Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cynhaeaf Bwyta'n Dda: Dathliad cynhaeaf iach ysgol gyfan

Dathlu’r cynhaeaf a helpu’r plant i ddeall bod diet cytbwys ac amrywiol yn bwysig i ni.

gan The Revd Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu’r cynhaeaf a helpu’r plant i ddeall bod diet cytbwys ac amrywiol yn bwysig i ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddwch angen bwrdd crwn tua 90-cm mewn diamedr, neu gylch tebyg wedi’i orchuddio â lliain. Rhannwch gylchedd y bwrdd yn draeanau. Yna, gwnewch israniadau ym mhob traean yn ôl llinellau’r ‘plât bwyta’n dda’. Torrwch ddalennau papur lliw i ffitio’r gwahanol rannau.
  • Fe fydd arnoch chi angen amrywiaeth helaeth o fwydydd i gynrychioli gwahanol gydrannau diet cytbwys iach. Casglwch:
    - amrywiaeth da o ffrwythau a llysiau, rhai ffres a rhai mewn tuniau
    - amrywiaeth o fara, pasta, reis a thatws
    - cynnyrch llaeth, fel llefrith, iogwrt a chaws (cadwch y rhain yn oer, neu defnyddiwch bacedi gwag)
    - tuniau cig a physgod (neu bacedi gwag o fwydydd wedi’u rhewi), ffa ac wyau
    - rhai byrbrydau, fel bariau siocled, bisgedi, creision.
  • Mae’n bosib i’r gwasanaeth yma fod yn ddathliad ar y cyd, gyda gwahanol aelodau o gymuned yr ysgol yn dod ymlaen ac yn gosod y gwahanol fwydydd ar y bwrdd, a chymryd rhan hefyd yn y rhannau naratif a’r canu.
  • Os byddwch chi’n cyflwyno ‘Cynhaeaf Bwyta’n Dda’  i gynulleidfa sylweddol, fe allech chi dynnu lluniau’r gwahanol gamau, a’r eitemau bwyd, o flaen llaw, fel y gallwch chi eu harddangos fel cyflwyniad PowerPoint.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch gydag emyn diolchgarwch, a nodwch fod adeg y cynhaeaf yn adeg i ni fod yn ddiolchgar ein bod yn gallu ‘bwyta’n dda’. Cyfeiriwch at yr holl wahanol fathau o fwydydd sydd ar gael yn ein harchfarchnadoedd lleol. Mae bwydydd sydd wedi eu cynaeafu ledled y byd yn cael eu cario i’r siopau, ac mae masnachwyr yn cymryd pob gofal i wneud yn siwr fod y bwyd yn ffres ac yn dda. Mae bwyta bwyd da yn sicrhau bod ein corff yn cadw mewn cyflwr da ac iach. Anogwch bawb i fod yn ddiolchgar am gynhaeaf da a thoreithiog.
  1. Ewch ymlaen i drafod ‘bwyta’n dda’. Nid yn unig faint o fwyd y byddwn ni’n ei fwyta sy’n bwysig, a’r ansawdd, mae’n bwysig bwyta amrywiaeth o fwyd hefyd. Cyfeiriwch at y ‘plât bwyta’n dda’, a fydd yn gyfarwydd i blant y rhan fwyaf o ysgolion. Awgrymwch y gallai fod yn hwyl llunio ‘plât bwyta’n dda’ enfawr i’w arddangos.

  2. Rhowch wahoddiad i aelodau cymuned yr ysgol i ddod ymlaen a chreu’r arddangosfa ‘plât bwyta’n dda’, gan ddweud y brawddegau canlynol ar yr un pryd:

    Gadewch i ni ddathlu Cynhaeaf Bwyta’n Dda a bod yn ddiolchgar - am ffrwythau a llysiau, fel orenau ac afalau, moron a phys . . . (pobl eraill i ychwanegu rhagor o eitemau). Gall bwyta pump o lysiau a ffrwythau bob dydd helpu i’n cadw’n iach.

    Gadewch i ni ddathlu Cynhaeaf Bwyta’n Dda a bod yn ddiolchgar - am fwydydd grawn iachus, fel bara, reis, pob math o basta, tatws a grawnfwyd brecwast. Dyma’r cynhaeaf i roi llawer o egni i ni!

    Gadewch i ni ddathlu Cynhaeaf Bwyta’n Dda a bod yn ddiolchgar - am lefrith a gwahanol fathau o gynnyrch llaeth, fel pob math o gaws ac iogwrt. Mae’r bwydydd yma’n rhoi’r calsiwm sydd ei angen arnom ni er mwyn bod ag esgyrn a dannedd iach.

    Gadewch i ni ddathlu Cynhaeaf Bwyta’n Dda a bod yn ddiolchgar - am fwydydd sy’n ein helpu i dyfu, fel cig, pysgod, wyau a ffa. Mae’r bwydydd hyn yn helpu i gryfhau pob rhan o’n corff bron.

    Gadewch i ni ddathlu Cynhaeaf Bwyta’n Dda a bod yn ddiolchgar - am bethau amheuthun a gawn ni fel ‘treat’ weithiau, sef bisgedi, teisennau a siocledi. Mae llawer o fraster a siwgr yn y  bwydydd yma, felly dim ond bwyta dipyn bach ar y tro, a hynny ddim yn rhy aml!

    Gadewch i ni ddathlu Cynhaeaf Bwyta’n Dda. Does dim un bwyd neilltuol sy’n gallu rhoi i ni bopeth y mae ar ein corff ei angen. Felly, rydyn ni’n ddiolchgar ein bod yn gallu cael cymaint o wahanol fathau o fwydydd i’n cadw yn gryf ac yn iach. Fe allech chi ganu Cân Cynhaeaf Iach (sy’n dilyn) ar y cam yma.

  3. Adolygwch y gwahanol grwpiau o fwyd a chyfeiriwch at sut y maen nhw wedi eu gosod mewn rhannau o  wahanol faint yn yr arddangosfa Cynhaeaf Iach. Mae’r rhain yn cynrychioli faint o’n bwyd ni a ddylai ddod o bob grwp os ydyn ni am fwyta’n dda a bod yn iach. Gwahoddwch gymuned yr ysgol i feddwl am y rhannau gwahanol faint. Pa fathau o fwydydd y dylem ni fwyta mwyaf ohonyn nhw? Mae’r arddangosfa Cynhaeaf Iach yn ogystal â’r plât bwyta’n dda yn dangos i ni y dylem ni geisio bwyta:

    - digon o ffrwythau a llysiau
    - digon o fara, reis, pasta, tatws a bwydydd starts eraill
    - rhywfaint o lefrith a bwydydd llaeth
    - rhywfaint o gig, pysgod, wyau a ffa
    - ychydig yn unig o’r bwydydd sydd â chanran uchel o fraster a siwgr yn ddyn nhw.

  4. Ystyriwch, wrth gwrs, nad yw’n bosib i ni fwyta pob un math o fwyd gyda’i gilydd bob pryd - ond mae’r ‘plât bwyta’n dda’ yn dangos i ni’r cydbwysedd o fwydydd y dylem ni amcanu i’w bwyta dros ddiwrnod cyfan neu dros gyfnod o wythnos.

Amser i feddwl

Gwahoddwch bawb i ganolbwyntio ar yr Arddangosfa Cynhaeaf Iach, a byddwch yn ddiolchgar am y gwahanol fwydydd sy’n helpu i gadw ein corff yn iach.
Yn achos pobl ffydd, mae llawenydd y cynhaeaf yn cael ei grynhoi iddyn nhw yn yr adnodau yma o’r Salmau:

O Arglwydd fy Nuw, mawr iawn wyt ti . . .

Yr wyt yn gwneud i’r gwellt dyfu i’r gwartheg, a phlanhigion at wasanaeth pobl,
i ddwyn allan fwyd o’r ddaear, a gwin i lonni calonnau pobl,
olew i ddisgleirio’u hwynebau a bara i gynnal eu calonnau.
(Salm 104: 14 -15)

Cân/cerddoriaeth

Cân Cynhaeaf Iach

Addasiad o gerdd gan Alan M. Barker
(tiwn: ‘Here we go round the mulberry bush’)

Beth gawn ni fwyta o’r cynhaeaf hwn . . .
Beth gawn ni fwyta o’r cynhaeaf hwn . . .
Beth gawn ni fwyta o’r cynhaeaf hwn,
I’n cadw’n dda ein hiechyd?

Fe hoffwn i fwyta afal iach
Fe hoffwn i fwyta afal iach
Fe hoffwn i fwyta afal iach
Bwyta’n iach o’r Cynhaeaf.
(Cytgan) Beth gawn ni fwyta o’r cynhaeaf hwn. . .? etc.

p2. Fe hoffwn i fwyta taten bob . . . etc.
(Cytgan) Beth gawn ni fwyta o’r cynhaeaf hwn. . .? etc.

p3. Fe hoffwn i fwyta iogwrt oer . . . etc.
(Cytgan) Beth gawn ni fwyta o’r cynhaeaf hwn. . .? etc.

p4. Fe hoffwn i fwyta wy mawr brown . . . etc.
(Cytgan) Beth gawn ni fwyta o’r cynhaeaf hwn. . .? etc.

p5. Weithiau, fel hoffwn i fisged fach . . . etc.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon