyfalbarhad y peilotiaid a fu’n ymladd yn y frwydr hon gwrs hanes.  Gwelir ymrwymiad a dewrder cyffelyb hyd heddiw gan aelodau o’r Lluoedd Arfog. (Gellir cyfeirio at y gwrthdaro yn Afghanistan).

  4. Mae’n bosib hefyd i ddiweddu trwy fyfyrio ar y ffaith, mewn bywyd yn y gymuned ac yn yr ysgol, bod arweinyddiaeth a dyfalbarhad ychydig o bobl yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Cyfeiriwch at brosiect cymunedol lleol neu fenter yn  yr ysgol, gan amlygu sut y gall ymrwymiad ychydig o bobl annog ac ysbrydoli llawer o rai eraill. Yn wir, mae yna gyfnodau o hyd lle mae cymaint  yn dibynnu ar yr ychydig rai.

Amser i feddwl

Gweddi

Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n cofio’n dawel am hanes Brwydr Prydain (the Battle of Britain) . . .
dewrder a phenderfyniad ychydig rai . . .
a wnaeth gymaint dros lawer o bobl.
Mae’n hawdd i ni gymryd ymdrechion pobl eraill yn ganiataol . . .
Gad i ni beidio â’u hanghofio, byth.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon