Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyl Fwslimaidd Eid Ul Fitr

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Deall ystyr yr wyl grefyddol Fwslimaidd hon.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ofyn i’r plant pa wyliau crefyddol sy’n gyfarwydd iddyn nhw.

Arweiniwch y plant i feddwl am y gwahanol wyliau crefyddol a’r rhesymau pam y maen nhw’n cael eu dathlu, e.e. does gan y Nadolig ddim i’w wneud a Siôn Corn os ydych chi’n ystyried y gwir ystyr crefyddol.

Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod am unrhyw wyl Fwslimaidd.

Arweiniwch y drafodaeth at Ramadan ac Eid.

Beth mae’r plant yn ei wybod am Eid? Eglurwch fod gwyl Eid, fel gwyl y Pasg, ddim yn digwydd ar yr un dyddiad bob blwyddyn. Mae’r dyddiad yn newid yn unol â gweddau’r lleuad.

Eglurwch fod plant sy’n Fwslimiaid yn cael diwrnod o wyliau o’r ysgol ar ddiwrnod Eid oherwydd ei fod yn ddydd gwyl arbennig iawn yn eu crefydd.

  1. Cyflwynwch y syniad o Bum Piler Islam - rhestrwch nhw fel grwp ar siart troi neu fwrdd gwyn:

(1) Ffydd neu gred yn Undod Duw a therfynoldeb proffwydoliaeth Muhammad (pbuh);

(2) Sefydliad y gweddïau dyddiol;

(3) Gofal am bobl sydd mewn angen a rhoi cyfraniadau tuag at elusennau;

(4) Puro’r hunan trwy ymprydio;

(5) Y bererindod i Makkah gan bob un sy’n abl i wneud hynny.

  1. Gofynnwch i’r plant awgrymu pa biler y maen nhw’n meddwl y mae gwyliau Ramadan and Eid yn ymwneud a nhw? Eglurwch fod Eid ul Fitr yn dilyn Ramadan, cyfnod pan fydd Mwslimiaid yn ymprydio am 30 diwrnod (dim i’w fwyta tra mae golau dydd, ar wahân i ddwr i’w yfed). Pwysleisiwch ei bod yn haws ymprydio fel hyn yn ystod dyddiau’r gaeaf pan fydd y dyddiau’n fyrrach - ond eleni, am fod yr wyl yn ystod mis Medi, fe fydd yn fwy anodd gwneud hyn!

Holwch y plant ydyn nhw wedi ymprydio ryw dro. Trafodwch sut deimlad oedd hynny’n - anodd neu’n hawdd. Gofynnwch i’r plant ddychmygu sut bydden nhw’n teimlo ar ôl ymprydio am 30 diwrnod, a beth fyddai pobl yn debyg o fod eisiau ei wneud pan fyddai’r cyfnod o ymprydio’n dod i ben.

Eglurwch mai gwyl yw Eid ul Fitr sy’n dathlu diwedd Ramadan a gweithred y Mwslimiaid o hunan buro er mwyn eu Duw.

  1. Adroddwch y stori sy’n dilyn am Eid ul Fitr:

Roedd hi’n ddiwrnod o ddathlu ac yn ddydd o lawenhau. Roedd awyrgylch hapus ar strydoedd Megina. Roedd pawb, yr hen a’r ifanc, wedi gwisgo eu dillad gorau yn arbennig ar gyfer y diwrnod neilltuol yma, sef Eid Ramadan.

Roedd hi’n gynnar yn y bore ac yn amser i adrodd gweddïau cyntaf y dydd, ac roedd pawb yn mynd i’r darn tir agored y tu allan i ddinas Megina. Cyrhaeddodd y Proffwyd Muhammad (moliant a fo iddo praise be upon him) ac fe arweiniodd pawb trwy’r gweddïau. Wedi iddyn nhw orffen gweddïo, cyfarchodd pawb ei gilydd ac aeth pawb yn ôl i’w cartrefi. Roedd y plant yn rhedeg ac yn chwarae’n hapus gan wenu a chwerthin heb bryder yn y byd.

Wrth i’r Proffwyd Muhammad (moliant a fo iddo praise be upon him) gerdded adref hefyd, fe welodd fachgen bach (Zuhair Bin Saghir) yn eistedd ar ben ei hun wrth ymyl y llwybr. Roedd y bachgen yn crio ac yn edrych yn ddigalon iawn. Plygodd y Proffwyd Muhammad (moliant a fo iddo praise be upon him) i lawr a gofyn yn garedig iddo, ‘Pam rwyt ti’n crio?’ ‘Gadewch fi’n llonydd, os gwelwch yn dda,’ meddai’r bachgen gan ddal i grio. Doedd y bachgen ddim hyd yn oed wedi edrych i weld pwy oedd yn siarad ag o. Rhoddodd y  Proffwyd Muhammad (moliant a fo iddo praise be upon him) ei law yn garedig ar ben y bachgen a rhedeg ei fysedd trwy ei wallt. Gofynnodd yn garedig iddo eto pam yr oedd yn crio. Y tro yma fe atebodd y bachgen. ‘Mae fy nhad wedi cael ei ladd, fel merthyr, wrth ymladd dros yr hyn yr oedd yn ei gredu, a nawr mae fy mam wedi ail briodi ac mae fy llystad yn gwrthod gadael i mi fyw yn fy nghartref. Mae heddiw’n ddydd Eid Ramadan ac mae pawb, i fod, yn hapus. Mae’r plant eraill i gyd wedi cael dillad newydd a phob math o ddanteithion i’w bwyta, ond does gen i ddim dillad ar wahân i’r rhain sydd gen i amdanaf. Does gen i ddim bwyd. Does gen i ddim lle i fyw, hyd yn oed.’

Dywedodd y Proffwyd Muhammad (moliant a fo iddo praise be upon him) wrtho, ‘Rydw i’n gwybod sut rwyt ti’n teimlo. Fe gollais innau fy nhad a fy mam pan oeddwn i’n blentyn.’ Roedd y bachgen wedi synnu pan glywodd hynny, ac mai rhywun amddifad fel fo oedd yn ceisio’i gysuro yn awr. Edrychodd i fyny ac fe synnodd fwy pan welodd mai’r Proffwyd Muhammad (moliant a fo iddo praise be upon him) oedd yno. Neidiodd i fyny ar unwaith, o barch iddo ac o gariad tuag ato.

Dywedodd y Proffwyd Muhammad (moliant a fo iddo praise be upon him) wrth y bachgen, ‘Pe byddwn i’n dod yn dad newydd i ti a fy ngwraig i’n fam newydd i ti, a fy merch yn chwaer newydd i ti, fyddai hynny’n gwneud i ti deimlo’n well?’ ‘O byddai, yn wir,’ atebodd y bachgen, ‘dyna’r peth gorau allai ddigwydd i mi!’ Dechreuodd y bachgen wenu. Aeth y Proffwyd Muhammad (moliant a fo iddo praise be upon him) â’r bachgen gydag ef i’w gartref, rhoi dillad newydd iddo, a bwyd da i’w fwyta, ar y diwrnod hapus hwn, sef Eid Ramadan. Yn wir, fe gafodd y bachgen achos i ddathlu a chafodd ddydd Eid Ramadan hapus iawn.

  1. Holwch beth yw’r foeswers neu’r neges sydd yn y stori?

    Moeswers: Fe ddylem ni feddwl am bobl eraill sy’n llai ffodus na ni ein hunain ar y diwrnod hyfryd hwn o Eid Ramadan. Nid yw pawb yn cael diwrnod mor hyfryd â ni, efallai. Mae’n ddiwrnod o ddathlu, ond treuliwch foment yn meddwl am y rhai hynny sydd yn llai ffodus na ni, trwy ddilyn esiampl y Proffwyd Muhammad (moliant a fo iddo - praise be upon him).

Amser i feddwl

Treuliwch foment yn meddwl am y ddisgyblaeth o ymprydio am 30 diwrnod yn ystod oriau golau dydd. Tybed pa mor anodd yw hynny?

Nawr, meddyliwch am sut y mae pawb yn teimlo wedyn yn ystod gwyl Eid, wrth iddyn nhw wledda a dathlu gyda’i gilydd.

Sut y bydden ni’n gallu helpu rhai eraill llai ffodus na ni? (Fe allech chi atgoffa’r plant am waith y mae’r ysgol yn ei wneud, efallai, sy’n ymwneud ag elusen neilltuol. )

Gweddi
Helpa ni i feddwl am bobl eraill sy’n llai ffodus na ni.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon