Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bwnsh O Fananas : Gwasanaeth bywiog ac egnïol

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl pa mor bwysig yw bod ag agwedd bositif a rhagolwg cadarnhaol wrth ymwneud â chymuned yr ysgol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewch ag wyneb siriol (eich wyneb chi!) I’r gwasanaeth, bwnsh o fananas melyn, ac un fanana sengl (siâp crwm).

Gwasanaeth

(Os bydd y gwasanaeth yma’n cael ei gyflwyno’n gynnar yn y flwyddyn ysgol newydd, fe fyddai’n bosibl rhoi’r pwyslais ar y wên, yn adran 2, fel arwydd o groeso. Fe fyddai’n bosib hefyd ymestyn adran 3 i nodi bod y profiad o fod yn rhywun newydd mewn lle newydd yn brofiad heriol. Felly, fe allai’r aelodau sydd yn y dosbarth eisoes helpu’r plant newydd i setlo yn y dosbarth a gwneud iddyn nhw deimlo’n rhan ohono.)

  1. Dechreuwch yn hwyliog a siriol trwy ddweud yr hoffech chi wahodd pawb i fod yn gadarnhaol, i feddwl yn gadarnhaol ac i weithredu’n gadarnhaol trwy gydol y dydd/ yr wythnos/ y tymor/ y flwyddyn sydd i ddod. Cyflwynwch y peth y byddwch chi’n canolbwyntio arno yn y gwasanaeth yma, sef bwnsh o fananas. Gallwch gyfeirio at y dywediad Saesneg ‘going bananas’ - sy’n golygu bod rhywun yn ymddwyn yn hollol wirion. Ar yr un pryd, mae gennych chi rai pethau y gallwch chi feddwl o ddifrif amdanyn nhw wrth sôn am fananas, ond eich bod chi’n gallu gwneud hynny mewn ffordd hwyliog.
  1. Fe allai rhywun ddweud bod bwnsh o fananas yn rhywbeth HWYLIOG a SIRIOL. Mae eu lliw yn lliw hapus a chadarnhaol - lliw melyn. Mae siâp y bananas, wrth iddyn nhw dyfu, yr un siâp â gwên. (Daliwch y fanana sengl, siâp crwm, yn llorweddol i gyfleu’r syniad o geg yn gwenu). Pwysleisiwch fod pawb yn gallu gweithio a dysgu’n well mewn awyrgylch hapus. Mae’r rhai hynny sy’n dod i’r ysgol gyda gwên ar eu hwynebau yn dod â llawer o hapusrwydd i bobl eraill sydd o’u cwmpas hefyd. Ac os bydd rhywbeth yn digwydd i wneud i ni deimlo’n drist (trowch y fanana y ffordd arall), dyna pa bryd y bydd yr wyneb hapus arall, a chlust garedig i wrando, yn gallu gwneud llawer i helpu, (troi’r fanana fel roedd o’r blaen i gyfleu’r wên). (Os oes cynllun cyfaill ‘buddy’ yn yr ysgol, fe allech chi gyfeirio’n fyr at hynny yma.)

  2. Meddyliwch eto am y bananas, maen nhw’n TYFU GYDA’I GILYDD MEWN BWNSH MAWR CLOS. Mae pob clwstwr fel llaw. Mae ysgol yn lle y bydd pawb (ifanc a hen) yn gallu bod yn unol gyda’i gilydd, ac yn gallu dysgu gyda’i gilydd. Mae pob dosbarth yn rhywbeth y gall gwahanol bobl fod yn rhan ohono. Wedi i chi feddwl am hyn, tybed pa ddosbarth fydd y dosbarth gorau a’r bwnsh gorau? Ble bydd y dwylo a fydd yn helpu? Pan fydd pethau’n anodd, fyddwch chi’n cadw’n glos at eich gilydd?

  3. Yn drydydd, nodwch fod bananas yn fwyd sy’n LLAWN EGNI. Mae angen llawer o egni arnom ni i ddysgu ac i fwynhau ein hunain yn yr ysgol. Rydyn ni’n cael rhywfaint o egni wrth ofalu amdanom ein hunain yn y ffordd iawn - trwy gael noson dda o gwsg, bwyta brecwast da bob bore, a bwyta bwydydd iach eraill yn ystod y dydd hefyd, ac efallai fwyta banana yn ystod egwyl y bore!  Egni arall sy’n bwysig i ni yw egni ysbrydol, ac mae’r egni hwnnw’n llifo o’n cariad ni tuag at Dduw, tuag at bobl eraill sydd o’n cwmpas, a’n cariad at yr holl fyd. Pwysleisiwch eich bod yn gobeithio y bydd pob aelod o gymuned yr ysgol yn ymgymryd â phob tasg a her gyda brwdfrydedd.
  1. Wrth gyfeirio am y tro olaf at y ffrwyth, fe allech chi ddiweddu’r gwasanaeth trwy ddweud y bydd pawb nawr yn gweld nad ydych chi’n ‘hollol bananas’ mewn gwirionedd! Ond mae’r ffrwyth yn cynrychioli’r pleser o fod yn rhan o GYMUNED YSGOL HWYLIOG A SIRIOL, CYMUNED UNEDIG, LLAWN EGNI. Gan gadw’r pwyntiau hyn mewn cof, dymunwch ddydd da, ‘hollol bananas’ i bawb!

Amser i feddwl

Gofynnwch i bawb dreulio ychydig o amser yn meddwl a gweddïo:

Meddyliwch pam y mae’n braf cael bod yn fyw . . . a gwenwch.
Meddyliwch am y ffrindiau rydych chi’n hoffi bod yn eu cwmni . . . a byddwch yn ddiolchgar.
Meddyliwch am yr holl bethau a fydd yn digwydd heddiw . . . a theimlwch yn gyffrous am y pethau hynny!

a/neu

Gweddi

Arglwydd Dduw, rwyt ti’n rhoi i ni
y llawenydd o gael bod yn fyw,
cwmni pobl eraill,
a chyfleoedd a ddaw gyda phob dydd newydd.
Bendithia gymuned yr ysgol hon,
a phob un sy’n aelod o gymuned yr ysgol,
heddiw a phob amser.

Efallai yr hoffai cymunedau ysgolion eglwys fyfyrio ar eiriau Paul yn ei Lythyr at y Galatiaid, yn y Testament Newydd, sy’n cyfeirio at ffrwyth Ysbryd Duw:

‘Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth. Nid oes cyfraith yn erbyn rhinweddau fel y rhain.’ (Galatiaid 5.22-23).

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon